EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 28
Exod | WelBeibl | 28:1 | “Mae dy frawd Aaron a'i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi. | |
Exod | WelBeibl | 28:2 | Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron – gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud. | |
Exod | WelBeibl | 28:3 | Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi'u donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron fydd yn dangos ei fod wedi'i ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi. | |
Exod | WelBeibl | 28:4 | “Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi. | |
Exod | WelBeibl | 28:5 | Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. | |
Exod | WelBeibl | 28:6 | Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi'i ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. | |
Exod | WelBeibl | 28:7 | Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi'u cysylltu i'r corneli, i'w dal gyda'i gilydd. | |
Exod | WelBeibl | 28:8 | Mae'r strap cywrain wedi'i blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi'i wneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. | |
Exod | WelBeibl | 28:11 | Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. | |
Exod | WelBeibl | 28:12 | Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 28:15 | “Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod – allan o liain main wedi'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch. | |
Exod | WelBeibl | 28:17 | Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl; | |
Exod | WelBeibl | 28:20 | a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur. | |
Exod | WelBeibl | 28:21 | Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi'i grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei gwneud. | |
Exod | WelBeibl | 28:26 | Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'u cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod. | |
Exod | WelBeibl | 28:27 | Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod, wrth ymyl y gwnïad sydd uwchben strap yr effod. | |
Exod | WelBeibl | 28:28 | Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwchben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. | |
Exod | WelBeibl | 28:29 | Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd, bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel. | |
Exod | WelBeibl | 28:30 | Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 28:32 | Mae lle i'r pen fynd drwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi'i bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo. | |
Exod | WelBeibl | 28:33 | Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi'u gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw – | |
Exod | WelBeibl | 28:35 | Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw. | |
Exod | WelBeibl | 28:36 | “Yna gwneud medaliwn o aur pur, a chrafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’. | |
Exod | WelBeibl | 28:38 | ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi'u neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol. | |
Exod | WelBeibl | 28:39 | “Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi'i frodio. | |
Exod | WelBeibl | 28:40 | “Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a phenwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud. | |
Exod | WelBeibl | 28:41 | “Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. | |
Exod | WelBeibl | 28:42 | “Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin. | |