JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 19
Jere | WelBeibl | 19:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu jwg gan y crochenydd. Wedyn, dos ag arweinwyr y bobl a'r offeiriaid hynaf gyda ti | |
Jere | WelBeibl | 19:2 | i ddyffryn Ben-hinnom sydd tu allan i Giât y Sbwriel. Yno, dywed wrthyn nhw beth dw i'n ddweud wrthot ti. | |
Jere | WelBeibl | 19:3 | Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i'r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn gegagored. | |
Jere | WelBeibl | 19:4 | Mae'r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill – duwiau nad oedden nhw na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma! | |
Jere | WelBeibl | 19:5 | Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai'r fath beth byth yn croesi fy meddwl i! | |
Jere | WelBeibl | 19:6 | “‘“Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. Dyffryn y Lladdfa fydd enw'r lle. | |
Jere | WelBeibl | 19:7 | Bydda i'n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff nhw. | |
Jere | WelBeibl | 19:8 | Bydd y ddinas yma'n cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. | |
Jere | WelBeibl | 19:9 | Bydda i'n gwneud iddyn nhw fwyta'u meibion a'u merched. Byddan nhw'n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a'r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi'r fath bwysau arnyn nhw.”’ | |
Jere | WelBeibl | 19:10 | “Wedyn dw i eisiau i ti falu'r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti, | |
Jere | WelBeibl | 19:11 | yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: ‘Dw i'n mynd i ddryllio'r wlad yma a'r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri'n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl! | |
Jere | WelBeibl | 19:12 | A bydd hi'r un fath ar y ddinas yma a'i phobl,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma! | |
Jere | WelBeibl | 19:13 | Am fod pobl wedi aberthu i'r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau'r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi'i llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’” | |
Jere | WelBeibl | 19:14 | Ar ôl dod yn ôl o Toffet, lle roedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon i broffwydo, dyma Jeremeia'n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno. | |