PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 145
Psal | WelBeibl | 145:1 | Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin, a bendithio dy enw di am byth bythoedd! | |
Psal | WelBeibl | 145:3 | Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli! Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni. | |
Psal | WelBeibl | 145:4 | Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd, ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud. | |
Psal | WelBeibl | 145:5 | Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd, a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud. | |
Psal | WelBeibl | 145:6 | Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud, a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawr. | |
Psal | WelBeibl | 145:7 | Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di, ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder. | |
Psal | WelBeibl | 145:9 | Mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb; mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi'i wneud. | |
Psal | WelBeibl | 145:10 | Mae'r cwbl rwyt ti wedi'i greu yn dy foli di, O ARGLWYDD! Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio! | |
Psal | WelBeibl | 145:12 | er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud, ac am ysblander dy deyrnasiad. | |
Psal | WelBeibl | 145:13 | Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd, ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau! Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air, ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud. | |
Psal | WelBeibl | 145:14 | Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio, ac yn gwneud i bawb sydd wedi'u plygu drosodd sefyll yn syth. | |
Psal | WelBeibl | 145:15 | Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti, a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen. | |
Psal | WelBeibl | 145:16 | Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael! Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw. | |
Psal | WelBeibl | 145:18 | Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno; at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno. | |
Psal | WelBeibl | 145:19 | Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu; mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub. | |
Psal | WelBeibl | 145:20 | Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu, ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd. | |