I SAMUEL
Chapter 1
I Sa | WelBeibl | 1:1 | Roedd yna ddyn o'r enw Elcana yn byw yn Rama ym mryniau Effraim. Roedd yn perthyn i deulu Swff, un o hen deuluoedd Effraim. (Ierocham oedd ei dad, a hwnnw'n fab i Elihw, mab Tochw, mab Swff.) | |
I Sa | WelBeibl | 1:2 | Roedd gan Elcana ddwy wraig, Hanna a Penina. Roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna. | |
I Sa | WelBeibl | 1:3 | Bob blwyddyn byddai Elcana yn mynd i Seilo i addoli a chyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD hollbwerus. Yr offeiriaid yno oedd Hoffni a Phineas, meibion Eli. | |
I Sa | WelBeibl | 1:4 | Pan fyddai Elcana yn aberthu byddai'n arfer rhoi cyfran o'r cig bob un i Penina a'i meibion a'i merched i gyd. | |
I Sa | WelBeibl | 1:5 | Ond byddai'n rhoi cyfran sbesial i Hanna, am mai hi oedd e'n ei charu fwyaf, er fod Duw wedi'i rhwystro hi rhag cael plant. | |
I Sa | WelBeibl | 1:6 | Roedd Penina yn arfer herian Hanna yn arw a'i phryfocio am ei bod yn methu cael plant. | |
I Sa | WelBeibl | 1:7 | Yr un peth oedd yn digwydd bob blwyddyn pan oedden nhw'n mynd i gysegr yr ARGLWYDD. Byddai Penina yn pryfocio Hanna nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta. | |
I Sa | WelBeibl | 1:8 | A byddai Elcana yn dweud wrthi, “Hanna, pam wyt ti'n crio a ddim yn bwyta? Pam wyt ti mor ddigalon? Ydw i ddim yn well na deg mab i ti?” | |
I Sa | WelBeibl | 1:9 | Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna'n codi a mynd i weddïo. Roedd Eli'r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd. | |
I Sa | WelBeibl | 1:11 | A dyma hi'n addo i Dduw, “ARGLWYDD hollbwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a pheidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i ti am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.” | |
I Sa | WelBeibl | 1:13 | Am ei bod hi'n gweddïo'n dawel, roedd e'n gweld ei gwefusau'n symud ond heb glywed dim, felly roedd e'n meddwl ei bod hi wedi meddwi. | |
I Sa | WelBeibl | 1:15 | Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD. | |
I Sa | WelBeibl | 1:16 | Paid meddwl amdana i fel rhyw wraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i'n teimlo.” | |
I Sa | WelBeibl | 1:17 | “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” | |
I Sa | WelBeibl | 1:18 | A dyma hi'n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach. | |
I Sa | WelBeibl | 1:19 | Yna bore drannoeth, dyma nhw'n codi ac addoli'r ARGLWYDD cyn mynd adre'n ôl i Rama. Dyma Elcana'n cysgu gyda'i wraig, a chofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi. | |
I Sa | WelBeibl | 1:20 | Dyma Hanna'n beichiogi, a chyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e'n Samuel, am ei bod wedi gofyn i'r ARGLWYDD amdano. | |
I Sa | WelBeibl | 1:21 | Daeth yn amser i Elcana a'i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a chyflawni addewid wnaeth e i Dduw. | |
I Sa | WelBeibl | 1:22 | Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD, a bydd e'n aros yno o hynny ymlaen.” | |
I Sa | WelBeibl | 1:23 | Meddai Elcana, “Gwna di beth ti'n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu'r plentyn nes ei fod ddim angen y fron. | |
I Sa | WelBeibl | 1:24 | Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tharw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e. | |
I Sa | WelBeibl | 1:26 | Dyma Hanna'n cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy'r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw. | |