Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 38
Jere WelBeibl 38:1  Roedd Sheffateia fab Mattan, Gedaleia fab Pashchwr, Iwchâl fab Shelemeia, a Pashchwr fab Malcîa, wedi clywed beth oedd Jeremeia wedi bod yn ei ddweud wrth y bobl. Roedd yn dweud,
Jere WelBeibl 38:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd pawb sy'n aros yn y ddinas yma'n cael eu lladd yn y rhyfel, neu'n marw o newyn neu haint. Ond bydd y rhai sy'n ildio i'r Babiloniaid yn cael byw.’
Jere WelBeibl 38:3  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd y ddinas yma'n cael ei rhoi yn nwylo byddin brenin Babilon. Byddan nhw'n ei choncro hi.’”
Jere WelBeibl 38:4  Felly dyma'r pedwar swyddog yn mynd at y brenin a dweud, “Rhaid i'r dyn yma farw! Mae e'n torri calonnau'r milwyr a'r bobl sydd ar ôl yn y ddinas yma. Dydy e ddim yn trio helpu'r bobl yma o gwbl – gwneud niwed iddyn nhw mae e!”
Jere WelBeibl 38:5  “O'r gorau,” meddai'r Brenin Sedeceia, “gwnewch beth fynnoch chi ag e. Alla i ddim eich stopio chi.”
Jere WelBeibl 38:6  Felly dyma nhw'n cymryd Jeremeia a'i daflu i bydew Malcîa, aelod o'r teulu brenhinol. Mae'r pydew yn iard y gwarchodlu, a dyma nhw'n ei ollwng i lawr iddo gyda rhaffau. Doedd dim dŵr yn y pydew, ond roedd mwd ar y gwaelod. A dyma Jeremeia yn suddo i mewn i'r mwd.
Jere WelBeibl 38:7  Yna dyma Ebed-melech, dyn du o Affrica oedd yn swyddog yn y llys brenhinol, yn clywed eu bod nhw wedi rhoi Jeremeia yn y pydew. Roedd y brenin mewn achos llys wrth Giât Benjamin ar y pryd.
Jere WelBeibl 38:8  Dyma Ebed-melech yn gadael y palas ac yn mynd i siarad â'r brenin.
Jere WelBeibl 38:9  “Fy mrenin, syr,” meddai, “mae'r dynion yna wedi gwneud peth drwg iawn yn y ffordd maen nhw wedi trin y proffwyd Jeremeia. Maen nhw wedi'i daflu i mewn i'r pydew. Mae'n siŵr o lwgu i farwolaeth yno achos does prin dim bwyd ar ôl yn y ddinas.”
Jere WelBeibl 38:10  Felly dyma'r brenin yn rhoi'r gorchymyn yma i Ebed-melech o Affrica: “Dos â thri deg o ddynion gyda ti, a thynnu'r proffwyd Jeremeia allan o'r pydew cyn iddo farw.”
Jere WelBeibl 38:11  Felly dyma Ebed-melech yn mynd â'r dynion gydag e. Aeth i'r palas a nôl hen ddillad a charpiau o'r ystafell dan y trysordy. Gollyngodd nhw i lawr i Jeremeia yn y pydew gyda rhaffau.
Jere WelBeibl 38:12  Wedyn dyma Ebed-melech yn dweud wrth Jeremeia, “Rho'r carpiau a'r hen ddillad yma rhwng dy geseiliau a'r rhaffau.” A dyma Jeremeia'n gwneud hynny.
Jere WelBeibl 38:13  Yna dyma nhw'n tynnu Jeremeia allan o'r pydew gyda'r rhaffau. Ond roedd rhaid i Jeremeia aros yn iard y gwarchodlu wedyn.
Jere WelBeibl 38:14  Dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon am y proffwyd Jeremeia i'w gyfarfod wrth y drydedd fynedfa i deml yr ARGLWYDD. A dyma fe'n dweud wrth Jeremeia, “Dw i eisiau dy holi di. Paid cuddio dim oddi wrtho i.”
Jere WelBeibl 38:15  Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Os gwna i ddweud y cwbl wrthot ti, byddi'n fy lladd i. A wnei di ddim gwrando arna i os gwna i roi cyngor i ti beth bynnag.”
Jere WelBeibl 38:16  Ond dyma'r Brenin Sedeceia yn addo i Jeremeia, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD sy'n rhoi bywyd i ni yn fyw, wna i ddim dy ladd di, a wna i ddim dy roi di yn nwylo'r dynion hynny sydd eisiau dy ladd di chwaith.”
Jere WelBeibl 38:17  Felly dyma Jeremeia'n dweud wrth Sedeceia, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rhaid i ti ildio i swyddogion brenin Babilon. Os gwnei di, byddi di a dy deulu yn cael byw, a fydd y ddinas yma ddim yn cael ei llosgi.
Jere WelBeibl 38:18  Ond os byddi'n gwrthod ildio iddyn nhw, bydd y ddinas yma'n cael ei rhoi yn nwylo'r Babiloniaid, a byddan nhw'n ei llosgi'n ulw. A fyddi di ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith.’”
Jere WelBeibl 38:19  Dyma'r Brenin Sedeceia yn dweud wrth Jeremeia, “Mae gen i ofn y bobl hynny o Jwda sydd wedi mynd drosodd at y Babiloniaid. Os bydd y Babiloniaid yn fy rhoi i'n eu dwylo nhw, byddan nhw'n fy ngham-drin i.”
Jere WelBeibl 38:20  “Na, fydd hynny ddim yn digwydd,” meddai Jeremeia. “Gwna di beth mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud drwyddo i, a bydd popeth yn iawn. Bydd dy fywyd yn cael ei arbed.
Jere WelBeibl 38:21  Ond os gwnei di wrthod ildio, mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi beth fydd yn digwydd –
Jere WelBeibl 38:22  bydd y merched sydd ar ôl yn y palas brenhinol yn cael eu cymryd at swyddogion brenin Babilon, a dyma fydd yn cael ei ddweud amdanat ti: ‘Mae dy ffrindiau wedi dy gamarwain di! Maen nhw wedi cael y gorau arnat ti! Pan oedd dy draed yn sownd yn y mwd dyma nhw'n cerdded i ffwrdd!’
Jere WelBeibl 38:23  Bydd dy wragedd a dy blant i gyd yn cael eu cymryd gan y Babiloniaid. A fyddi di dy hun ddim yn dianc o'u gafael nhw chwaith – bydd brenin Babilon yn dy ddal di. A bydd y ddinas yma'n cael ei llosgi'n ulw.”
Jere WelBeibl 38:24  “Paid gadael i neb wybod am y sgwrs yma,” meddai Sedeceia wrth Jeremeia. “Os gwnei di, bydd dy fywyd mewn perygl.
Jere WelBeibl 38:25  Petai'r swyddogion yn dod i glywed fy mod i wedi siarad gyda ti ac yn dod atat i ofyn, ‘Beth ddwedaist ti wrth y brenin? A beth ddwedodd e wrthot ti? Dwed y cwbl wrthon ni, neu byddwn ni'n dy ladd di!’
Jere WelBeibl 38:26  Petai hynny'n digwydd, dywed wrthyn nhw, ‘Rôn i'n pledio ar i'r brenin beidio fy anfon i'n ôl i'r dwnsiwn yn nhŷ Jonathan, i farw yno.’”
Jere WelBeibl 38:27  A dyna ddigwyddodd. Pan ddaeth y swyddogion at Jeremeia i'w holi, dyma fe'n dweud yn union beth oedd y brenin wedi'i orchymyn iddo. Wnaethon nhw ddim ei groesholi ddim mwy, achos doedd neb wedi clywed y sgwrs rhwng Jeremeia a'r brenin.
Jere WelBeibl 38:28  Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu hyd y dydd pan gafodd Jerwsalem ei choncro.