I SAMUEL
Chapter 23
I Sa | WelBeibl | 23:1 | Clywodd Dafydd fod y Philistiaid wedi ymosod ar Ceila, ac yn dwyn ŷd o'r lloriau dyrnu. | |
I Sa | WelBeibl | 23:2 | A dyma fe'n gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD, “Ddylwn i fynd i ymosod ar y Philistiaid yma?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ie, dos. Ymosod ar y Philistiaid ac achub Ceila.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:3 | Ond dyma ddynion Dafydd yn dweud wrtho, “Mae digon o ofn arnon ni yma yn Jwda! Bydd hi lawer gwaeth os awn ni i Ceila i ymladd yn erbyn byddin y Philistiaid!” | |
I Sa | WelBeibl | 23:4 | Yna aeth Dafydd i ofyn i'r ARGLWYDD eto; a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r un ateb iddo, “Cod, a dos i lawr i Ceila, achos bydda i'n gwneud i ti ennill y frwydr yn erbyn y Philistiad.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:5 | Felly dyma Dafydd a'i ddynion yn mynd i Ceila ac ymladd yn erbyn y Philistiaid, a dwyn eu gwartheg nhw. Roedd lladdfa ofnadwy, ond llwyddodd Dafydd i achub pobl Ceila. | |
I Sa | WelBeibl | 23:6 | Pan oedd Abiathar, mab Achimelech, wedi dianc at Dafydd, roedd wedi dod ag effod gydag e. | |
I Sa | WelBeibl | 23:7 | Clywodd Saul fod Dafydd wedi dod i Ceila, a dwedodd, “Mae Duw wedi'i roi e'n fy nwylo i! Mae e wedi cau ei hun mewn trap drwy fynd i dref sydd â giatiau dwbl a barrau i'w cloi.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:8 | Felly dyma Saul yn galw'i fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd a'i ddynion. | |
I Sa | WelBeibl | 23:9 | Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma fe'n galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd â'r effod yma.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:10 | Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma. | |
I Sa | WelBeibl | 23:11 | Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi i'n ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.” A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e'n dod.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:12 | Wedyn dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:13 | Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre. | |
I Sa | WelBeibl | 23:14 | Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano drwy'r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo'i ddal. | |
I Sa | WelBeibl | 23:15 | Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisio'i ladd e. | |
I Sa | WelBeibl | 23:16 | Ond dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i'w annog i drystio Duw. | |
I Sa | WelBeibl | 23:17 | Dwedodd wrtho, “Paid bod ag ofn! Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti. Ti fydd brenin Israel a bydda i'n ddirprwy i ti. Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:18 | Ar ôl i'r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i'w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre. | |
I Sa | WelBeibl | 23:19 | Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i'r de o Jeshimon. | |
I Sa | WelBeibl | 23:20 | Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e'n dy afael di.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:21 | Ac meddai Saul wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi! | |
I Sa | WelBeibl | 23:22 | Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a phwy sydd wedi'i weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys. | |
I Sa | WelBeibl | 23:23 | Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i'n dod o hyd iddo ble bynnag mae e, yng nghanol pobl Jwda i gyd.” | |
I Sa | WelBeibl | 23:24 | Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn Nyffryn Araba i'r de o Jeshimon. | |
I Sa | WelBeibl | 23:25 | A dyma Saul a'i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o'r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon. | |
I Sa | WelBeibl | 23:26 | Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon. Roedd Saul un ochr i'r mynydd pan oedd Dafydd a'i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a'i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a'i ddynion a'u dal nhw. | |
I Sa | WelBeibl | 23:27 | Ond yna daeth neges yn dweud wrth Saul am frysio'n ôl adre am fod y Philistiaid wedi ymosod ar y wlad. | |
I Sa | WelBeibl | 23:28 | Felly roedd rhaid i Saul stopio mynd ar ôl Dafydd a mynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid. (Dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Graig y Gwahanu.) | |