Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JONAH
Up
1 2 3 4
Toggle notes
Chapter 1
Jona WelBeibl 1:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona, fab Amittai,
Jona WelBeibl 1:2  “Dos i ddinas fawr Ninefe, ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi barn ar y bobl yno, achos dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw'n wneud.”
Jona WelBeibl 1:3  Ond dyma Jona'n ffoi i'r cyfeiriad arall, i Sbaen. Roedd eisiau dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Aeth i lawr i borthladd Jopa, a dod o hyd i long oedd ar fin hwylio i Tarshish yn Sbaen. Ar ôl talu am ei docyn aeth gyda nhw ar y cwch a hwylio i ffwrdd, er mwyn dianc oddi wrth yr ARGLWYDD.
Jona WelBeibl 1:4  Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt cryf chwythu ar y môr. Roedd y storm mor wyllt nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio.
Jona WelBeibl 1:5  Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw'n dechrau taflu'r cargo i'r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i'r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu.
Jona WelBeibl 1:6  Dyma'r capten yn dod ar ei draws, a'i ddeffro. “Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Cod, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e'n ein helpu ni, a'n cadw ni rhag boddi.”
Jona WelBeibl 1:7  Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e.
Jona WelBeibl 1:8  A dyma nhw'n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae'r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti'n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti'n perthyn iddi?”
Jona WelBeibl 1:9  A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.”
Jona WelBeibl 1:10  Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)
Jona WelBeibl 1:11  Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?”
Jona WelBeibl 1:12  Dyma fe'n ateb, “Taflwch fi i'r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae'r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.”
Jona WelBeibl 1:13  Yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth.
Jona WelBeibl 1:14  Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni foddi o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”
Jona WelBeibl 1:15  Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu.
Jona WelBeibl 1:16  Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo.
Jona WelBeibl 1:17  A dyma'r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.
Chapter 2
Jona WelBeibl 2:1  Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn.
Jona WelBeibl 2:2  Rôn i mewn trafferthion; dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD, a dyma fe'n fy ateb i. Gwaeddais am dy help di, o ganol byd y meirw, a dyma ti'n gwrando arna i!
Jona WelBeibl 2:3  Teflaist fi i'r dyfnder; i waelod y môr. Roedd y cerrynt o'm cwmpas, a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.
Jona WelBeibl 2:4  Rôn i'n meddwl fy mod i wedi cael fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth, ac y byddwn i byth yn cael gweld dy deml sanctaidd di eto!
Jona WelBeibl 2:5  Rôn i bron boddi – roedd y môr dwfn o'm cwmpas, a gwymon wedi lapio am fy mhen.
Jona WelBeibl 2:6  Rôn i wedi suddo at waelod isa'r mynyddoedd. Roedd giatiau'r ddaear ddofn wedi cloi tu ôl i mi am byth. Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw, yn fy achub i o'r Pwll dwfn.
Jona WelBeibl 2:7  Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd, dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD; a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi o dy deml sanctaidd.
Jona WelBeibl 2:8  Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth yn troi cefn ar dy drugaredd di.
Jona WelBeibl 2:9  Ond dw i am offrymu aberth i ti, a chanu mawl i ti'n gyhoeddus. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi'i addo! Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub!
Jona WelBeibl 2:10  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.
Chapter 3
Jona WelBeibl 3:2  “Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi'r neges dw i'n ei rhoi i ti.”
Jona WelBeibl 3:3  A'r tro yma dyma Jona'n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau. Aeth yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi'n cymryd tri diwrnod i gerdded drwyddi!)
Jona WelBeibl 3:4  Ar ôl cerdded drwyddi am ddiwrnod, dyma Jona'n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!”
Jona WelBeibl 3:5  Credodd pobl Ninefe neges Duw. A dyma nhw'n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain – y bobl gyfoethog a'r tlawd.
Jona WelBeibl 3:6  Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o'i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.
Jona WelBeibl 3:7  A dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn: Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid). Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed roi sachliain ar yr anifeiliaid. Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
Jona WelBeibl 3:8  A dyma fe'n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae'r brenin a'i swyddogion yn ei orchymyn: Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na'r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid). Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed roi sachliain ar yr anifeiliaid. Mae pawb i weddïo'n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
Jona WelBeibl 3:9  Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a fydd dim rhaid i ni farw.”
Jona WelBeibl 3:10  Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw'n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.
Chapter 4
Jona WelBeibl 4:1  Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio'n lân.
Jona WelBeibl 4:2  Dyma fe'n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Rôn i'n gwybod mai dyma fyddai'n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Ti'n Dduw mor garedig a thrugarog, mor amyneddgar ac anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi!
Jona WelBeibl 4:3  Felly, plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae'n well gen i farw na byw i weld hyn!
Jona WelBeibl 4:4  Gofynnodd yr ARGLWYDD iddo, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma?”
Jona WelBeibl 4:5  Aeth Jona allan o'r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo'i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd i Ninefe.
Jona WelBeibl 4:6  A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwchben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.
Jona WelBeibl 4:7  Ond yn gynnar iawn y bore wedyn anfonodd Duw bryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo.
Jona WelBeibl 4:8  Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!”
Jona WelBeibl 4:9  Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i'n hollol wyllt!”
Jona WelBeibl 4:10  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti'n poeni am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo'r diwrnod wedyn!
Jona WelBeibl 4:11  Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed yn byw ynddi – a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”