EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 23
Exod | WelBeibl | 23:1 | Paid hel straeon sydd ddim yn wir. Paid helpu pobl ddrwg drwy ddweud celwydd yn y llys. | |
Exod | WelBeibl | 23:2 | Paid dilyn y dorf i wneud drwg. Paid rhoi tystiolaeth ffals sydd ddim ond yn cyd-fynd gyda beth mae pawb arall yn ei ddweud. | |
Exod | WelBeibl | 23:4 | Os wyt ti'n dod o hyd i darw neu asyn dy elyn yn crwydro, dos â'r anifail yn ôl i'w berchennog. | |
Exod | WelBeibl | 23:5 | Os wyt ti'n gweld asyn rhywun sy'n dy gasáu di wedi syrthio dan ei faich, paid pasio heibio; dos i'w helpu i godi. | |
Exod | WelBeibl | 23:7 | Paid byth â chyhuddo pobl ar gam – rhag i rywun dieuog gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Bydda i'n cosbi'r rhai sy'n gwneud drwg. | |
Exod | WelBeibl | 23:8 | Paid derbyn breib. Mae breib yn dallu'r sawl sy'n gweld yn glir, ac yn tanseilio achos pobl sy'n ddieuog. | |
Exod | WelBeibl | 23:9 | Paid cam-drin mewnfudwr. Ti'n gwybod yn iawn sut deimlad ydy e – mewnfudwyr oeddech chi yn yr Aifft. | |
Exod | WelBeibl | 23:11 | Ond yna ar y seithfed flwyddyn mae'r tir i gael gorffwys, heb gael ei drin. Bydd y bobl dlawd yn cael casglu a bwyta beth bynnag sy'n tyfu ohono'i hun, a'r anifeiliaid gwyllt yn cael beth sy'n weddill. Gwna'r un peth gyda dy winllan a dy goed olewydd. | |
Exod | WelBeibl | 23:12 | Rwyt i weithio am chwe diwrnod, a gorffwys ar y seithfed. Bydd yn rhoi cyfle i dy ych a dy asyn orffwys, ac i'r caethweision sydd wedi'u geni yn dy dŷ a'r mewnfudwr sy'n gweithio i ti ymlacio. | |
Exod | WelBeibl | 23:13 | Gwyliwch eich bod chi'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthoch chi. Peidiwch talu sylw i dduwiau eraill, na hyd yn oed eu henwi nhw! | |
Exod | WelBeibl | 23:15 | Yn gyntaf, Gŵyl y Bara Croyw. Ar ddyddiau arbennig yn mis Abib byddwch yn dathlu dod allan o wlad yr Aifft. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, fel dwedais i bryd hynny. Does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu. | |
Exod | WelBeibl | 23:16 | Yna Gŵyl y Cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â ffrwyth cyntaf eich cnydau i mi. Ac yn olaf, Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf, ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch wedi gorffen casglu eich cnydau i gyd. | |
Exod | WelBeibl | 23:17 | Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, sef yr ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 23:18 | Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi'i aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A dydy'r braster ddim i'w adael heb ei losgi dros nos. | |
Exod | WelBeibl | 23:19 | Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw. Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.” | |
Exod | WelBeibl | 23:20 | “Dw i'n mynd i anfon angel o'ch blaen chi, i'ch cadw chi'n saff pan fyddwch chi'n teithio, ac i'ch arwain i'r lle dw i wedi'i baratoi ar eich cyfer chi. | |
Exod | WelBeibl | 23:21 | Gwrandwch arno, a gwnewch beth mae e'n ddweud. Peidiwch tynnu'n groes iddo achos fydd e ddim yn maddau i chi. Fi sydd yna ynddo fe. | |
Exod | WelBeibl | 23:22 | Ond os gwnewch chi wrando arno, a gwneud beth dw i'n ddweud, bydda i'n ymladd yn erbyn y gelynion fydd yn codi yn eich erbyn chi. | |
Exod | WelBeibl | 23:23 | Bydd fy angel yn eich arwain chi at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid a Jebwsiaid, a bydda i'n eu dinistrio nhw'n llwyr. | |
Exod | WelBeibl | 23:24 | Peidiwch plygu i lawr i addoli eu duwiau nhw, na dilyn eu harferion nhw. Dw i eisiau i chi eu dinistrio nhw'n llwyr, a malu eu colofnau cysegredig yn ddarnau. | |
Exod | WelBeibl | 23:25 | Addolwch yr ARGLWYDD eich Duw, a bydd e'n rhoi bara i chi ei fwyta a dŵr i chi ei yfed, ac yn eich cadw chi'n iach. | |
Exod | WelBeibl | 23:26 | Fydd yna ddim gwragedd sy'n methu cael plant, na gwragedd beichiog yn colli eu plant, a bydd pawb yn cael byw yn hir. | |
Exod | WelBeibl | 23:27 | “Bydda i'n achosi braw wrth i bobl eich gweld chi'n dod. Bydda i'n dinistrio'r bobloedd fyddwch chi'n dod ar eu traws. Byddan nhw'n dianc oddi wrthoch chi. | |
Exod | WelBeibl | 23:28 | Bydda i'n achosi panig llwyr, ac yn gyrru'r Hefiaid, y Canaaneaid a'r Hethiaid allan o'ch ffordd. | |
Exod | WelBeibl | 23:29 | Ond fydd hyn ddim yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Does gen i ddim eisiau i'r wlad droi'n anialwch, ac anifeiliaid gwyllt yn cymryd drosodd. | |
Exod | WelBeibl | 23:30 | Bydda i'n eu gyrru nhw allan bob yn dipyn, i roi cyfle i'ch poblogaeth chi dyfu digon i lenwi'r wlad. | |
Exod | WelBeibl | 23:31 | “Bydda i'n gosod ffiniau i chi o'r Môr Coch i Fôr y Canoldir, ac o'r anialwch i afon Ewffrates. Bydda i'n gwneud i chi goncro'r wlad, a byddwch yn gyrru'r bobloedd sy'n byw yno allan. | |
Exod | WelBeibl | 23:32 | Rhaid i chi beidio gwneud cytundeb gwleidyddol gyda nhw, na chael dim i'w wneud â'u duwiau nhw. | |