JOHN
Chapter 13
John | WelBeibl | 13:1 | Erbyn hyn roedd hi bron yn Ŵyl y Pasg. Roedd Iesu'n gwybod fod yr amser wedi dod iddo adael y byd a mynd at y Tad. Roedd wedi caru y rhai oedd yn perthyn iddo, ac yn awr dangosodd iddyn nhw mor fawr oedd ei gariad. | |
John | WelBeibl | 13:2 | Roedden nhw wrthi'n bwyta swper. Roedd y diafol eisoes wedi rhoi'r syniad i Jwdas, mab Simon Iscariot, i fradychu Iesu. | |
John | WelBeibl | 13:3 | Gwyddai Iesu fod y Tad wedi rhoi popeth yn ei ddwylo e. Roedd wedi dod oddi wrth Dduw, ac roedd yn mynd yn ôl at Dduw. | |
John | WelBeibl | 13:5 | Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a'u sychu gyda'r tywel oedd am ei ganol. | |
John | WelBeibl | 13:6 | Pan ddaeth tro Simon Pedr, dyma Simon yn dweud, “Arglwydd, ti'n golchi fy nhraed i?” | |
John | WelBeibl | 13:7 | Atebodd Iesu, “Ti ddim yn deall beth dw i'n wneud ar hyn o bryd, ond byddi'n dod i ddeall yn nes ymlaen.” | |
John | WelBeibl | 13:8 | Ond meddai Pedr, “Na, byth! chei di ddim golchi fy nhraed i!” “Os ga i ddim dy olchi di,” meddai Iesu, “ti ddim yn perthyn i mi.” | |
John | WelBeibl | 13:9 | “Os felly, Arglwydd,” meddai Simon Pedr, “golcha fy nwylo a'm pen i hefyd, dim jest fy nhraed i!” | |
John | WelBeibl | 13:10 | Atebodd Iesu, “Does dim rhaid i rywun sydd wedi cael bath ymolchi eto, dim ond golchi ei draed, am fod gweddill ei gorff yn lân. A dych chi'n lân – pawb ond un ohonoch chi.” | |
John | WelBeibl | 13:11 | (Roedd yn gwybod pwy oedd yn mynd i'w fradychu; a dyna pam y dwedodd e fod un ohonyn nhw ddim yn lân.) | |
John | WelBeibl | 13:12 | Ar ôl iddo orffen golchi eu traed nhw, gwisgodd ei fantell eto a mynd yn ôl i'w le. “Ydych chi'n deall beth dw i wedi'i wneud i chi?” meddai. | |
John | WelBeibl | 13:13 | “Dych chi'n fy ngalw i yn ‛Athro‛ neu'n ‛Arglwydd‛, ac mae hynny'n iawn, am mai dyna ydw i. | |
John | WelBeibl | 13:14 | Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a'ch Athro wedi golchi'ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd. | |
John | WelBeibl | 13:16 | Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na'r un wnaeth ei anfon e. | |
John | WelBeibl | 13:18 | “Dw i ddim yn siarad amdanoch chi i gyd. Dw i'n nabod y rhai dw i wedi'u dewis yn dda. Ond mae'n rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ddweud ddod yn wir: ‘Mae'r un fu'n bwyta gyda mi wedi troi yn fy erbyn i.’ | |
John | WelBeibl | 13:19 | Dw i'n dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, ac wedyn pan fydd yn digwydd byddwch yn credu mai fi ydy e. | |
John | WelBeibl | 13:20 | Credwch chi fi, mae rhywun sy'n croesawu negesydd sydd wedi'i anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.” | |
John | WelBeibl | 13:21 | Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu drwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.” | |
John | WelBeibl | 13:26 | Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi'i drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. | |
John | WelBeibl | 13:27 | Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.” | |
John | WelBeibl | 13:29 | Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. | |
John | WelBeibl | 13:31 | Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu, “Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu, ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi. | |
John | WelBeibl | 13:32 | Os ydy Duw wedi'i anrhydeddu ynof fi, bydd Duw yn fy anrhydeddu i ynddo'i hun, ac yn gwneud hynny ar unwaith. | |
John | WelBeibl | 13:33 | “Fy mhlant annwyl i, fydda i ddim ond gyda chi am ychydig mwy. Byddwch yn edrych amdana i, ond yn union fel dwedais i wrth yr arweinwyr Iddewig, allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. | |
John | WelBeibl | 13:34 | “Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi. | |
John | WelBeibl | 13:35 | Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.” | |
John | WelBeibl | 13:36 | “Ble rwyt ti'n mynd, Arglwydd?” gofynnodd Simon Pedr iddo. Atebodd Iesu, “Ar hyn o bryd allwch chi ddim dod i ble dw i'n mynd. Ond byddwch yn dod yno yn nes ymlaen.” | |