Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MARK
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 4
Mark WelBeibl 4:1  Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
Mark WelBeibl 4:2  Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw.
Mark WelBeibl 4:3  “Gwrandwch!” meddai: “Aeth ffermwr allan i hau hadau.
Mark WelBeibl 4:4  Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
Mark WelBeibl 4:5  Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn,
Mark WelBeibl 4:6  ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
Mark WelBeibl 4:7  Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen.
Mark WelBeibl 4:8  Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Mark WelBeibl 4:9  “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Mark WelBeibl 4:10  Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma'r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o'i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori.
Mark WelBeibl 4:11  Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n cael gwybod y gyfrinach am deyrnasiad Duw. Ond i'r rhai sydd y tu allan dydy'r cwbl ddim ond straeon.
Mark WelBeibl 4:12  Felly, ‘maen nhw'n edrych yn ofalus ond yn gweld dim, maen nhw'n clywed yn iawn ond byth yn deall; rhag iddyn nhw droi cefn ar bechod a chael maddeuant!’”
Mark WelBeibl 4:13  “Os dych chi ddim yn deall y stori yma, sut dych chi'n mynd i ddechrau deall unrhyw stori gen i!
Mark WelBeibl 4:14  Mae'r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy'n rhannu neges Duw gyda phobl.
Mark WelBeibl 4:15  Yr had ar y llwybr ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw.
Mark WelBeibl 4:16  Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
Mark WelBeibl 4:17  Ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dŷn nhw ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw'n troi cefn yn ddigon sydyn.
Mark WelBeibl 4:18  Wedyn mae pobl eraill yn gallu bod fel yr had syrthiodd i ganol drain. Maen nhw'n clywed y neges,
Mark WelBeibl 4:19  ond maen nhw'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn eu bywydau.
Mark WelBeibl 4:20  Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn ei chredu. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth – tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Mark WelBeibl 4:21  Dwedodd wrthyn nhw wedyn, “Ydych chi'n mynd â lamp i mewn i ystafell ac yna'n rhoi powlen drosti neu'n ei chuddio dan y gwely? Na, dych chi'n gosod y lamp ar fwrdd iddi oleuo'r ystafell.
Mark WelBeibl 4:22  Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn dod i'r golwg.
Mark WelBeibl 4:23  Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
Mark WelBeibl 4:24  Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Gwyliwch beth dych chi'n gwrando arno. Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi – a mwy!
Mark WelBeibl 4:25  Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Mark WelBeibl 4:26  Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir.
Mark WelBeibl 4:27  Mae'r wythnosau'n mynd heibio, a'r dyn yn cysgu'r nos ac yn codi'r bore. Mae'r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i'r dyn wneud dim mwy.
Mark WelBeibl 4:28  Mae'r cnwd yn tyfu o'r pridd ohono'i hun – gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a'r hadau yn y dywysen ar ôl hynny.
Mark WelBeibl 4:29  Pan mae'r cnwd o wenith wedi aeddfedu, mae'r ffermwr yn ei dorri gyda'i gryman am fod y cynhaeaf yn barod.”
Mark WelBeibl 4:30  Gofynnodd wedyn: “Sut mae disgrifio teyrnasiad Duw? Pa ddarlun arall allwn ni ddefnyddio?
Mark WelBeibl 4:31  Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu yn y pridd. Er mai dyma'r hedyn lleia un
Mark WelBeibl 4:32  mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae adar yn gallu nythu a chysgodi yn ei ganghennau!”
Mark WelBeibl 4:33  Roedd Iesu'n defnyddio llawer o straeon fel hyn i rannu ei neges, cymaint ag y gallen nhw ei ddeall.
Mark WelBeibl 4:34  Doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Ond yna roedd yn esbonio'r cwbl i'w ddisgyblion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw.
Mark WelBeibl 4:35  Yn hwyr y p'nawn hwnnw, a hithau'n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw'r llyn.”
Mark WelBeibl 4:36  Felly dyma nhw'n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd.
Mark WelBeibl 4:37  Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i'r cwch ac roedd mewn peryg o suddo.
Mark WelBeibl 4:38  Ond roedd Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma'r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?”
Mark WelBeibl 4:39  Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel.
Mark WelBeibl 4:40  Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi'n dal ddim yn credu?”
Mark WelBeibl 4:41  Roedden nhw wedi'u syfrdanu'n llwyr. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwynt a'r tonnau yn ufuddhau iddo!”