DEUTERONOMY
Chapter 27
Deut | WelBeibl | 27:1 | Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. | |
Deut | WelBeibl | 27:2 | Pan fyddwch chi'n croesi afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw. | |
Deut | WelBeibl | 27:3 | Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi. | |
Deut | WelBeibl | 27:5 | Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn. | |
Deut | WelBeibl | 27:6 | Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. | |
Deut | WelBeibl | 27:7 | Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. | |
Deut | WelBeibl | 27:8 | Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.” | |
Deut | WelBeibl | 27:9 | Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arna i, bobl Israel. Heddiw, dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD. | |
Deut | WelBeibl | 27:10 | Rhaid i chi wrando arno, a chadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.” | |
Deut | WelBeibl | 27:12 | “Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. | |
Deut | WelBeibl | 27:13 | Yna, mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali. | |
Deut | WelBeibl | 27:15 | ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw neu i wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:16 | ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:17 | ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:18 | ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:19 | ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:20 | ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:21 | ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:22 | ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu'i fam.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:23 | ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:24 | ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |
Deut | WelBeibl | 27:25 | ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’ A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’ | |