Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 1
Ezek WelBeibl 1:1  Pan oeddwn i'n dri deg oed, roeddwn i'n byw wrth Gamlas Cebar yn Babilon gyda'r bobl oedd wedi cael eu caethgludo yno o Jwda. Ar y pumed diwrnod o'r pedwerydd mis roedd fel petai'r nefoedd wedi agor, a Duw yn rhoi gweledigaethau i mi.
Ezek WelBeibl 1:2  (Roedd hyn bum mlynedd ar ôl i'r brenin Jehoiachin gael ei gymryd yn gaeth i Babilon.)
Ezek WelBeibl 1:3  Offeiriad ydw i, Eseciel fab Bwsi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i mi pan oeddwn i wrth Gamlas Cebar yng ngwlad Babilon. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i yno!
Ezek WelBeibl 1:4  Wrth i mi edrych, rôn i'n gweld storm yn dod o'r gogledd. Roedd cwmwl anferth, a mellt yn fflachio, a golau llachar o'i gwmpas. Roedd ei ganol yn llachar fel tân mewn ffwrnais fetel.
Ezek WelBeibl 1:5  Yna o'i ganol dyma bedwar ffigwr yn dod i'r golwg. Roedden nhw'n edrych fel creaduriaid byw. Roedden nhw yr un siâp a phobl,
Ezek WelBeibl 1:6  ond roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair adain.
Ezek WelBeibl 1:7  Roedden nhw'n sefyll i fyny'n syth fel pobl, ond carnau llo oedd eu traed. Ac roedden nhw'n gloywi fel pres wedi'i sgleinio.
Ezek WelBeibl 1:8  Roedd ganddyn nhw freichiau a dwylo dynol o dan eu hadenydd, ac roedd eu hadenydd nhw'n cyffwrdd ei gilydd.
Ezek WelBeibl 1:9  Am fod ganddyn nhw bedwar wyneb, doedden nhw ddim yn troi, dim ond symud yn syth yn eu blaenau i ba gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd.
Ezek WelBeibl 1:10  Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn.
Ezek WelBeibl 1:11  Roedden nhw'n dal eu hadenydd ar led – roedd dwy aden gan bob un yn cyffwrdd adenydd y creaduriaid oedd bob ochr iddyn nhw, a'r ddwy aden arall yn gorchuddio'u cyrff.
Ezek WelBeibl 1:12  Roedden nhw'n mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd – yn syth yn eu blaenau, heb droi o gwbl.
Ezek WelBeibl 1:13  Yn eu canol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel marwor yn llosgi, ac roedd y tân fel ffaglau yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y creaduriaid byw. Roedd yn llosgi'n danbaid ac roedd gwreichion yn saethu allan ohono i bob cyfeiriad,
Ezek WelBeibl 1:14  ac roedd y creaduriaid byw eu hunain yn symud yn ôl ac ymlaen fel fflachiadau mellt.
Ezek WelBeibl 1:15  Wedyn sylwais fod olwyn ar lawr wrth ymyl pob un o'r pedwar creadur.
Ezek WelBeibl 1:16  Roedd yr olwynion yn sgleinio fel meini saffir. Roedd pob olwyn yr un fath, gydag olwyn arall tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr.
Ezek WelBeibl 1:17  Felly pan oedden nhw'n symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi.
Ezek WelBeibl 1:18  Roedd ymylon yr olwynion yn anferth, wedi'u gorchuddio gyda llygaid.
Ezek WelBeibl 1:19  Pan oedd y creaduriaid byw yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y creaduriaid yn codi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn codi hefyd.
Ezek WelBeibl 1:20  Roedd y creaduriaid yn mynd ble bynnag roedd yr ysbryd am fynd, ac roedd yr olwynion yn codi gyda nhw am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion hefyd.
Ezek WelBeibl 1:21  Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.
Ezek WelBeibl 1:22  Uwchben y creaduriaid byw roedd rhywbeth oedd yn edrych yn debyg i lwyfan oedd yn sgleinio fel grisial. Roedd wedi'i ledu fel cromen uwch eu pennau.
Ezek WelBeibl 1:23  Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda'u hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd.
Ezek WelBeibl 1:24  Pan oedd y creaduriaid yn hedfan, roeddwn i'n clywed sŵn eu hadenydd nhw – sŵn tebyg i raeadr, neu lais y Duw mawr sy'n rheoli popeth, neu fyddin enfawr yn martsio. Wedyn pan oedden nhw'n stopio roedden nhw'n rhoi eu hadenydd i lawr.
Ezek WelBeibl 1:25  Dyma nhw'n stopio, a chlywais lais yn dod o'r llwyfan oedd uwch eu pennau.
Ezek WelBeibl 1:26  Uwchben y llwyfan roedd rhywbeth oedd yn edrych fel gorsedd wedi'i gwneud o saffir. Wedyn ar yr orsedd roedd ffigwr oedd yn edrych fel person dynol.
Ezek WelBeibl 1:27  O'i ganol i fyny roedd yn edrych fel tân yn llosgi mewn ffwrnais fetel, ac o'i ganol i lawr fel fflamau tân. Roedd golau llachar yn disgleirio o'i gwmpas.
Ezek WelBeibl 1:28  Roedd mor hardd â'r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio. Dyma fi'n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr. A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi.