Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CORINTHIANS
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16
Prev Up Next
Chapter 11
I Co WelBeibl 11:1  Felly dilynwch fy esiampl i, fel dw i'n dilyn esiampl y Meseia.
I Co WelBeibl 11:2  Mae'n rhaid i mi eich canmol chi am ‛ddal i gofio amdana i, ac am ddal gafael yn y traddodiadau wnes i eu pasio ymlaen i chi‛!
I Co WelBeibl 11:3  Ond rhaid i chi ddeall bod bywyd pob dyn yn tarddu o'r Meseia, a bod bywyd gwraig yn tarddu o'r dyn, ac mai o Dduw mae bywyd y Meseia yn tarddu.
I Co WelBeibl 11:4  Mae pob dyn sy'n gweddïo neu'n proffwydo gyda rhywbeth ar ei ben yn colli ei hunan-barch.
I Co WelBeibl 11:5  Ac mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchuddio'i phen yn dangos diffyg hunan-barch – mae'n union fel petai hi wedi eillio ei phen.
I Co WelBeibl 11:6  Os ydy gwraig ddim am orchuddio'i phen, dylai gael gwared â'i gwallt. Ac os ydy e'n beth cywilyddus i wraig gael gwared â'i gwallt neu gael ei heillio, dylai felly orchuddio ei phen.
I Co WelBeibl 11:7  Ddylai dyn ddim gorchuddio'i ben am ei fod yn ddelw Duw ac yn dangos ei ysblander; ond dangos ysblander dyn mae'r wraig.
I Co WelBeibl 11:8  Nid dyn ddaeth o wraig, ond y wraig ddaeth o ddyn.
I Co WelBeibl 11:9  A chafodd dyn ddim ei greu o achos y wraig, ond y wraig o achos y dyn.
I Co WelBeibl 11:10  Dyna pam ddylai gwraig gadw rheolaeth ar y ffordd mae pobl yn edrych arni – ac o achos yr angylion hefyd.
I Co WelBeibl 11:11  Beth bynnag, yn yr Arglwydd dydy gwraig a dyn ddim yn annibynnol ar ei gilydd.
I Co WelBeibl 11:12  Mae'n wir fod y wraig wedi dod o'r dyn, ond mae'n wir hefyd fod pob dyn yn cael ei eni o wraig. Ac o Dduw mae'r cwbl yn tarddu yn y pen draw.
I Co WelBeibl 11:13  Beth ydy'ch barn chi? Ydy hi'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?
I Co WelBeibl 11:14  Ydy natur ei hun ddim yn dysgu hyn i chi: os ydy gwallt hir yn diraddio dyn,
I Co WelBeibl 11:15  ei bod yn beth anrhydeddus i wraig gael gwallt hir? Mae ei gwallt hir wedi'i roi iddi hi fel gorchudd.
I Co WelBeibl 11:16  Os ydy rhywun am ddadlau am hyn, does gynnon ni ddim arfer gwahanol. A does gan eglwysi Duw ddim chwaith.
I Co WelBeibl 11:17  Dw i ddim yn gallu'ch canmol chi wrth ymateb i'r mater nesa chwaith. Mae'n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi'n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.
I Co WelBeibl 11:18  Dw i'n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i'n credu'r peth i ryw raddau.
I Co WelBeibl 11:19  “Mae'n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e?
I Co WelBeibl 11:20  Os felly, dim Swper yr Arglwydd dych chi'n ei fwyta pan ddewch at eich gilydd!
I Co WelBeibl 11:21  Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A'r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi!
I Co WelBeibl 11:22  Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu ydych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i'n mynd i'ch canmol chi? Na, dim o gwbl!
I Co WelBeibl 11:23  Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd: Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth.
I Co WelBeibl 11:24  Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
I Co WelBeibl 11:25  Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi'i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”
I Co WelBeibl 11:26  Bob tro byddwch chi'n bwyta'r bara ac yn yfed o'r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.
I Co WelBeibl 11:27  Felly, bydd pwy bynnag sy'n bwyta'r bara neu'n yfed o gwpan yr Arglwydd mewn ffordd sy'n anweddus yn cael ei gyfri'n euog o bechu yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.
I Co WelBeibl 11:28  Dyna pam mae'n bwysig edrych yn fanwl ar ein bywydau cyn bwyta'r bara ac yfed o'r cwpan.
I Co WelBeibl 11:29  Mae pawb sy'n bwyta ac yfed yn ddifeddwl, heb gydnabod ein bod gyda'n gilydd yn ‛gorff yr Arglwydd‛ yn bwyta ac yfed barn arnyn nhw eu hunain.
I Co WelBeibl 11:30  Dyna pam mae cymaint ohonoch chi'n dioddef o wendid a salwch, a pham mae rhai hyd yn oed wedi marw.
I Co WelBeibl 11:31  Petaen ni'n gwylio'n hymddygiad yn ofalus, fyddai dim rhaid i ni gael ein barnu.
I Co WelBeibl 11:32  Ond hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein barnu gan yr Arglwydd, ein disgyblu mae e'n ei wneud, dim ein condemnio gyda'r byd.
I Co WelBeibl 11:33  Felly pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i fwyta, frodyr a chwiorydd, arhoswch nes bydd pawb wedi cyrraedd.
I Co WelBeibl 11:34  Os ydy rhywun bron llwgu, dylai fwyta gartref, wedyn fydd eich cyfarfodydd chi gyda'ch gilydd ddim yn arwain i farn. Bydda i'n delio gyda'r materion eraill pan fydda i'n dod atoch chi.