II SAMUEL
Chapter 19
II S | WelBeibl | 19:2 | Pan glywodd y fyddin fod y brenin wedi torri ei galon am fod ei fab wedi marw, dyma'r fuddugoliaeth yn troi'n ddiwrnod o alar i bawb. | |
II S | WelBeibl | 19:3 | Pan ddaeth y fyddin yn ôl i Machanaîm, roedden nhw'n llusgo i mewn i'r dre fel byddin yn llawn cywilydd am eu bod wedi colli'r frwydr. | |
II S | WelBeibl | 19:4 | Roedd y brenin â'i wyneb yn ei ddwylo, yn crio'n uchel, “O fy mab Absalom! Absalom, fy mab i, fy mab i!” | |
II S | WelBeibl | 19:5 | Dyma Joab yn mynd i'r tŷ at y brenin, a dweud, “Mae dy weision wedi achub dy fywyd di a bywydau dy blant, dy wragedd a dy gariadon heddiw. A dyma ti, yn codi cywilydd arnyn nhw i gyd! | |
II S | WelBeibl | 19:6 | Rwyt ti fel petaet ti'n caru'r rhai sy'n dy gasáu, ac yn casáu'r rhai sy'n dy garu di! Mae'n amlwg fod dy swyddogion a'r dynion yma i gyd yn golygu dim i ti. Mae'n siŵr y byddai'n well gen ti petai Absalom yn dal yn fyw, a ninnau i gyd wedi marw! | |
II S | WelBeibl | 19:7 | Nawr, dos allan yna i longyfarch ac annog dy weision. Dw i'n addo i ti o flaen yr ARGLWYDD, os na ei di allan fydd gen ti neb ar dy ochr di erbyn heno. Bydd pethau'n waeth arnat ti na fuon nhw erioed o'r blaen!” | |
II S | WelBeibl | 19:8 | Felly dyma'r brenin yn codi, a mynd allan i eistedd wrth giât y ddinas. Pan ddywedwyd wrth y bobl ei fod yno, dyma nhw i gyd yn mynd i sefyll o'i flaen. Roedd milwyr Israel (oedd wedi cefnogi Absalom) i gyd wedi dianc am adre. | |
II S | WelBeibl | 19:9 | Roedd yna lot fawr o drafod a dadlau drwy lwythau Israel i gyd. Roedd pobl yn dweud, “Y brenin wnaeth ein hachub ni o afael ein gelynion. Achubodd ni o afael y Philistiaid, ond mae e wedi ffoi o'r wlad o achos Absalom! | |
II S | WelBeibl | 19:10 | A nawr mae Absalom, gafodd ei wneud yn frenin arnon ni, wedi cael ei ladd yn y frwydr. Pam yr oedi? Ddylen ni ddim gofyn i Dafydd ddod yn ôl?” | |
II S | WelBeibl | 19:11 | Dyma'r Brenin Dafydd yn anfon neges at Sadoc ac Abiathar, yr offeiriaid: “Gofynnwch i arweinwyr Jwda, ‘Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl? Dw i wedi clywed fod Israel i gyd yn barod! | |
II S | WelBeibl | 19:12 | Dŷn ni'n perthyn i'n gilydd! Dŷn ni'r un cig a gwaed! Pam ddylech chi fod y rhai olaf i ofyn i mi ddod yn ôl?’ | |
II S | WelBeibl | 19:13 | Hefyd rhowch y neges yma i Amasa: ‘Ti'n perthyn yn agos i mi. Dw i'n addo i ti o flaen Duw mai ti fydd pennaeth y fyddin yn lle Joab o hyn ymlaen.’” | |
II S | WelBeibl | 19:14 | Felly llwyddodd i ennill cefnogaeth pobl Jwda i gyd – roedden nhw'n hollol unfrydol. A dyma nhw'n anfon neges at y brenin, “Tyrd yn ôl, ti a dy ddynion i gyd.” | |
II S | WelBeibl | 19:15 | Dyma'r brenin yn cychwyn am yn ôl. Pan gyrhaeddodd afon Iorddonen roedd pobl Jwda wedi dod i Gilgal i'w gyfarfod a'i hebrwng dros yr afon. | |
II S | WelBeibl | 19:16 | Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm, ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd. | |
II S | WelBeibl | 19:17 | Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a'i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi'r dŵr i gyfarfod y brenin, | |
II S | WelBeibl | 19:18 | ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu'r brenin drosodd ac ennill ei ffafr. Ar ôl iddo groesi'r afon, dyma Shimei fab Gera yn taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin, | |
II S | WelBeibl | 19:19 | a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem. Plîs wnei di anghofio'r cwbl. | |
II S | WelBeibl | 19:20 | Dw i'n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy'r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.” | |
II S | WelBeibl | 19:21 | Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud, “Dylai Shimei farw! Roedd e'n rhegi yr un mae'r ARGLWYDD wedi'i eneinio'n frenin!” | |
II S | WelBeibl | 19:22 | Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Dydy hyn ddim o'ch busnes chi feibion Serwia! Pam dych chi'n tynnu'n groes i mi? Ddylai neb yn Israel gael ei ladd heddiw. Meddyliwch! Dw i'n frenin ar Israel unwaith eto.” | |
II S | WelBeibl | 19:24 | Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem hyd nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff. | |
II S | WelBeibl | 19:25 | Pan ddaeth e o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim dod gyda mi, Meffibosheth?” | |
II S | WelBeibl | 19:26 | Dyma fe'n ateb, “Meistr, fy mrenin. Fy ngwas wnaeth fy nhwyllo i. Am fy mod i'n gloff, rôn i wedi dweud wrtho am gyfrwyo asyn i mi ddod gyda ti. | |
II S | WelBeibl | 19:27 | Ond dyma fe'n gadael a dweud celwydd amdana i wrth y brenin. Ond fy mrenin, syr, rwyt ti fel angel Duw. Gwna beth rwyt ti'n feddwl sydd orau. | |
II S | WelBeibl | 19:28 | Roedd fy nheulu i gyd yn haeddu cael eu lladd gen ti, ond ces i eistedd i fwyta wrth dy fwrdd di. Sut alla i gwyno?” | |
II S | WelBeibl | 19:29 | A dyma'r brenin yn ateb, “Does dim angen dweud dim mwy. Dyma dw i wedi'i benderfynu: Fod y tir i gael ei rannu rhyngot ti a Siba.” | |
II S | WelBeibl | 19:30 | “Gad iddo fe gymryd y cwbl,” meddai Meffibosheth, “Beth sy'n bwysig i mi ydy dy fod ti, syr, wedi dod yn ôl adre'n saff.” | |
II S | WelBeibl | 19:31 | Roedd Barsilai o Gilead wedi dod i lawr o Rogelîm, ac wedi croesi'r Iorddonen i hebrwng y brenin ar ei ffordd. | |
II S | WelBeibl | 19:32 | Roedd yn hen iawn – yn wyth deg oed – ac wedi gofalu am y brenin tra oedd yn aros yn Machanaîm. Roedd yn ddyn pwysig iawn. | |
II S | WelBeibl | 19:33 | Dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Tyrd gyda mi i Jerwsalem, a gwna i dy gynnal di yno.” | |
II S | WelBeibl | 19:34 | Ond dyma Barsilai yn ateb, “Na, does dim pwynt i mi ddod i Jerwsalem. Fydda i ddim byw yn hir iawn eto. | |
II S | WelBeibl | 19:35 | Dw i'n wyth deg oed, ac yn dda i ddim i neb. Dw i ddim yn cael yr un blas ar fwyd a diod ag oeddwn i. Alla i ddim clywed dynion a merched yn canu. Pam ddylwn i fod yn fwrn ar fy meistr, y brenin? | |
II S | WelBeibl | 19:36 | Gwna i ddod gyda ti beth o'r ffordd yr ochr draw i'r Iorddonen, ond does dim angen i'r brenin roi'r fath wobr i mi. | |
II S | WelBeibl | 19:37 | Plîs, gad i mi fynd adre i farw yn y dref lle mae dad a mam wedi cael eu claddu. Ond mae dy was Cimham yma, gad iddo fe fynd gyda ti yn fy lle i, syr. Cei roi beth bynnag wyt eisiau iddo fe.” | |
II S | WelBeibl | 19:38 | Dyma'r brenin yn ateb, “Iawn, caiff Cimham ddod gyda mi, a gwna i roi iddo fe beth fyddwn i wedi'i roi ti. A chei dithau beth rwyt ti eisiau.” | |
II S | WelBeibl | 19:39 | Felly dyma'r bobl i gyd yn croesi'r Iorddonen gyda'r brenin. Roedd y brenin wedi cusanu ffarwél i Barsilai a'i fendithio, ac roedd Barsilai wedi mynd adre. | |
II S | WelBeibl | 19:40 | Pan aeth y brenin drosodd i Gilgal aeth Cimham gydag e. Roedd milwyr Jwda i gyd a hanner rhai Israel wedi dod i hebrwng y brenin dros yr afon. | |
II S | WelBeibl | 19:41 | Ond dechreuodd dynion Israel i gyd fynd at y brenin, yn gofyn iddo, “Pam mae'n brodyr ni, pobl Jwda, wedi sleifio'r brenin a'i deulu ar draws yr afon gyda'i filwyr i gyd?” | |
II S | WelBeibl | 19:42 | “I'n llwyth ni mae'r brenin yn perthyn,” meddai dynion Jwda. “Pam dych chi'n codi helynt am y peth? Ydyn ni wedi cael bwyd yn dâl ganddo? Neu wobr o ryw fath?” | |