I CHRONICLES
Chapter 15
I Ch | WelBeibl | 15:1 | Dyma Dafydd yn codi nifer o adeiladau yn Ninas Dafydd. A dyma fe'n paratoi lle i Arch Duw, a gosod pabell yn barod iddi. | |
I Ch | WelBeibl | 15:2 | Yna dyma Dafydd yn dweud, “Dim ond y Lefiaid sydd i gario Arch Duw, neb arall. Nhw mae'r ARGLWYDD wedi'u dewis i gario'r Arch ac i'w wasanaethu am byth.” | |
I Ch | WelBeibl | 15:3 | Dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem, i symud Arch yr ARGLWYDD i'r lle'r roedd wedi'i baratoi ar ei chyfer. | |
I Ch | WelBeibl | 15:11 | Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab. | |
I Ch | WelBeibl | 15:12 | A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'r lle dw i wedi'i baratoi iddi. | |
I Ch | WelBeibl | 15:13 | Roedd yr ARGLWYDD wedi'n cosbi ni y tro cyntaf am eich bod chi ddim gyda ni, a'n bod heb ofyn iddo am y ffordd iawn i'w symud.” | |
I Ch | WelBeibl | 15:14 | Felly dyma'r offeiriad a'r Lefiaid yn cysegru eu hunain i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel. | |
I Ch | WelBeibl | 15:15 | A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn. | |
I Ch | WelBeibl | 15:16 | Yna dyma Dafydd yn dweud wrth arweinwyr y Lefiad i ddewis rhai o'u perthnasau oedd yn gerddorion i ganu offerynnau cerdd, nablau, telynau a symbalau, ac i ganu'n llawen. | |
I Ch | WelBeibl | 15:17 | Felly dyma'r Lefiaid yn penodi Heman fab Joel; un o'i berthnasau, Asaff fab Berecheia; ac un o ddisgynyddion Merari, Ethan fab Cwshaia. | |
I Ch | WelBeibl | 15:18 | Yna cafodd rhai o'u perthnasau eu dewis i'w helpu: Sechareia, Iaäsiel, Shemiramoth, Iechiel, Wnni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffelehw, Micneia ac Obed-Edom a Jeiel oedd yn gwylio'r giatiau. | |
I Ch | WelBeibl | 15:20 | Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Iechiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach; | |
I Ch | WelBeibl | 15:21 | Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain. | |
I Ch | WelBeibl | 15:22 | Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd arweinydd y côr, am fod ganddo brofiad yn y maes; | |
I Ch | WelBeibl | 15:24 | a'r offeiriaid Shefaneia, Ioshaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yn canu'r utgyrn o flaen yr Arch. Roedd Obed-Edom a Iecheia hefyd yn gwylio'r Arch. | |
I Ch | WelBeibl | 15:25 | Felly dyma Dafydd, ac arweinwyr Israel, a chapteiniaid yr unedau o fil, yn mynd i dŷ Obed-edom i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i Jerwsalem, gyda dathlu mawr. | |
I Ch | WelBeibl | 15:26 | Am fod Duw yn helpu'r Lefiaid i gario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, dyma nhw'n aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd. | |
I Ch | WelBeibl | 15:27 | Roedd Dafydd a'r Lefiaid oedd yn cario'r arch, y cerddorion, a Cenaneia, arweinydd y côr, mewn gwisgoedd o liain main. Roedd Dafydd yn gwisgo effod hefyd, sef crys offeiriad. | |
I Ch | WelBeibl | 15:28 | Felly dyma Israel gyfan yn hebrwng Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD gan weiddi, a chanu'r corn hwrdd ac utgyrn, symbalau, nablau a thelynau. | |