Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I KINGS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 18
I Ki WelBeibl 18:1  Ar ôl amser hir, yn ystod y drydedd flwyddyn o sychder, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Elias. “Dos, a dangos dy hun i Ahab. Dw i'n mynd i anfon glaw ar y tir.”
I Ki WelBeibl 18:2  Felly dyma Elias yn mynd i weld Ahab. Roedd y newyn yn ddrwg iawn yn Samaria erbyn hynny.
I Ki WelBeibl 18:3  Dyma Ahab yn galw Obadeia, y swyddog oedd yn gyfrifol am redeg y palas. (Roedd Obadeia yn ddyn oedd yn addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon.
I Ki WelBeibl 18:4  Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.)
I Ki WelBeibl 18:5  Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd drwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.”
I Ki WelBeibl 18:6  A dyma nhw'n rhannu'r wlad gyfan rhyngddyn nhw. Aeth Ahab i un cyfeiriad a dyma Obadeia yn mynd y ffordd arall.
I Ki WelBeibl 18:7  Wrth i Obadeia fynd ar ei ffordd dyma Elias yn dod i'w gyfarfod. Dyma Obadeia'n nabod Elias, a dyma fe'n plygu ar ei liniau o'i flaen a dweud, “Ai ti ydy e go iawn, fy meistr, Elias?”
I Ki WelBeibl 18:8  “Ie, fi ydy e,” meddai Elias. “Dos i ddweud wrth dy feistr fy mod i yn ôl.”
I Ki WelBeibl 18:9  Dyma Obadeia'n ateb, “Beth dw i wedi'i wneud o'i le? Wyt ti eisiau i Ahab fy lladd i?
I Ki WelBeibl 18:10  Mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, mae fy meistr wedi anfon i bob gwlad a theyrnas i chwilio amdanat ti! Os dŷn nhw'n dweud dy fod ti ddim yno, mae'n gwneud iddyn dyngu llw eu bod nhw heb ddod o hyd i ti.
I Ki WelBeibl 18:11  A dyma ti'n dweud wrtho i, ‘Dos i ddweud wrth dy feistr, “Mae Elias yn ôl”!’
I Ki WelBeibl 18:12  Y funud bydda i'n dy adael di, bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gario di i ffwrdd i rywle, a fydd gen i ddim syniad i ble. Os gwna i ddweud wrth Ahab fy mod wedi dy weld di, ac yntau wedyn yn methu dod o hyd i ti, bydd e'n fy lladd i! Dw i wedi addoli'r ARGLWYDD yn ffyddlon ers pan oeddwn i'n fachgen.
I Ki WelBeibl 18:13  Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'i broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw a dŵr i'w yfed.
I Ki WelBeibl 18:14  A nawr, dyma ti'n gofyn i mi fynd i ddweud wrth Ahab ‘Mae Elias yn ôl’! Bydd e'n fy lladd i!”
I Ki WelBeibl 18:15  Ond dyma Elias yn addo iddo, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD hollbwerus yn fyw (y Duw dw i'n ei wasanaethu), bydda i'n cyfarfod Ahab heddiw.”
I Ki WelBeibl 18:16  Felly dyma Obadeia'n mynd i ddweud wrth Ahab. A dyma Ahab yn dod i gyfarfod Elias.
I Ki WelBeibl 18:17  Pan welodd Ahab Elias dyma fe'n dweud, “Ai ti ydy e go iawn? – yr un sy'n creu helynt i Israel!”
I Ki WelBeibl 18:18  Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!
I Ki WelBeibl 18:19  Dw i eisiau i ti gasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd wrth Fynydd Carmel. Tyrd â'r holl broffwydi mae Jesebel yn eu cynnal yno – pedwar cant pum deg o broffwydi Baal a phedwar cant o broffwydi'r dduwies Ashera.”
I Ki WelBeibl 18:20  Felly dyma Ahab yn anfon neges at holl bobl Israel, a dod â'r proffwydi i gyd at ei gilydd i Fynydd Carmel.
I Ki WelBeibl 18:21  Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair.
I Ki WelBeibl 18:22  Felly dyma Elias yn dweud wrth y bobl, “Fi ydy'r unig un sydd ar ôl o broffwydi'r ARGLWYDD, ond mae yna bedwar cant pum deg o broffwydi Baal yma.
I Ki WelBeibl 18:23  Dewch â dau darw ifanc yma. Cân nhw ddewis un tarw, yna ei dorri'n ddarnau, a'i osod ar y coed. Ond dŷn nhw ddim i gynnau tân oddi tano. Gwna i yr un fath gyda'r tarw arall – ei osod ar y coed, ond dim cynnau tân oddi tano.
I Ki WelBeibl 18:24  Galwch chi ar eich duw chi, a gwna i alw ar yr ARGLWYDD. Y duw sy'n anfon tân fydd yn dangos mai fe ydy'r Duw go iawn.” A dyma'r bobl yn ymateb, “Syniad da! Iawn!”
I Ki WelBeibl 18:25  Yna dyma Elias yn dweud wrth broffwydi Baal, “Ewch chi gyntaf. Mae yna lawer ohonoch chi, felly dewiswch darw, a'i baratoi. Yna galwch ar eich duw, ond peidiwch cynnau tân.”
I Ki WelBeibl 18:26  Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi'i gael, ei baratoi a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd – dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi'i chodi.
I Ki WelBeibl 18:27  Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!”
I Ki WelBeibl 18:28  A dyma nhw'n gweiddi'n uwch, a dechrau torri eu hunain gyda chyllyll a gwaywffyn (dyna oedd y ddefod arferol). Roedd eu cyrff yn waed i gyd.
I Ki WelBeibl 18:29  Buon nhw wrthi'n proffwydo'n wallgof drwy'r p'nawn nes ei bod yn amser offrymu aberth yr hwyr. Ond doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw – neb yn cymryd unrhyw sylw.
I Ki WelBeibl 18:30  Yna dyma Elias yn galw'r bobl draw ato. Ar ôl iddyn nhw gasglu o'i gwmpas, dyma Elias yn trwsio allor yr ARGLWYDD oedd wedi cael ei dryllio.
I Ki WelBeibl 18:31  Cymerodd un deg dwy o gerrig – un ar gyfer pob un o lwythau Jacob (yr un roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi'r enw Israel iddo).
I Ki WelBeibl 18:32  A dyma fe'n defnyddio'r cerrig i godi allor i'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n cloddio ffos eithaf dwfn o gwmpas yr allor.
I Ki WelBeibl 18:33  Wedyn gosododd y coed ar yr allor, torri'r tarw yn ddarnau a'i roi ar y coed.
I Ki WelBeibl 18:34  Yna dyma fe'n dweud, “Ewch i lenwi pedwar jar mawr â dŵr, a'i dywallt ar yr offrwm ac ar y coed.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dyma Elias yn dweud, “Gwnewch yr un peth eto,” a dyma wnaethon nhw. “Ac eto,” meddai, a dyma nhw'n gwneud y drydedd waith.
I Ki WelBeibl 18:35  Roedd yr allor yn socian, a'r dŵr wedi llenwi'r ffos o'i chwmpas.
I Ki WelBeibl 18:36  Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i.
I Ki WelBeibl 18:37  Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl yma wybod mai ti ydy'r Duw go iawn, a dy fod ti'n eu troi nhw'n ôl atat ti.”
I Ki WelBeibl 18:38  Yna'n sydyn dyma dân yn disgyn oddi wrth yr ARGLWYDD a llosgi'r offrwm, y coed, y cerrig a'r pridd, a hyd yn oed sychu'r dŵr oedd yn y ffos.
I Ki WelBeibl 18:39  Pan welodd y bobl beth ddigwyddodd, dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau a'u hwynebau ar lawr, a gweiddi, “Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn! Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn!”
I Ki WelBeibl 18:40  Yna dyma Elias yn dweud, “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch gadael i'r un ohonyn nhw ddianc!” Ar ôl iddyn nhw gael eu dal, dyma Elias yn mynd â nhw i lawr at afon Cison a'u lladd nhw i gyd yno.
I Ki WelBeibl 18:41  Yna dyma Elias yn dweud wrth Ahab, “Dos i fwyta ac yfed, achos mae yna sŵn glaw trwm yn dod.”
I Ki WelBeibl 18:42  Felly dyma Ahab yn mynd i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i gopa mynydd Carmel. Plygodd i lawr i weddïo, â'i wyneb ar lawr rhwng ei liniau.
I Ki WelBeibl 18:43  A dyma fe'n dweud wrth ei was, “Dos i fyny i edrych allan dros y môr.” Dyma'r gwas yn mynd i edrych, a dweud, “Does dim byd yna”. Saith gwaith roedd rhaid i Elias ddweud, “Dos eto”.
I Ki WelBeibl 18:44  Yna'r seithfed tro dyma'r gwas yn dweud, “Mae yna gwmwl bach, dim mwy na dwrn dyn, yn codi o'r môr.” A dyma Elias yn dweud, “Brysia i ddweud wrth Ahab, ‘Dringa i dy gerbyd a dos adre, rhag i ti gael dy ddal yn y storm.’”
I Ki WelBeibl 18:45  Cyn pen dim roedd cymylau duon yn yr awyr, gwynt yn chwythu a glaw trwm. Roedd Ahab yn gyrru i fynd yn ôl i Jesreel.
I Ki WelBeibl 18:46  A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi nerth goruwchnaturiol i Elias. Dyma fe'n rhwymo'i wisg am ei ganol a rhedeg o flaen cerbyd Ahab yr holl ffordd i Jesreel.