Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOB
Prev Up Next
Chapter 12
Job WelBeibl 12:2  “Mae'n amlwg eich bod chi'n bobl mor bwysig! Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd!
Job WelBeibl 12:3  Ond mae gen innau feddwl hefyd – dw i ddim gwaeth na chi. Mae pawb yn gwybod y pethau yna!
Job WelBeibl 12:4  Ond dw i wedi troi'n destun sbort i'm ffrindiau – ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb. Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!
Job WelBeibl 12:5  Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion – ‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’
Job WelBeibl 12:6  Ond mae lladron yn cael bywyd braf, a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff – ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
Job WelBeibl 12:7  Ond meddwch chi: ‘Gofyn i'r anifeiliaid – byddan nhw'n dy ddysgu; neu i'r adar – byddan nhw'n dweud wrthot ti.
Job WelBeibl 12:8  Neu gofyn i'r ddaear – bydd hi'n dy ddysgu, ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.
Job WelBeibl 12:9  Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod mai Duw sydd wedi gwneud hyn?
Job WelBeibl 12:10  Yn ei law e mae bywyd pob creadur ac anadl pob person byw.
Job WelBeibl 12:11  Ydy'r glust ddim yn profi geiriau fel mae'r geg yn blasu bwyd?
Job WelBeibl 12:12  Onid pobl mewn oed sy'n ddoeth, a'r rhai sydd wedi byw'n hir sy'n deall?’
Job WelBeibl 12:13  Duw ydy'r un doeth a chryf; ganddo fe y mae cyngor a deall.
Job WelBeibl 12:14  Does dim ailadeiladu beth mae e wedi'i chwalu; na dianc i'r sawl mae e wedi'i garcharu.
Job WelBeibl 12:15  Pan mae'n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn; pan mae e'n eu gollwng yn rhydd, maen nhw'n boddi'r tir.
Job WelBeibl 12:16  Duw ydy'r un cryf a medrus; mae'r un sydd ar goll a'r un sy'n camarwain yn atebol iddo.
Job WelBeibl 12:17  Mae'n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth, ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid.
Job WelBeibl 12:18  Mae'n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw, ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw.
Job WelBeibl 12:19  Mae'n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth, ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr.
Job WelBeibl 12:20  Mae'n cau cegau'r cynghorwyr ffyddlon, ac yn diddymu cyngor y dynion doeth.
Job WelBeibl 12:21  Mae'n dwyn anfri ar dywysogion, ac yn diarfogi'r rhyfelwr cryf.
Job WelBeibl 12:22  Mae'n datguddio pethau dirgel y tywyllwch, ac yn dod â phethau tywyll i'r golau.
Job WelBeibl 12:23  Mae'n gwneud i wledydd dyfu, ac yna'n eu dinistrio; mae'n estyn ffiniau'r gwledydd ac yna'n eu chwalu.
Job WelBeibl 12:24  Mae'n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o'u pwyll, ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau;
Job WelBeibl 12:25  yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch, ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon.