Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
DEUTERONOMY
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 22
Deut WelBeibl 22:1  Os wyt ti'n gweld buwch, dafad neu afr rhywun ar goll, paid â'i hanwybyddu. Dos â'r anifail yn ôl at y perchennog.
Deut WelBeibl 22:2  Os nad wyt ti'n gwybod pwy ydy'r perchennog, neu os ydy e'n byw yn rhy bell, dos â'r anifail adre a gofalu amdano. Ond pan ddaw'r perchennog i edrych amdano, rhaid i ti roi'r anifail yn ôl iddo.
Deut WelBeibl 22:3  Gwna'r un fath gydag unrhyw beth ti'n dod o hyd iddo – asyn, dilledyn, unrhyw beth biau rhywun arall. Paid dim ond anwybyddu'r peth.
Deut WelBeibl 22:4  Os wyt ti'n dod ar draws rhywun mewn trafferth am fod ei asyn neu ych wedi syrthio ac yn methu codi, paid â'i anwybyddu. Helpa fe i gael yr anifail ar ei draed unwaith eto.
Deut WelBeibl 22:5  Ddylai merch ddim gwisgo dillad dyn, a ddylai dyn ddim gwisgo dillad merch. Mae gwneud peth felly yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
Deut WelBeibl 22:6  Os wyt ti'n digwydd dod ar draws nyth (mewn coeden neu ar lawr) gyda cywion neu wyau ynddi, a'r iâr yn eistedd arnyn nhw, paid cymryd yr iâr oddi ar y rhai bach.
Deut WelBeibl 22:7  Cei gymryd y rhai bach, ond gad i'r fam fynd. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a chei fyw'n hir.
Deut WelBeibl 22:8  Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.
Deut WelBeibl 22:9  Rhaid peidio plannu unrhyw gnwd arall mewn gwinllan. Bydd beth bynnag gafodd ei blannu, a'r grawnwin, wedi'u halogi ac yn dda i ddim.
Deut WelBeibl 22:10  Ddylai ych ac asyn ddim cael eu defnyddio gyda'i gilydd i aredig.
Deut WelBeibl 22:11  Paid gwisgo dillad wedi'u gwneud o frethyn sy'n gymysgedd o wlân a llin.
Deut WelBeibl 22:12  Gwna daselau i'w gosod ar bedair cornel dy fantell.
Deut WelBeibl 22:13  “Dyma sydd i ddigwydd os ydy dyn yn priodi merch, ac yn cymryd yn ei herbyn ar ôl cael perthynas rywiol gyda hi.
Deut WelBeibl 22:14  Mae'n ei chyhuddo hi o gamfihafio, ac yn dweud, ‘Dw i wedi priodi'r ferch yma, ond wrth gael rhyw gyda hi, wedi darganfod ei bod hi ddim yn wyryf!’
Deut WelBeibl 22:15  Pan mae hyn yn digwydd, rhaid i rieni'r ferch ifanc fynd â'r dystiolaeth ei bod hi'n wyryf i'w ddangos i arweinwyr y dref yn y llys wrth giatiau'r dref.
Deut WelBeibl 22:16  Yna rhaid i'r tad ddweud wrth yr arweinwyr, ‘Rôn i wedi rhoi fy merch yn wraig i'r dyn yma, ond mae e wedi troi'n ei herbyn hi,
Deut WelBeibl 22:17  a'i chyhuddo hi, ei bod hi ddim yn wyryf. Ond dyma'r prawf ei bod hi'n wyryf!’ Yna rhaid i rieni'r ferch ledu cynfas y gwely priodas o flaen yr arweinwyr, iddyn nhw weld y dystiolaeth.
Deut WelBeibl 22:18  Wedyn rhaid i arweinwyr y dref arestio'r dyn a'i gosbi.
Deut WelBeibl 22:19  Maen nhw i roi dirwy o gant o ddarnau arian iddo, a rhoi'r arian hwnnw i dad y ferch ifanc. Roedd ei gyhuddiad wedi rhoi enw drwg i un o ferched ifanc Israel, a hithau'n wyryf. Bydd y ferch yn aros yn wraig iddo am weddill ei fywyd, a fydd ganddo ddim hawl i'w hysgaru hi.
Deut WelBeibl 22:20  “Ond os ydy'r cyhuddiad yn cael ei brofi'n wir, a'r ferch ifanc ddim yn wyryf,
Deut WelBeibl 22:21  rhaid i ddynion y dref fynd â'r ferch at ddrws tŷ ei thad, a'i lladd drwy daflu cerrig ati. Roedd hi wedi actio fel putain pan oedd hi'n dal i fyw gyda'i rhieni – peth gwarthus i'w wneud yn Israel! Rhaid i chi gael gwared â'r drwg o'ch plith.
Deut WelBeibl 22:22  “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn cael rhyw gyda gwraig rhywun arall, rhaid i'r ddau ohonyn nhw farw. Rhaid cael gwared â'r drwg o Israel.
Deut WelBeibl 22:23  “Os ydy merch, sy'n wyryf ac wedi'i dyweddïo, yn cyfarfod dyn arall yn y dref ac yn cael rhyw gydag e,
Deut WelBeibl 22:24  rhaid mynd â'r ddau ohonyn nhw i'r llys wrth giât y dref a'u lladd nhw drwy daflu cerrig atyn nhw. Mae'r ferch ifanc yn euog am ei bod hi heb weiddi am help, er fod y peth wedi digwydd yn y dref. Ac mae'r dyn i gael ei gosbi am dreisio dyweddi dyn arall. Rhaid cael gwared â'r drwg o'ch plith!
Deut WelBeibl 22:25  “Ond os digwyddodd y peth yng nghefn gwlad, a'r dyn wedi fforsio'i hun arni a'i threisio hi, dim ond y dyn sydd i farw.
Deut WelBeibl 22:26  Dydy'r ferch ifanc ddim i gael ei chosbi o gwbl. Wnaeth hi ddim byd o'i le i haeddu marw. Mae'r un fath â pan mae rhywun wedi ymosod ar berson arall a'i lofruddio –
Deut WelBeibl 22:27  roedd y peth wedi digwydd yng nghefn gwlad, lle doedd neb i'w hachub hi pan oedd hi'n gweiddi.
Deut WelBeibl 22:28  “Os ydy dyn yn cael ei ddal yn treisio merch ifanc sydd heb ei dyweddïo,
Deut WelBeibl 22:29  rhaid i'r dyn dalu pum deg darn arian i'w thad, ac yna priodi'r ferch. Am ei fod e wedi'i threisio hi, fydd e byth yn cael ei hysgaru hi.
Deut WelBeibl 22:30  “Dydy dyn ddim i briodi merch oedd ar un adeg yn wraig i'w dad. Byddai hynny'n amharchu'i dad.