Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next
Chapter 24
Numb WelBeibl 24:1  Erbyn hyn, roedd Balaam yn gweld fod yr ARGLWYDD am fendithio Israel. Felly wnaeth e ddim mynd ati i ddewino fel o'r blaen, dim ond mynd yn syth i edrych allan dros yr anialwch.
Numb WelBeibl 24:2  Pan edrychodd, dyma fe'n gweld Israel wedi gwersylla bob yn llwyth. A dyma Ysbryd Duw yn dod arno.
Numb WelBeibl 24:3  A dyma fe'n cyhoeddi'r neges yma: “Dyma neges Balaam fab Beor; proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.
Numb WelBeibl 24:4  Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad, ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo. Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:
Numb WelBeibl 24:5  Mae dy bebyll di mor hardd, Jacob; ie, dy wersylloedd, O Israel.
Numb WelBeibl 24:6  Maen nhw fel rhesi o balmwydd yn ymestyn i'r pellter, ac fel gerddi ar lan afon. Fel perlysiau wedi'u plannu gan yr ARGLWYDD, neu goed cedrwydd ar lan y dŵr.
Numb WelBeibl 24:7  Bydd ganddyn nhw ddigon o ddŵr i ddyfrio'r tir, a bydd eu disgynyddion fel dyfroedd di-baid. Bydd eu brenin yn fwy nag Agag, a'i deyrnas wedi'i dyrchafu'n uchel.
Numb WelBeibl 24:8  Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft; mae e'n gryf fel ych gwyllt. Byddan nhw'n dinistrio gwledydd eu gelynion – yn torri eu hesgyrn yn ddarnau, a'u saethu gyda saethau.
Numb WelBeibl 24:9  Mae Israel yn gorffwys fel llew, neu lewes – pwy sy'n meiddio tarfu arno? Bydd y sawl sy'n dy fendithio yn profi bendith, a'r sawl sy'n dy felltithio dan felltith!”
Numb WelBeibl 24:10  Roedd y Brenin Balac yn wyllt gynddeiriog gyda Balaam. Curodd ei ddwylo'n wawdlyd, a dweud wrtho, “Gwnes i dy alw di yma i felltithio fy ngelynion i! A dyma ti'n gwneud dim byd ond bendithio! Ti wedi'u bendithio nhw dair gwaith!
Numb WelBeibl 24:11  Well i ti ddianc am adre! Dos! Rôn i wedi dweud y byddwn i'n dy dalu di'n hael, ond gei di ddim byd! Ar yr ARGLWYDD mae'r bai am hynny!”
Numb WelBeibl 24:12  A dyma Balaam yn ateb, “Rôn i wedi dweud wrth dy swyddogion di,
Numb WelBeibl 24:13  ‘Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud wrtho i. Alla i ddim gwneud da na drwg ohono i fy hun, dim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.’”
Numb WelBeibl 24:14  “A nawr dw i'n mynd yn ôl adre at fy mhobl. Ond cyn i mi fynd, gad i mi dy rybuddio di beth mae pobl Israel yn mynd i'w wneud i dy bobl di yn y dyfodol.”
Numb WelBeibl 24:15  A dyma fe'n rhoi'r neges yma: “Dyma neges Balaam fab Beor; proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.
Numb WelBeibl 24:16  Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad, yn gwybod beth mae'r Goruchaf yn ei wneud, ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo. Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:
Numb WelBeibl 24:17  ‘Dw i'n ei weld, ond fydd hyn ddim nawr; dw i'n edrych arno, ond mae'n bell i ffwrdd. Bydd seren yn dod allan o Jacob, teyrnwialen yn codi yn Israel. Bydd yn dinistrio ffiniau pellaf Moab, a'r mynyddoedd lle mae plant Seth yn byw.
Numb WelBeibl 24:18  Bydd yn concro Edom hefyd; fe fydd piau mynyddoedd Seir. Bydd Israel yn mynd yn ei blaen yn ddewr.
Numb WelBeibl 24:19  Bydd brenin yn codi yn Jacob, ac yn dinistrio pawb sydd ar ôl yn Ir.’”
Numb WelBeibl 24:20  Yna dyma Balaam yn edrych ar Amalec ac yn cyhoeddi'r neges yma: “Amalec ydy'r gryfaf o'r gwledydd i gyd, ond dinistr llwyr fydd ei thynged.”
Numb WelBeibl 24:21  Yna edrychodd ar y Ceneaid a chyhoeddi'r neges yma: “Ti'n byw mewn lle sydd mor saff; mae dy nyth yn uchel ar y graig.
Numb WelBeibl 24:22  Ond bydd Cain yn cael ei lyncu pan fydd Asyria'n ei gymryd yn gaeth.”
Numb WelBeibl 24:23  Yna dyma Balaam yn rhoi'r neges yma: “Ond pwy fydd yn cael byw pan fydd Duw yn gwneud hyn?
Numb WelBeibl 24:24  Bydd llongau'n dod o arfordir Cyprus, ac yn ymosod ar Asyria ac Eber. Ond byddan nhw hefyd yn cael eu dinistrio'n llwyr.”
Numb WelBeibl 24:25  Yna dyma Balaam yn mynd adre. A dyma'r Brenin Balac yn mynd i ffwrdd hefyd.