MARK
Chapter 13
Mark | WelBeibl | 13:1 | Wrth iddyn nhw adael y deml, dyma un o'r disgyblion yn dweud, “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae'r adeiladau yma'n fendigedig!” | |
Mark | WelBeibl | 13:2 | Atebodd Iesu, “Ydych chi'n gweld yr adeiladau mawr yma i gyd? Bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi'i gadael yn ei lle.” | |
Mark | WelBeibl | 13:3 | Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, dyma Pedr, Iago, Ioan ac Andreas yn dod ato ac yn gofyn iddo'n breifat, | |
Mark | WelBeibl | 13:4 | “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma i gyd ddigwydd?” | |
Mark | WelBeibl | 13:6 | Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. | |
Mark | WelBeibl | 13:7 | Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. | |
Mark | WelBeibl | 13:8 | Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn! | |
Mark | WelBeibl | 13:9 | “Gwyliwch eich hunain. Cewch eich dwyn o flaen yr awdurdodau, a'ch curo yn y synagogau. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw amdana i. | |
Mark | WelBeibl | 13:11 | Peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud pan gewch eich arestio a'ch rhoi ar brawf. Dwedwch beth fydd yn dod i chi ar y pryd, achos dim chi fydd yn siarad, ond yr Ysbryd Glân. | |
Mark | WelBeibl | 13:12 | “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio. | |
Mark | WelBeibl | 13:13 | Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub. | |
Mark | WelBeibl | 13:14 | “Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ wedi'i osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. | |
Mark | WelBeibl | 13:17 | Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny! | |
Mark | WelBeibl | 13:19 | achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – ers i Dduw greu'r byd! A fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! | |
Mark | WelBeibl | 13:20 | Oni bai i'r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae'n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi'u dewis iddo'i hun. | |
Mark | WelBeibl | 13:21 | Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth. | |
Mark | WelBeibl | 13:22 | Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi'u dewis petai'r fath beth yn bosib! | |
Mark | WelBeibl | 13:24 | “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; | |
Mark | WelBeibl | 13:26 | “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr. | |
Mark | WelBeibl | 13:27 | Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu'r rhai mae wedi'u dewis o bob rhan o'r byd. | |
Mark | WelBeibl | 13:28 | “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. | |
Mark | WelBeibl | 13:29 | Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit tu allan i'r drws! | |
Mark | WelBeibl | 13:30 | Credwch chi fi, bydd pobl y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. | |
Mark | WelBeibl | 13:31 | Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth. | |
Mark | WelBeibl | 13:32 | “Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! | |
Mark | WelBeibl | 13:33 | Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e'n digwydd. | |
Mark | WelBeibl | 13:34 | Mae fel dyn sy'n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae'n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae'n dweud wrth yr un sy'n gofalu am y drws i edrych allan amdano. | |
Mark | WelBeibl | 13:35 | “Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl – gall ddod gyda'r nos, neu ganol nos, neu'n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio. | |