Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 3
Gene WelBeibl 3:1  Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi'u creu. A dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?”
Gene WelBeibl 3:2  “Na,” meddai'r wraig, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd.
Gene WelBeibl 3:3  Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’”
Gene WelBeibl 3:4  Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.
Gene WelBeibl 3:5  Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi'n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”
Gene WelBeibl 3:6  Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd.
Gene WelBeibl 3:7  Yn sydyn roedden nhw'n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw'n noeth. Felly dyma nhw'n rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw'u hunain.
Gene WelBeibl 3:8  Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd drwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd.
Gene WelBeibl 3:9  Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble wyt ti?”
Gene WelBeibl 3:10  Atebodd y dyn, “Rôn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.”
Gene WelBeibl 3:11  “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”
Gene WelBeibl 3:12  Ac meddai'r dyn, “Y wraig wnest ti ei rhoi i mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.”
Gene WelBeibl 3:13  Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
Gene WelBeibl 3:14  Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr: “Melltith arnat ti am wneud hyn! Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio. Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy fol ac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.
Gene WelBeibl 3:15  Byddi di a'r wraig yn elynion. Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion. Bydd e'n sathru dy ben di, a byddi di'n taro ei sawdl e.”
Gene WelBeibl 3:16  Yna dyma fe'n dweud wrth y wraig: “Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti; byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn. Byddi di eisiau dy ŵr, ond bydd e fel meistr arnat ti.”
Gene WelBeibl 3:17  Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda: “Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig a bwyta ffrwyth y goeden rôn i wedi dweud amdani, ‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’ Felly mae'r ddaear wedi'i melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser.
Gene WelBeibl 3:18  Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu yn y caeau.
Gene WelBeibl 3:19  Bydd rhaid i ti weithio'n galed a chwysu i gael bwyd i fyw, hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i'r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi'n mynd yn ôl i'r pridd.”
Gene WelBeibl 3:20  Dyma'r dyn yn rhoi'r enw Efa i'w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw.
Gene WelBeibl 3:21  Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo.
Gene WelBeibl 3:22  A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth – da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.”
Gene WelBeibl 3:23  Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ei anfon allan o'r ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono.
Gene WelBeibl 3:24  Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw gerwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo, i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd.