Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 15
Levi WelBeibl 15:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Pan mae dyn yn diodde o glefyd ar ei bidyn, mae'n ei wneud e'n aflan.
Levi WelBeibl 15:3  Gall yr aflendid fod yn ddiferiad cyson, neu'n rhyw rwystr sy'n ei gwneud yn anodd iddo biso.
Levi WelBeibl 15:4  Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd.
Levi WelBeibl 15:5  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:6  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:7  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:8  “Os ydy'r dyn sydd â'r afiechyd arno yn poeri ar rywun, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi hefyd. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:9  Mae cyfrwy neu unrhyw beth arall mae'r dyn sydd â'r afiechyd arno wedi eistedd arno wrth deithio yn aflan.
Levi WelBeibl 15:10  Mae unrhyw un sy'n cyffwrdd unrhyw un o'r pethau yma yn aflan am weddill y dydd. Ac os ydy rhywun yn cario rhywbeth mae e wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:11  Os ydy'r dyn yn cyffwrdd rhywun heb olchi ei ddwylo, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:12  Rhaid torri unrhyw lestr pridd mae e wedi'i gyffwrdd. Rhaid golchi unrhyw fowlen bren mae e wedi'i chyffwrdd.
Levi WelBeibl 15:13  “Pan mae'r dyn yn gwella o'i afiechyd, saith diwrnod wedyn mae i olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr glân.
Levi WelBeibl 15:14  Y diwrnod wedyn mae i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, mynd â nhw o flaen yr ARGLWYDD wrth fynedfa'r Tabernacl, a'u rhoi nhw i'r offeiriad.
Levi WelBeibl 15:15  Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw ar ôl iddo wella o'i afiechyd.
Levi WelBeibl 15:16  “Pan mae dyn yn gollwng ei had, rhaid iddo olchi ei gorff i gyd mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:17  Os ydy ei had yn cyffwrdd rhywbeth sydd wedi'i wneud o frethyn neu o ledr, rhaid eu golchi nhw. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:18  Pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig, rhaid i'r ddau ohonyn nhw ymolchi mewn dŵr. Ond byddan nhw'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:19  “Pan mae gwraig yn diodde o'r misglwyf, mae hi'n aros yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw un sy'n ei chyffwrdd hi yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:20  Bydd popeth mae hi'n gorwedd arno neu'n eistedd arno yn y cyfnod yma yn aflan.
Levi WelBeibl 15:21  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:22  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:23  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd ei gwely hi, neu unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:24  Os ydy dyn yn cael rhyw gyda hi yn ystod y cyfnod yma, bydd e hefyd yn aflan am saith diwrnod. A bydd unrhyw wely mae e'n gorwedd arno yn aflan.
Levi WelBeibl 15:25  “Os ydy gwraig yn diodde o waedlif am gyfnod ar wahân i'w misglwyf, mae'r un peth yn wir bryd hynny. Mae hi'n aflan.
Levi WelBeibl 15:26  Bydd pob gwely mae hi'n gorwedd arno yn ystod y cyfnod o waedlif, ac unrhyw beth mae hi'n eistedd arno yn yr un cyfnod, yn aflan (yr un fath â phan mae hi'n diodde o'r misglwyf).
Levi WelBeibl 15:27  Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd un o'r pethau yna, bydd y person hwnnw yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. A bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
Levi WelBeibl 15:28  Os ydy'r gwaedlif yn peidio, mae hi i aros am saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd hi'n lân.
Levi WelBeibl 15:29  Y diwrnod wedyn mae hi i gymryd dwy durtur neu ddwy golomen, a mynd â nhw i'r offeiriad wrth y fynedfa i'r Tabernacl.
Levi WelBeibl 15:30  Bydd yr offeiriad yn cyflwyno un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi a Duw ar ôl i'w gwaedlif hi stopio.
Levi WelBeibl 15:31  “Dyna sut ydych chi i gadw pobl Israel ar wahân i'r pethau sy'n eu gwneud nhw'n aflan. Does gen i ddim eisiau iddyn nhw farw yn eu haflendid am eu bod nhw wedi llygru'r Tabernacl sydd yn eu plith nhw.
Levi WelBeibl 15:32  “A dyna'r drefn gyda dyn sydd â clefyd ar ei bidyn neu sydd wedi gollwng ei had ac sy'n aflan o ganlyniad i hynny.
Levi WelBeibl 15:33  A hefyd i wraig sy'n diodde o'r misglwyf, neu'n diodde o waedlif. Hefyd pan mae dyn yn cael rhyw gyda gwraig yn ystod y cyfnod pan mae hi'n aflan.”