MARK
Chapter 7
Mark | WelBeibl | 7:1 | Dyma'r Phariseaid a rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd wedi dod o Jerwsalem yn casglu o gwmpas Iesu. | |
Mark | WelBeibl | 7:2 | Roedden nhw wedi sylwi fod rhai o ddisgyblion Iesu ddim yn golchi eu dwylo yn y ffordd iawn cyn bwyta. | |
Mark | WelBeibl | 7:3 | (Dydy'r Phariseaid a phobl Jwda byth yn bwyta heb fynd drwy ddefod golchi dwylo fel mae'r traddodiad crefyddol yn gofyn. | |
Mark | WelBeibl | 7:4 | Wnân nhw ddim bwyta dim wedi'i brynu yn y farchnad chwaith heb fynd drwy ddefod golchi. Ac mae ganddyn nhw lawer o reolau eraill tebyg, fel defod golchi cwpanau, jygiau a llestri copr o bob math.) | |
Mark | WelBeibl | 7:5 | Gofynnodd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith i Iesu, “Pam dydy dy ddisgyblion di ddim yn cadw'r traddodiad. Maen nhw'n bwyta heb olchi eu dwylo!” | |
Mark | WelBeibl | 7:6 | Atebodd Iesu, “Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi. Dych chi mor ddauwynebog! “Dyma ddwedodd e: ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. | |
Mark | WelBeibl | 7:8 | “Dych chi'n diystyru beth mae Duw wedi'i orchymyn, ac yn lle hynny yn glynu wrth eich traddodiad crefyddol.” | |
Mark | WelBeibl | 7:9 | “Ie, gwrthod beth mae Duw yn ei ddweud er mwyn cadw'ch traddodiadau eich hunain!” meddai wrthyn nhw. | |
Mark | WelBeibl | 7:10 | “Er enghraifft, dwedodd Moses, ‘Gofala am dy dad a dy fam,’ a, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’ | |
Mark | WelBeibl | 7:11 | Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed: ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi'i gyflwyno'n rhodd i Dduw.’ | |
Mark | WelBeibl | 7:13 | Dych chi'n defnyddio'ch traddodiad i osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Ac mae digon o enghreifftiau eraill o'r un math o beth y gallwn i sôn amdanyn nhw.” | |
Mark | WelBeibl | 7:14 | Dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato eto, a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch arna i, dw i am i chi i gyd ddeall hyn. | |
Mark | WelBeibl | 7:15 | Dydy beth dych chi'n ei fwyta ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛. Beth sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛ – pethau dych chi'n eu dweud a'u gwneud.” | |
Mark | WelBeibl | 7:17 | Pan aeth i mewn i'r tŷ ar ôl gadael y dyrfa, gofynnodd ei ddisgyblion iddo esbonio'r peth iddyn nhw. | |
Mark | WelBeibl | 7:18 | “Ydych chi wir mor ddwl?” meddai. “Ydych chi ddim yn gweld mai dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛? | |
Mark | WelBeibl | 7:19 | Dydy bwyd ddim yn mynd yn agos at y galon, dim ond pasio drwy'r stumog ac yna dod allan yn y tŷ bach.” (Wrth ddweud hyn roedd Iesu'n dweud fod pob bwyd yn iawn i'w fwyta.) | |
Mark | WelBeibl | 7:21 | “O'r tu mewn i chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel anfoesoldeb rhywiol, dwyn, llofruddio, | |
Mark | WelBeibl | 7:22 | godinebu, bod yn farus, bod yn faleisus, twyllo, penrhyddid, bod yn hunanol, hel straeon cas, bod yn haerllug ac ymddwyn yn ffôl. | |
Mark | WelBeibl | 7:24 | Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach, ond methodd. | |
Mark | WelBeibl | 7:25 | Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen – roedd ganddi ferch fach oedd wedi'i meddiannu gan ysbryd drwg. | |
Mark | WelBeibl | 7:26 | Gwraig wedi'i geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi'n pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch. | |
Mark | WelBeibl | 7:27 | Dwedodd Iesu wrthi, “Rhaid i'r plant gael bwyta beth maen nhw eisiau gyntaf. Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.” | |
Mark | WelBeibl | 7:28 | “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.” | |
Mark | WelBeibl | 7:29 | “Am i ti roi ateb mor dda,” meddai Iesu wrthi, “cei fynd adre; mae'r cythraul wedi gadael dy ferch.” | |
Mark | WelBeibl | 7:30 | Felly aeth adre, a dyna lle roedd ei merch yn gorwedd ar ei gwely, a'r cythraul wedi'i gadael. | |
Mark | WelBeibl | 7:31 | Aeth Iesu yn ei flaen o ardal Tyrus a mynd drwy Sidon ac yna yn ôl i lawr at Lyn Galilea i ardal Decapolis. | |
Mark | WelBeibl | 7:32 | Yno daeth rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir, a gofyn iddo osod ei ddwylo ar y dyn a'i iacháu. | |
Mark | WelBeibl | 7:33 | Aeth Iesu a'r dyn i ffwrdd o olwg y dyrfa. Rhoddodd ei fysedd yng nghlustiau'r dyn ac wedyn poeri ar ei fysedd cyn cyffwrdd tafod y dyn. | |
Mark | WelBeibl | 7:34 | Edrychodd i fyny i'r nefoedd, ac meddai gydag ochenaid ddofn, “Eph-phatha!” (sy'n golygu, “Agor!”) | |
Mark | WelBeibl | 7:36 | Dwedodd Iesu wrthyn nhw am beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd. Ond po fwya oedd Iesu'n dweud wrth bobl i beidio, mwya oedden nhw'n dweud wrth bawb am y pethau roedd yn eu gwneud. | |