Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
LEVITICUS
Prev Up Next
Chapter 18
Levi WelBeibl 18:2  “Dwed wrth bobl Israel: “Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.
Levi WelBeibl 18:3  Peidiwch gwneud yr un fath â phobl yr Aifft, ble roeddech chi'n arfer byw. Na'r un fath â phobl Canaan, ble dw i'n mynd â chi. Peidiwch dilyn eu harferion nhw.
Levi WelBeibl 18:4  Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi ddilyn fy rheolau i, a gwneud be dw i'n ddweud wrthoch chi.
Levi WelBeibl 18:5  Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i. Y rhai sy'n gwneud y pethau yma sy'n cael byw go iawn. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 18:6  “Paid cael rhyw gyda rhywun sy'n perthyn yn agos i ti.
Levi WelBeibl 18:7  Paid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy fam. Dy fam di ydy hi!
Levi WelBeibl 18:8  A phaid amharchu dy dad drwy gael rhyw gyda dy lysfam, gwraig dy dad.
Levi WelBeibl 18:9  Paid cael rhyw gyda dy chwaer neu dy hanner chwaer – sdim ots ble mae hi wedi'i geni.
Levi WelBeibl 18:10  Paid cael rhyw gyda phlentyn dy fab neu dy ferch. Maen nhw'n perthyn yn agos i ti!
Levi WelBeibl 18:12  Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy dad. Mae hi'n berthynas agos i dy dad.
Levi WelBeibl 18:13  Paid cael rhyw gyda dy fodryb, chwaer dy fam. Mae hi'n berthynas agos i dy fam.
Levi WelBeibl 18:14  Paid amharchu dy ewyrth, brawd dy dad, drwy gael rhyw gyda'i wraig. Dy fodryb di ydy hi!
Levi WelBeibl 18:15  Paid cael rhyw gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Gwraig dy fab di ydy hi, a ti ddim i gael rhyw gyda hi.
Levi WelBeibl 18:16  Paid cael rhyw gyda gwraig dy frawd. Hi ydy perthynas agosaf dy frawd.
Levi WelBeibl 18:17  Paid cael rhyw gyda merch neu wyres unrhyw wraig rwyt ti wedi cael rhyw gyda hi yn y gorffennol. Maen nhw'n perthyn yn agos i'r wraig honno, ac mae gwneud peth felly yn gwbl ffiaidd.
Levi WelBeibl 18:18  Paid achosi ffrae drwy briodi chwaer dy wraig, a chael rhyw gyda hi, pan mae dy wraig yn dal yn fyw.
Levi WelBeibl 18:19  “Paid cael rhyw gyda gwraig pan mae hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛ am ei bod yn diodde o'r misglwyf.
Levi WelBeibl 18:20  Paid cael rhyw gyda gwraig rhywun arall. Mae gwneud peth felly yn dy wneud di'n ‛aflan‛.
Levi WelBeibl 18:21  “Paid rhoi un o dy blant i'w losgi'n fyw i'r duw Molech. Mae gwneud peth felly yn sarhau enw Duw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
Levi WelBeibl 18:22  Dydy dyn ddim i gael rhyw gyda dyn arall. Mae hynny'n beth ffiaidd i'w wneud.
Levi WelBeibl 18:23  Paid cael rhyw gydag anifail. Mae gwneud peth felly yn dy wneud di'n aflan. Rhaid i wraig beidio rhoi ei hun i anifail i gael rhyw gydag e. Mae'n beth ffiaidd, annaturiol i'w wneud.
Levi WelBeibl 18:24  “Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy wneud pethau fel yna. Dyna sut mae'r bobloedd dw i'n mynd i'w gyrru allan o'ch blaen chi wedi llygru eu hunain.
Levi WelBeibl 18:25  Mae'r tir ei hun wedi cael ei wneud yn aflan yn fy ngolwg i. Dyna pam dw i'n eu cosbi nhw. Bydd y tir yn eu chwydu nhw allan.
Levi WelBeibl 18:26  Byddwch yn ufudd, a chadw fy rheolau i. Peidiwch gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd maen nhw'n eu gwneud; neb ohonoch chi – pobl Israel nac unrhyw un arall sy'n byw gyda chi.
Levi WelBeibl 18:27  (Roedd y bobl oedd yn byw yn y wlad o'ch blaen chi yn gwneud y pethau yma i gyd, ac roedd hynny wedi gwneud y wlad yn aflan yn fy ngolwg i.)
Levi WelBeibl 18:28  Os gwnewch chi'r un pethau, bydd y tir yn eich chwydu chi allan hefyd yr un fath.
Levi WelBeibl 18:29  Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd yma, bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
Levi WelBeibl 18:30  Gwnewch beth dw i'n eich siarsio chi i'w wneud, a pheidio gwneud y pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud gan y bobl sydd yno o'ch blaen chi. Peidiwch gwneud y pethau sy'n eich gwneud chi'n aflan yn fy ngolwg i. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”