JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 16
| Jere | WelBeibl | 16:3 | Achos dyma sy'n mynd i ddigwydd i'r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i'w mamau a'u tadau nhw: | |
| Jere | WelBeibl | 16:4 | byddan nhw'n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw'n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi'u lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a'r anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff.” | |
| Jere | WelBeibl | 16:5 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ lle mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i'r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw. | |
| Jere | WelBeibl | 16:6 | Bydd yr arweinwyr a'r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain â chyllyll a siafio'u pennau i ddangos mor drist ydyn nhw. | |
| Jere | WelBeibl | 16:7 | Fydd neb yn mynd â bwyd i'r rhai sy'n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i'w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad. | |
| Jere | WelBeibl | 16:9 | Dw i, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma – sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd! | |
| Jere | WelBeibl | 16:10 | “Pan fyddi di'n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae'r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi'i wneud o'i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’ | |
| Jere | WelBeibl | 16:11 | Dwed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill, troi cefn arna i a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw. | |
| Jere | WelBeibl | 16:12 | Ond dych chi'n waeth na'ch hynafiaid! Dych chi'n ystyfnig, yn dilyn y duedd ynoch chi i wneud drwg, ac wedi gwrthod gwrando arna i. | |
| Jere | WelBeibl | 16:13 | Felly dw i'n mynd i'ch taflu chi allan o'r wlad yma, a'ch gyrru chi i wlad dych chi a'ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi'n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo'n sori drosoch chi!’” | |
| Jere | WelBeibl | 16:14 | “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ | |
| Jere | WelBeibl | 16:15 | bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi'u gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i'n mynd i ddod â nhw yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid nhw.” | |
| Jere | WelBeibl | 16:16 | Ond ar hyn o bryd, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i'n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw'n eu hela nhw o'r mynyddoedd a'r bryniau lle maen nhw'n cuddio yn y creigiau. | |
| Jere | WelBeibl | 16:17 | Achos dw i'n gweld popeth maen nhw yn ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio'u pechodau oddi wrtho i. | |
| Jere | WelBeibl | 16:18 | Rhaid iddyn nhw'n gyntaf ddiodde'r gosb lawn maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni a'u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o'u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â'u defodau afiach.” | |
| Jere | WelBeibl | 16:19 | Jeremeia: “O ARGLWYDD, ti sy'n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn; ti ydy'r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion. Bydd cenhedloedd o bob rhan o'r byd yn dod atat ti ac yn dweud: ‘Roedd ein hynafiaid wedi'u magu i addoli delwau diwerth, pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb. | |
| Jere | WelBeibl | 16:20 | Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain? Na! Dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’” | |