Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZRA
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 8
Ezra WelBeibl 8:1  Dyma'r penaethiaid, a'r bobl oedd yn perthyn i'w rhestrau teuluol nhw, ddaeth yn ôl gyda mi o Babilon. Artaxerxes oedd brenin Persia ar y pryd.
Ezra WelBeibl 8:2  Gershom, o deulu Phineas; Daniel, o deulu Ithamar; Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd; Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi'u cofrestru yn ôl eu teuluoedd);
Ezra WelBeibl 8:3  Gershom, o deulu Phineas; Daniel, o deulu Ithamar; Chattwsh fab Shechaneia, o deulu'r brenin Dafydd; Sechareia, o deulu Parosh (a 150 o ddynion oedd wedi'u cofrestru yn ôl eu teuluoedd);
Ezra WelBeibl 8:4  Elihoenai fab Seracheia, o deulu Pachath-Moab (a 200 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:5  Shechaneia fab Iachasiel, o deulu Sattw (a 300 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:6  Efed fab Jonathan, o deulu Adin (a 50 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:7  Ieshaia fab Athaleia, o deulu Elam (a 70 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:8  Sebadeia fab Michael, o deulu Sheffateia (ac 80 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:9  Obadeia fab Iechiel, o deulu Joab (a 218 o ddynion gydag e);
Ezra WelBeibl 8:10  Shlomith fab Iosiffîa, o deulu Bani (a 160 o ddynion gydag e);
Ezra WelBeibl 8:11  Sechareia fab Bebai, o deulu Bebai (a 28 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:12  Iochanan fab Haccatan, o deulu Asgad (a 110 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:13  a'r rhai ddaeth wedyn, o deulu Adonicam. Eu henwau nhw oedd Eliffelet, Jeiel a Shemaia (a 60 o ddynion);
Ezra WelBeibl 8:15  Dyma fi'n eu casglu nhw at ei gilydd wrth y gamlas sy'n rhedeg i Ahafâ. Buon ni'n gwersylla yno am dri diwrnod. Roedd pobl gyffredin ac offeiriaid yno gyda ni, ond dyma fi'n darganfod fod dim Lefiaid.
Ezra WelBeibl 8:16  Felly dyma fi'n anfon am Elieser, Ariel, Shemaia, Elnathan, Iarîf, Elnathan, Nathan, Sechareia, a Meshwlam, oedd yn arweinwyr, ac am Ioiarîf ac Elnathan, oedd yn athrawon.
Ezra WelBeibl 8:17  A dyma fi'n eu hanfon nhw at Ido, oedd yn bennaeth yn Casiffia. Dwedais wrthyn nhw am ofyn i Ido a'i berthnasau, oedd yn weision y deml, i anfon dynion aton ni fyddai'n gweithio yn nheml ein Duw.
Ezra WelBeibl 8:18  Roedd Duw gyda ni, a dyma nhw'n anfon crefftwr aton ni o deulu Machli (mab Lefi ac ŵyr i Israel), sef Sherefeia. A daeth ei feibion a'i frodyr gydag e – 18 o ddynion i gyd.
Ezra WelBeibl 8:19  Chashafeia hefyd, gyda Ieshaia, o deulu Merari, a'i frodyr a'i feibion e, sef 20 o ddynion.
Ezra WelBeibl 8:20  A hefyd, rhai oedd yn weision y deml (y rhai roedd y Brenin Dafydd a'i swyddogion wedi'u penodi i helpu'r Lefiaid) – 220 ohonyn nhw. A dyma enwau pob un ohonyn nhw yn cael eu rhestru.
Ezra WelBeibl 8:21  Yna dyma fi'n galw ar bawb oedd yno, wrth Gamlas Ahafâ, i ymprydio a plygu o flaen ein Duw, a gofyn iddo roi siwrnai saff i ni a'n plant a'n holl eiddo.
Ezra WelBeibl 8:22  Doedd gen i mo'r wyneb i ofyn i'r brenin roi milwyr a marchogion i'n hamddiffyn ni ar y ffordd. Wedi'r cwbl, roedden ni wedi dweud wrth y brenin, “Mae Duw'n gofalu am bawb sy'n ei geisio, ond mae'n ddig iawn hefo pawb sy'n troi cefn arno.”
Ezra WelBeibl 8:23  Felly buon ni'n ymprydio a gweddïo'n daer ar Dduw am hyn, a dyma fe'n ein hateb ni.
Ezra WelBeibl 8:24  Yna dyma fi'n dewis un deg dau o arweinwyr yr offeiriaid, a hefyd Sherefeia, Chashafeia a deg o'u perthnasau.
Ezra WelBeibl 8:25  Dyma fi'n pwyso'r arian, yr aur a'r llestri oedd i fynd i deml ein Duw a rhoi'r cwbl yn eu gofal nhw (sef y pethau roedd y brenin, ei gynghorwyr a'i swyddogion, a phawb o bobl Israel oedd yn Babilon, wedi'i gyfrannu):
Ezra WelBeibl 8:26  – 22 tunnell o arian; – Llestri arian oedd yn pwyso 3.4 tunnell; – 3.4 tunnell o aur;
Ezra WelBeibl 8:27  – 20 powlen aur yn pwyso 8.4 cilogram; – Dau lestr rhyfeddol o gain wedi'u gwneud o bres wedi'i loywi, mor werthfawr ag aur.
Ezra WelBeibl 8:28  Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi'ch cysegru i'r ARGLWYDD, yn union fel mae'r llestri yma wedi'u cysegru. Offrwm gwirfoddol i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ydy'r arian a'r aur yma.
Ezra WelBeibl 8:29  Dw i eisiau i chi ofalu amdano nes byddwch chi'n pwyso'r cwbl o flaen arweinwyr yr offeiriaid, y Lefiaid, a phenaethiaid teuluoedd Israel, yn stordai teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem.”
Ezra WelBeibl 8:30  Felly dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cymryd gofal o'r arian, yr aur a'r llestri oedd wedi cael eu pwyso, i fynd â nhw i deml ein Duw yn Jerwsalem.
Ezra WelBeibl 8:31  Dyma ni'n dechrau ar y daith o Gamlas Ahafâ i Jerwsalem ar y deuddegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Roedd Duw gyda ni, a dyma fe'n ein hachub ni rhag ein gelynion a rhag lladron ar y daith.
Ezra WelBeibl 8:32  Ar ôl cyrraedd Jerwsalem dyma ni'n gorffwys am dri diwrnod.
Ezra WelBeibl 8:33  Yna'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd i'r deml i bwyso'r arian a'r aur a'r llestri, a rhoi'r cwbl yng ngofal Meremoth fab Wreia, yr offeiriad. Roedd Eleasar fab Phineas gydag e, a dau Lefiad, sef Iosafad fab Ieshŵa a Noadeia fab Binnŵi.
Ezra WelBeibl 8:34  Cafodd popeth ei gyfri, ei bwyso a'i gofnodi yn y fan a'r lle.
Ezra WelBeibl 8:35  Yna dyma'r bobl oedd wedi dod yn ôl o'r gaethglud yn cyflwyno offrymau i'w llosgi i Dduw Israel – un deg dau o deirw dros bobl Israel i gyd, naw deg chwech hwrdd, a saith deg saith oen gwryw. Hefyd un deg dau bwch gafr yn offrwm dros bechod. Roedd y cwbl i gael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
Ezra WelBeibl 8:36  Wedyn dyma nhw'n cyflwyno gorchmynion y brenin i raglawiaid a llywodraethwyr Traws-Ewffrates, a gwnaeth y rheiny bopeth allen nhw i helpu'r bobl a'r gwaith ar deml Dduw.