Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDGES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 3
Judg WelBeibl 3:1  Roedd yr ARGLWYDD wedi gadael y bobloedd yn y wlad er mwyn profi pobl Israel (sef y rhai oedd ddim wedi gorfod brwydro yn erbyn y Canaaneaid eu hunain).
Judg WelBeibl 3:2  Roedd e eisiau i bob cenhedlaeth oedd ddim wedi cael profiad o ryfela, ddysgu sut i ymladd.
Judg WelBeibl 3:3  Dyma'r bobloedd oedd ar ôl: Y Philistiaid a'u pum arweinydd, y Canaaneaid i gyd, y Sidoniaid a'r Hefiaid oedd yn byw yn mynydd-dir Libanus (o Fynydd Baal-hermon i Fwlch Chamath).
Judg WelBeibl 3:4  Cafodd y rhain eu gadael i brofi pobl Israel, er mwyn gweld fyddai'r bobl yn ufudd i'r gorchmynion roedd yr ARGLWYDD wedi'u rhoi i'w hynafiaid nhw drwy Moses.
Judg WelBeibl 3:5  Roedd pobl Israel wedi setlo i lawr yng nghanol y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
Judg WelBeibl 3:6  Roedden nhw'n priodi eu merched, ac yn rhoi eu merched eu hunain i'r Canaaneaid. Ac roedden nhw'n addoli eu duwiau nhw hefyd.
Judg WelBeibl 3:7  Gwnaeth pobl Israel rywbeth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera.
Judg WelBeibl 3:8  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i Cwshan-rishathaïm, brenin Mesopotamia, eu rheoli nhw. Roedden nhw'n gaethion i Cwshan-rishathaïm am wyth mlynedd.
Judg WelBeibl 3:9  Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw – Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb).
Judg WelBeibl 3:10  Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaïm. A dyma Othniel yn ennill y frwydr.
Judg WelBeibl 3:11  Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw.
Judg WelBeibl 3:12  Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly, o achos hyn, dyma'r ARGLWYDD yn gadael i Eglon, brenin Moab, reoli Israel.
Judg WelBeibl 3:13  Roedd Eglon wedi ffurfio cynghrair milwrol gyda'r Ammoniaid a'r Amaleciaid i ymosod ar Israel. Dyma nhw'n ennill y frwydr ac yn dal Jericho.
Judg WelBeibl 3:14  Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd.
Judg WelBeibl 3:15  Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera, o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith. Roedd Ehwd i fod i fynd â threthi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.
Judg WelBeibl 3:16  Ond cyn mynd, dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde, o dan ei ddillad.
Judg WelBeibl 3:17  Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn.
Judg WelBeibl 3:18  Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre.
Judg WelBeibl 3:19  Ond pan ddaethon nhw at y delwau cerrig yn Gilgal, dyma Ehwd yn troi yn ei ôl. A dyma fe'n dweud wrth y Brenin Eglon, “Mae gen i neges gyfrinachol i'w rhannu gyda chi, eich mawrhydi.” “Ust! Aros eiliad,” meddai Eglon; a dyma fe'n anfon ei weision i gyd allan.
Judg WelBeibl 3:20  Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf – ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!” Pan gododd y brenin ar ei draed,
Judg WelBeibl 3:21  tynnodd Ehwd ei gleddyf allan gyda'i law chwith a'i wthio i stumog Eglon.
Judg WelBeibl 3:22  Aeth mor ddwfn nes i'r carn fynd ar ôl y llafn, a diflannu yn ei floneg. Allai Ehwd ddim tynnu'r cleddyf allan.
Judg WelBeibl 3:23  Yna dyma fe'n cloi drysau'r ystafell, a dianc drwy ddringo i lawr y twll carthion o'r tŷ bach.
Judg WelBeibl 3:24  Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi'u cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e'n y tŷ bach.”
Judg WelBeibl 3:25  Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth. Doedd e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd a mynd i mewn. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!
Judg WelBeibl 3:26  Ond erbyn hynny roedd Ehwd wedi hen ddianc. Roedd wedi mynd heibio'r delwau cerrig, ac ar y ffordd i Seira.
Judg WelBeibl 3:27  Pan gyrhaeddodd Seira, dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd ar fryniau Effraim, i alw byddin at ei gilydd. A dyma ddynion Effraim yn mynd yn ôl i lawr gydag e o'r bryniau. Ehwd oedd yn eu harwain.
Judg WelBeibl 3:28  “Dewch!” meddai. “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i chi yn erbyn eich gelynion, y Moabiaid!” Felly aethon nhw ar ei ôl i lawr i ddyffryn Iorddonen, a dal y rhydau lle mae pobl yn croesi drosodd i Moab. Doedden nhw ddim yn gadael i unrhyw un groesi.
Judg WelBeibl 3:29  Y diwrnod hwnnw, lladdon nhw tua deg mil o filwyr gorau Moab – dynion cryf i gyd. Wnaeth dim un ohonyn nhw ddianc.
Judg WelBeibl 3:30  Cafodd byddin Moab ei threchu'n llwyr y diwrnod hwnnw, ac roedd heddwch yn y wlad am wyth deg mlynedd.
Judg WelBeibl 3:31  Ar ôl Ehwd, yr un nesaf i achub Israel oedd Shamgar, mab Anat. Lladdodd Shamgar chwe chant o Philistiaid gyda ffon brocio ychen.