MATTHEW
Chapter 7
Matt | WelBeibl | 7:2 | Oherwydd cewch chi'ch barnu yn yr un ffordd â dych chi'n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi'n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi. | |
Matt | WelBeibl | 7:3 | “Pam wyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? | |
Matt | WelBeibl | 7:4 | Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu'r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? | |
Matt | WelBeibl | 7:5 | Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall. | |
Matt | WelBeibl | 7:6 | “Peidiwch rhoi beth sy'n sanctaidd i gŵn, rhag iddyn nhw ymosod arnoch chi a'ch rhwygo chi'n ddarnau. Peidiwch taflu perlau gwerthfawr i foch, fydd yn gwneud dim ond eu sathru nhw dan draed. | |
Matt | WelBeibl | 7:7 | “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. | |
Matt | WelBeibl | 7:8 | Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo. | |
Matt | WelBeibl | 7:11 | Felly os dych chi sy'n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i'ch plant, mae'ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i'r rhai sy'n gofyn iddo! | |
Matt | WelBeibl | 7:12 | Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw'ch trin chi. Mae'n egwyddor sy'n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi'n ei ddweud. | |
Matt | WelBeibl | 7:13 | “Ewch i mewn drwy'r fynedfa gul. Oherwydd mae'r fynedfa i'r ffordd sy'n arwain i ddinistr yn llydan. Mae'n ddigon hawdd dilyn y ffordd honno, ac mae llawer o bobl yn mynd arni. | |
Matt | WelBeibl | 7:14 | Ond mae'r fynedfa sy'n arwain i fywyd yn gul, a'r llwybr yn galed. Does ond ychydig o bobl yn dod o hyd iddi. | |
Matt | WelBeibl | 7:15 | “Gwyliwch allan am broffwydi ffug. Bleiddiaid rheibus ydyn nhw go iawn, ond yn rhoi'r argraff i chi eu bod mor ddiniwed â defaid. | |
Matt | WelBeibl | 7:16 | Y ffordd i'w nabod nhw ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. Dydy grawnwin ddim yn tyfu ar ddrain, na ffigys ar ysgall. | |
Matt | WelBeibl | 7:17 | Felly lle mae ffrwyth da mae coeden iach, ond os ydy'r ffrwyth yn ddrwg mae'r goeden yn wael. | |
Matt | WelBeibl | 7:19 | Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i llosgi. | |
Matt | WelBeibl | 7:20 | Felly y ffordd i nabod y proffwydi ffug ydy drwy edrych ar y ffrwyth yn eu bywydau nhw. | |
Matt | WelBeibl | 7:21 | “Fydd pawb sy'n fy ngalw i'n ‛Arglwydd‛ ddim yn cael dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy'n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn. | |
Matt | WelBeibl | 7:22 | Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni'n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’ | |
Matt | WelBeibl | 7:23 | Ond bydda i'n dweud wrthyn nhw'n blaen, ‘Dw i erioed wedi'ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’ | |
Matt | WelBeibl | 7:24 | “Felly dyma sut bobl ydy'r rhai sy'n gwrando arna i ac yna'n gwneud beth dw i'n ddweud. Maen nhw fel dyn call sy'n adeiladu ei dŷ ar graig solet. | |
Matt | WelBeibl | 7:25 | Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. | |
Matt | WelBeibl | 7:26 | Ond mae pawb sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ddweud yn debyg i ddyn dwl sy'n adeiladu ei dŷ ar dywod! | |
Matt | WelBeibl | 7:27 | Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu'n llwyr.” | |
Matt | WelBeibl | 7:28 | Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. | |