Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 11
Ezek WelBeibl 11:1  Dyma'r ysbryd yn fy nghodi ac yn mynd â fi at giât ddwyreiniol teml yr ARGLWYDD. Yno, wrth y fynedfa i'r giât, dyma fi'n gweld dau ddeg pump o ddynion. Yn eu plith roedd Iaasaneia fab Asswr a Plateia fab Benaia, oedd yn arweinwyr sifil.
Ezek WelBeibl 11:2  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, y dynion yma sydd yn cynllwynio drwg ac yn rhoi cyngor gwael i bobl y ddinas.
Ezek WelBeibl 11:3  ‘Fydd dim angen adeiladu tai yn y dyfodol agos,’ medden nhw. ‘Y crochan ydy'r ddinas yma, a ni ydy'r cig sy'n cael aros ynddo.’
Ezek WelBeibl 11:4  Felly, proffwyda yn eu herbyn nhw! Gad iddyn nhw glywed y neges yn glir, ddyn!”
Ezek WelBeibl 11:5  A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dwedodd wrtho i am ddweud: “Dyma neges yr ARGLWYDD: ‘Dyna beth ydych chi'n ddweud, ie? Wel, dw i'n gwybod beth sy'n mynd drwy eich meddyliau chi!
Ezek WelBeibl 11:6  Chi sy'n gyfrifol am farwolaeth llawer iawn o bobl yn y ddinas yma. Mae ei strydoedd yn llawn o gyrff y meirw.’
Ezek WelBeibl 11:7  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi'u taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan!
Ezek WelBeibl 11:8  Mae gynnoch chi ofn i'r gelyn ymosod gyda'i gleddyf. Wel, bydda i'n gwneud i'r gelyn hwnnw ymosod arnoch chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 11:9  ‘Bydda i'n eich barnu chi, drwy eich taflu chi allan o'r ddinas a'ch rhoi chi yn nwylo pobl o wlad arall.
Ezek WelBeibl 11:10  Byddwch chi'n cael eich lladd yn y rhyfel. Bydd y farn yma'n digwydd o fewn ffiniau gwlad Israel, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 11:11  Fydd y ddinas yma ddim yn grochan i chi, a nid chi fydd y cig ynddo! Bydda i'n eich barnu chi ar dir Israel,
Ezek WelBeibl 11:12  a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Dych chi wedi torri fy rheolau i, a gwrthod gwrando arna i. Dych chi wedi ymddwyn fel pobl y gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!’”
Ezek WelBeibl 11:13  Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”
Ezek WelBeibl 11:15  “Ddyn, mae'r bobl sy'n byw yn Jerwsalem wedi bod yn dweud am dy frodyr a dy berthnasau di a phawb o bobl Israel sydd wedi'u cymryd yn gaethion, ‘Maen nhw'n bell i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD. Mae'r wlad yma wedi cael ei rhoi i ni bellach.’
Ezek WelBeibl 11:16  “Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi'u hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’
Ezek WelBeibl 11:17  “Dwed fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthyn nhw: Dw i'n mynd i'ch casglu chi o'r gwledydd lle dych chi ar chwâl, a dw i'n mynd i roi gwlad Israel yn ôl i chi.’
Ezek WelBeibl 11:18  “Byddan nhw'n dod yn ôl ac yn cael gwared â'r holl eilunod a'r pethau ffiaidd sy'n cael eu gwneud yma.
Ezek WelBeibl 11:19  Bydda i'n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i'n cael gwared â'r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 11:20  Byddan nhw'n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw.
Ezek WelBeibl 11:21  Ond am y bobl hynny sy'n addoli'r eilunod ac yn mynd drwy'r defodau ffiaidd yma, bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud.” Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.
Ezek WelBeibl 11:22  Yna dyma'r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.
Ezek WelBeibl 11:23  Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi a gadael y ddinas, yna aros uwchben y mynydd sydd i'r dwyrain o'r ddinas.
Ezek WelBeibl 11:24  Yna cododd yr ysbryd fi, ac aeth Ysbryd Duw a fi yn ôl yn fy ngweledigaeth at y caethion yn Babilon. A dyna ddiwedd y weledigaeth.
Ezek WelBeibl 11:25  Felly dyma fi'n dweud wrth y bobl yn y gaethglud am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddangos i mi.