Toggle notes
Chapter 1
II T | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, Silas a Timotheus, At bobl eglwys Dduw yn Thesalonica – y bobl sydd â pherthynas gyda Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist: | |
II T | WelBeibl | 1:2 | Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. | |
II T | WelBeibl | 1:3 | Frodyr a chwiorydd, dŷn ni'n diolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Dyna ddylen ni ei wneud, achos mae'ch ffydd chi wedi cryfhau cymaint. Ac mae'r cariad sydd gan bob un ohonoch chi at eich gilydd yn tyfu bob dydd. | |
II T | WelBeibl | 1:4 | Dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth bobl eglwysi Duw ym mhobman. Dŷn ni mor falch eich bod chi'n dal ati yn ffyddlon er gwaetha'r holl erlid fuoch chi drwyddo a'r treialon dych chi wedi gorfod eu dioddef. | |
II T | WelBeibl | 1:5 | Mae'r cwbl yn arwydd clir y bydd Duw yn barnu'n gyfiawn. Dych chi'n cael eich cyfri'n deilwng i'w gael e'n teyrnasu drosoch chi, a dyna pam dych chi'n dioddef. | |
II T | WelBeibl | 1:6 | Mae Duw bob amser yn gwneud beth sy'n iawn, a bydd yn talu'n ôl i'r rhai sy'n gwneud i chi ddioddef. | |
II T | WelBeibl | 1:7 | Bydd y dioddef yn dod i ben i chi, ac i ninnau hefyd, pan fydd yr Arglwydd Iesu yn dod i'r golwg eto. Bydd yn dod o'r nefoedd gyda'i angylion cryfion. | |
II T | WelBeibl | 1:8 | Gyda thân yn llosgi'n wenfflam bydd yn cosbi'r rhai sydd ddim yn nabod Duw ac sydd wedi gwrthod y newyddion da am Iesu, ein Harglwydd. | |
II T | WelBeibl | 1:9 | Eu cosb nhw fydd dioddef dinistr diddiwedd, a chael eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd a'i ysblander a'i nerth. | |
II T | WelBeibl | 1:10 | Ar y diwrnod olaf hwnnw bydd yn cael ei anrhydeddu gan ei bobl, ac yn destun rhyfeddod gan bawb sydd wedi credu. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, gan eich bod chi wedi credu'r cwbl ddwedon ni wrthoch chi amdano fe. | |
II T | WelBeibl | 1:11 | Dyna pam dŷn ni'n gweddïo drosoch chi drwy'r amser – gweddïo y bydd Duw'n eich gwneud chi'n deilwng o'r bywyd mae wedi'ch galw i'w fyw. Hefyd, y bydd Duw yn rhoi'r nerth i chi wneud yr holl bethau da dych chi eisiau eu gwneud, a bod yn ffyddlon. | |
Chapter 2
II T | WelBeibl | 2:1 | Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni'n cael ein casglu ato. | |
II T | WelBeibl | 2:2 | Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy'n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy'n mynnu mai dyna mae'r Ysbryd yn ei ddweud. A pheidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy'n dweud mai dyna dŷn ni'n ei gredu. | |
II T | WelBeibl | 2:3 | Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i'r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg, sef yr un sydd wedi'i gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw. | |
II T | WelBeibl | 2:4 | Dyma elyn mawr Duw, yr un sy'n meddwl ei fod yn well na'r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‛dduw‛ arall sy'n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw. | |
II T | WelBeibl | 2:6 | Dylech wybod, felly, am y grym sy'n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i'r golwg cyn i'r amser iawn gyrraedd. | |
II T | WelBeibl | 2:7 | Wrth gwrs, mae'r dylanwad dirgel sy'n hybu drygioni eisoes ar waith. Ond fydd y dirgelwch ddim ond yn aros nes bydd yr un sy'n ei ddal yn ôl ar hyn o bryd yn cael ei symud o'r neilltu. | |
II T | WelBeibl | 2:8 | Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander. | |
II T | WelBeibl | 2:9 | Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo'r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill. | |
II T | WelBeibl | 2:10 | Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw. | |
II T | WelBeibl | 2:11 | Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd. | |
II T | WelBeibl | 2:12 | Felly bydd pawb sy'n gwrthod credu'r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi. | |
II T | WelBeibl | 2:13 | Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir. | |
II T | WelBeibl | 2:14 | Galwodd Duw chi i rannu yn hyn i gyd wrth i ni gyhoeddi'r newyddion da, a byddwch yn cael rhannu ysblander ein Harglwydd Iesu Grist. | |
II T | WelBeibl | 2:15 | Felly, ffrindiau annwyl, arhoswch yn ffyddlon iddo, a daliwch eich gafael yn y cwbl wnaethon ni ei ddysgu i chi, ar lafar ac yn ein llythyr atoch chi. | |
II T | WelBeibl | 2:16 | Dw i'n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi'n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni), | |
Chapter 3
II T | WelBeibl | 3:1 | Yn olaf, ffrindiau, gweddïwch droson ni. Gweddïwch y bydd neges yr Arglwydd yn mynd ar led yn gyflym, ac yn cael ei derbyn yn frwd fel y cafodd gynnoch chi. | |
II T | WelBeibl | 3:2 | A gweddïwch hefyd y byddwn ni'n cael ein hamddiffyn rhag pobl gas a drwg. Dydy pawb ddim yn dod i gredu'r neges! | |
II T | WelBeibl | 3:3 | Ond mae'r Arglwydd yn ffyddlon; bydd e'n rhoi nerth i chi ac yn eich cadw chi'n ddiogel rhag yr un drwg. | |
II T | WelBeibl | 3:4 | Ac mae'r Arglwydd yn ein gwneud ni'n hyderus eich bod chi'n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny. | |
II T | WelBeibl | 3:5 | Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn eich arwain chi i garu Duw a dal ati i ymddiried yn llwyr ynddo fe, y Meseia. | |
II T | WelBeibl | 3:6 | Nawr, dŷn ni'n rhoi gorchymyn i chi, ffrindiau annwyl (ac mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd Iesu Grist i wneud hynny): Cadwch draw oddi wrth unrhyw Gristion sy'n gwrthod gweithio a ddim yn byw fel y dysgon ni i chi fyw. | |
II T | WelBeibl | 3:8 | Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni. | |
II T | WelBeibl | 3:9 | Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn. | |
II T | WelBeibl | 3:10 | “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” – dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi. | |
II T | WelBeibl | 3:11 | Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio. | |
II T | WelBeibl | 3:12 | Mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd i ddweud wrth bobl felly, a phwyso arnyn nhw i fyw fel y dylen nhw a dechrau ennill eu bara menyn. | |
II T | WelBeibl | 3:14 | Cadwch lygad ar unrhyw un sy'n gwrthod gwneud beth dŷn ni'n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno. | |
II T | WelBeibl | 3:15 | Ond peidiwch ei drin fel gelyn – dim ond ei rybuddio fel brawd a'i helpu i newid. | |
II T | WelBeibl | 3:16 | Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd sy'n rhoi heddwch yn gwneud i chi brofi ei heddwch ym mhob sefyllfa. Bydded yr Arglwydd yn agos at bob un ohonoch chi. | |
II T | WelBeibl | 3:17 | Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL. Dyma sy'n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy'n ysgrifennu. Dyma fy llawysgrifen i. | |