Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 47
Ezek WelBeibl 47:1  Aeth y dyn â fi yn ôl at fynedfa'r deml ei hun. Gwelais fod dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml ac yn llifo i gyfeiriad y dwyrain (sef y cyfeiriad roedd y deml yn ei wynebu). Roedd y dŵr yn llifo ar hyd wal ddeheuol y deml, i'r de o'r allor.
Ezek WelBeibl 47:2  Yna aeth y dyn â fi allan drwy giât y gogledd a rownd at y giât allanol sy'n wynebu'r dwyrain. Yno roedd y dŵr i'w weld yn pistyllio allan ar yr ochr ddeheuol i'r giât.
Ezek WelBeibl 47:3  Aeth y dyn allan i gyfeiriad y dwyrain gyda llinyn mesur yn ei law. Mesurodd 525 metr ac yna fy arwain drwy'r dŵr. Roedd i fyny at fy fferau.
Ezek WelBeibl 47:4  Mesurodd 525 metr arall, ac yna fy arwain drwy'r dŵr eto. Erbyn hyn roedd i fyny at fy ngliniau. Mesurodd 525 metr arall, ac roedd y dŵr i fyny at fy nghanol.
Ezek WelBeibl 47:5  Yna mesurodd 525 metr arall ac roedd yn afon amhosib i'w chroesi ar droed. Roedd y dŵr yn ddigon dwfn i nofio ynddo, ond doedd hi ddim yn bosib cerdded drwyddo.
Ezek WelBeibl 47:6  Yna dwedodd wrtho i, “Ddyn, wyt ti wedi gweld hyn?” Yna aeth â fi yn ôl i lan yr afon.
Ezek WelBeibl 47:7  Pan gyrhaeddais yno gwelais fod lot fawr o goed yn tyfu bob ochr i'r afon.
Ezek WelBeibl 47:8  “Mae'r dŵr yma,” meddai wrtho i, “yn llifo allan tua'r dwyrain, i lawr i'r Dyffryn lle mae'r Môr Marw. Pan mae'n gwagio i'r Môr, mae'r dŵr hallt yn troi yn ddŵr glân, ffres.
Ezek WelBeibl 47:9  Lle bynnag mae'r afon yn llifo, bydd creaduriaid o bob math yn byw ac yn ffynnu. Bydd llwythi o bysgod yn byw yn y Môr am fod yr afon wedi troi'r dŵr hallt yn ddŵr glân. Lle bynnag mae'r dŵr yn llifo bydd bywyd yn llwyddo.
Ezek WelBeibl 47:10  Bydd pysgotwyr yn sefyll ar lan y Môr Marw. Byddan nhw'n taenu eu rhwydi pysgota yr holl ffordd o En-gedi i En-eglaim. Bydd y Môr Marw yn llawn pysgod o bob math, yn union fel Môr y Canoldir.
Ezek WelBeibl 47:11  Ond bydd y corsydd a'r pyllau o'i gwmpas yn aros yn hallt.
Ezek WelBeibl 47:12  Bydd coed ffrwythau o bob math yn tyfu bob ochr i'r afon. Fydd eu dail byth yn gwywo, a bydd ffrwyth yn tyfu arnyn nhw bob amser. Bydd cnwd newydd yn tyfu arnyn nhw bob mis am fod eu dŵr yn llifo o'r cysegr. Bydd eu ffrwyth yn fwyd, a'i dail yn iacháu.”
Ezek WelBeibl 47:13  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyma'r ffiniau ar gyfer rhannu'r tir rhwng deuddeg llwyth Israel. (Bydd Joseff yn cael dwy ran.)
Ezek WelBeibl 47:14  Mae'r tir i'w rannu'n gyfartal rhwng y llwythau. Rôn i wedi'i addo i'ch hynafiaid, ac mae'n cael ei roi yn etifeddiaeth i chi.
Ezek WelBeibl 47:15  “A dyma'r ffiniau: Bydd ffin y gogledd yn rhedeg o Fôr y Canoldir ar hyd ffordd Chethlon a Bwlch Chamath i Sedad.
Ezek WelBeibl 47:16  Wedyn i Berotha a Sibraîm (sydd ar y ffin rhwng Damascus a Chamath), ac yna'r holl ffordd i Chatser-hatticon (sydd ar y ffin gyda Chawran).
Ezek WelBeibl 47:17  Felly bydd y ffin yn rhedeg o Fôr y Canoldir i Chatsar-einon ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Dyna ffin y gogledd.
Ezek WelBeibl 47:18  Wedyn i'r dwyrain mae'r ffin yn rhedeg o'r pwynt yna rhwng Chawran a Damascus, i lawr afon Iorddonen rhwng Israel a Gilead, ac wedyn heibio'r Môr Marw cyn belled â Tamar yn y de. Dyna'r ffin i'r dwyrain.
Ezek WelBeibl 47:19  Yn y de, bydd y ffin yn rhedeg ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. Dyna ffin y de.
Ezek WelBeibl 47:20  Wedyn i'r gorllewin, Môr y Canoldir ei hun fydd y ffin i fyny'r holl ffordd at bwynt gyferbyn â Bwlch Chamath. Dyna ffin y gorllewin.
Ezek WelBeibl 47:21  “Dyma sut mae'r tir o fewn y ffiniau yma i gael ei rannu rhwng llwythau Israel.
Ezek WelBeibl 47:22  Mae i'w rannu rhyngoch yn etifeddiaeth i chi a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi ac yn magu eu plant yn eich plith. Rhaid i chi eu trin nhw fel petaen nhw wedi'u geni yn Israeliaid. Maen nhw i gael etifeddu tir fel pawb arall.
Ezek WelBeibl 47:23  Ble bynnag mae mewnfudwr yn byw, mae i gael tir i'w etifeddu gyda phawb arall yn y llwyth hwnnw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.