Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 28
Ezek WelBeibl 28:2  “Dwed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr.
Ezek WelBeibl 28:3  Ti'n meddwl dy fod ti'n fwy doeth na Daniel! Does dim byd sy'n ddirgelwch i ti!
Ezek WelBeibl 28:4  Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau.
Ezek WelBeibl 28:5  Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben.
Ezek WelBeibl 28:6  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw
Ezek WelBeibl 28:7  dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di – y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander.
Ezek WelBeibl 28:8  Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr.
Ezek WelBeibl 28:9  Wyt ti'n mynd i ddal ati i honni dy fod yn dduw pan fyddi wyneb yn wyneb â'r rhai fydd yn dy ladd? Dyn meidrol fyddi di yn eu golwg nhw, nid duw!
Ezek WelBeibl 28:10  Byddi'n cael dy ladd yn y ffordd fwya creulon gan fyddin o wlad estron. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”
Ezek WelBeibl 28:12  “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dwed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Roeddet ti'n batrwm o berffeithrwydd! Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd!
Ezek WelBeibl 28:13  Roeddet ti'n byw yn Eden, gardd Duw. Roeddet wedi dy addurno gyda gemau gwerthfawr – rhuddem, topas, emrallt, saffir melyn, onics, iasbis, saffir, glasfaen, a beryl. Roedd y cwbl wedi'u gosod yn gywrain mewn aur pur, ac wedi'u cyflwyno i ti ar y diwrnod cest ti dy greu.
Ezek WelBeibl 28:14  Rôn i wedi dy osod yno, gydag angel gwarcheidiol â'i adenydd ar led, ar y mynydd wnaeth Duw ei gysegru. Roeddet yn cerdded yng nghanol y gemau o dân.
Ezek WelBeibl 28:15  O'r diwrnod y cest dy greu roeddet ti'n ymddwyn yn berffaith … ond yna cest dy ddal yn pechu.
Ezek WelBeibl 28:16  Roedd yr holl fasnachu wedi dy droi yn dreisiol. Dyma ti'n pechu; dyma fi'n dy yrru i ffwrdd o fynydd Duw. Roedd yr angel gwarcheidiol yn dy gadw draw o'r gemau o dân.
Ezek WelBeibl 28:17  Roeddet wedi troi'n falch am dy fod mor hardd. Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun. A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr, a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill.
Ezek WelBeibl 28:18  Roeddet wedi dinistrio dy leoedd cysegredig o achos dy holl ddrygioni a'r twyllo wrth fasnachu. Felly gwnes i dân gynnau y tu mewn i ti, a dy ddifa di. Llosgaist yn dwr o ludw o flaen pawb.
Ezek WelBeibl 28:19  Roedd pawb oedd yn dy nabod mewn sioc, am fod dy ddiwedd wedi bod mor erchyll.’”
Ezek WelBeibl 28:21  “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Sidon, a proffwydo yn ei herbyn hi.
Ezek WelBeibl 28:22  Dwed fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Sidon. Dw i'n mynd i ddangos fy ysblander yn dy ganol di. Bydd pobl yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n ei barnu hi, ac yn dangos y gallu sydd gen i a neb arall.
Ezek WelBeibl 28:23  Bydda i'n anfon afiechydon ofnadwy a thrais ar ei strydoedd. Bydd ei phobl yn cael eu lladd wrth i fyddin ymosod arni o bob cyfeiriad. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 28:24  “‘Fydd pobl Israel ddim yn gorfod diodde eu cymdogion maleisus yn pigo ac yn rhwygo fel drain a mieri. A byddan nhw hefyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr.
Ezek WelBeibl 28:25  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n casglu pobl Israel at ei gilydd o'r holl wledydd lle maen nhw ar chwâl. Bydda i'n dangos y gallu sydd gen i a neb arall i'r gwledydd i gyd. Bydd pobl Israel yn byw unwaith eto yn y tir rois i i'm gwas Jacob.
Ezek WelBeibl 28:26  Byddan nhw'n cael byw yno'n saff, adeiladu tai a plannu gwinllannoedd. Byddan nhw'n cael byw yn saff ar ôl i mi farnu'r cymdogion maleisus sydd o'u cwmpas nhw. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, eu Duw nhw.’”