Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next
Chapter 19
Matt WelBeibl 19:1  Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, gadawodd Galilea a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen.
Matt WelBeibl 19:2  Cafodd ei ddilyn gan dyrfaoedd mawr, ac iachaodd eu cleifion.
Matt WelBeibl 19:3  Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?”
Matt WelBeibl 19:4  Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? – ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’
Matt WelBeibl 19:5  a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’
Matt WelBeibl 19:6  Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi'i uno.”
Matt WelBeibl 19:7  Ond dyma nhw'n gofyn iddo, “Ond pam felly wnaeth Moses ddweud fod rhaid i ddyn roi tystysgrif ysgariad i'w wraig cyn ei hanfon i ffwrdd?”
Matt WelBeibl 19:8  “Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau.
Matt WelBeibl 19:9  Wir i chi, mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”
Matt WelBeibl 19:10  Meddai'r disgyblion wrtho, “Mae'n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna mae hi!”
Matt WelBeibl 19:11  Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoi'r gallu i rai.
Matt WelBeibl 19:12  Mae rhai pobl wedi'u geni'n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a'u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai'n dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai'r rhai sydd â'r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.”
Matt WelBeibl 19:13  Dyma bobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo osod ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.
Matt WelBeibl 19:14  Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.”
Matt WelBeibl 19:15  Ar ôl iddo osod ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno.
Matt WelBeibl 19:16  Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy'n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”
Matt WelBeibl 19:17  “Pam wyt ti'n gofyn cwestiynau i mi am beth sy'n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy'n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i'r bywyd, ufuddha i'r gorchmynion.”
Matt WelBeibl 19:18  “Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals,
Matt WelBeibl 19:19  gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun’.”
Matt WelBeibl 19:20  “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd,” meddai'r dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.”
Matt WelBeibl 19:21  Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Matt WelBeibl 19:22  Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
Matt WelBeibl 19:23  Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae'n anodd i rywun cyfoethog adael i'r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd.
Matt WelBeibl 19:24  Gadewch i mi ddweud eto – mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Matt WelBeibl 19:25  Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw.
Matt WelBeibl 19:26  Ond dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!”
Matt WelBeibl 19:27  Yna dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni'n ei gael?”
Matt WelBeibl 19:28  Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi – pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.
Matt WelBeibl 19:29  Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol.
Matt WelBeibl 19:30  Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”