Chapter 1
| Mala | WelBeibl | 1:2 | “Dw i wedi'ch caru chi,” meddai'r ARGLWYDD. Ond dych chi'n gofyn, “Sut wyt ti wedi dangos dy gariad aton ni?” Ac mae'r ARGLWYDD yn ateb, “Onid oedd Esau'n frawd i Jacob? Dw i wedi caru Jacob | |
| Mala | WelBeibl | 1:3 | ond gwrthod Esau. Dw i wedi gwneud ei fryniau yn ddiffeithwch; a'i dir yn gartref i siacaliaid yr anialwch.” | |
| Mala | WelBeibl | 1:4 | Mae Edom yn dweud, “Mae'n trefi wedi'u chwalu, ond gallwn ailadeiladu'r adfeilion.” Ond dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Gallan nhw adeiladu, ond bydda i'n bwrw i lawr! Byddan nhw'n cael eu galw yn wlad ddrwg, ac yn bobl mae'r ARGLWYDD wedi digio gyda nhw am byth.” | |
| Mala | WelBeibl | 1:5 | Cewch weld y peth drosoch eich hunain, a byddwch yn dweud, “Yr ARGLWYDD sy'n rheoli, hyd yn oed y tu allan i ffiniau Israel!” | |
| Mala | WelBeibl | 1:6 | “Mae mab yn parchu ei dad a chaethwas yn parchu ei feistr. Os dw i'n dad, ble mae'r parch dw i'n ei haeddu? Ac os ydw i'n feistr, pam nad ydw i'n cael fy mharchu?” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Dych chi offeiriaid yn dangos dim ond dirmyg tuag ata i!” “Sut ydyn ni wedi dy ddirmygu di?” meddech chi. | |
| Mala | WelBeibl | 1:7 | “Drwy offrymu bwyd sy'n halogi fy allor i.” “Sut ydyn ni wedi'i halogi?” meddech chi wedyn. “Drwy feddwl, ‘Sdim ots mai bwrdd yr ARGLWYDD ydy e.’” | |
| Mala | WelBeibl | 1:8 | Pan dych chi'n cyflwyno anifail dall i'w aberthu, ydy hynny ddim yn ddrwg? Pan dych chi'n cyflwyno anifail cloff neu sâl, ydy hynny ddim yn ddrwg? Rhowch e i lywodraethwr y wlad! Fyddai e'n cael ei blesio? Fyddai e'n garedig atoch chi? —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 1:9 | Nawr, ceisiwch ofyn am fendith Duw! Fydd e'n garedig atoch chi? Os mai offrymau fel yma dych chi'n eu rhoi iddo, fydd e'n garedig atoch chi? Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: | |
| Mala | WelBeibl | 1:10 | “O na fyddai un ohonoch chi'n cloi giatiau'r deml, fel ei bod hi'n amhosib i roi tân ar fy allor – y cwbl i ddim pwrpas!” “Dw i ddim yn hapus hefo chi o gwbl,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “a dw i ddim yn mynd i dderbyn eich offrwm chi! | |
| Mala | WelBeibl | 1:11 | O un pen o'r byd i'r llall, bydd fy enw'n cael ei barchu drwy'r gwledydd i gyd! Bydd arogldarth ac offrwm pur yn cael ei gyflwyno i mi ym mhobman. Bydd fy enw'n cael ei barchu drwy'r gwledydd i gyd!” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 1:12 | “Ond dych chi'n dangos dirmyg tuag ata i wrth feddwl, ‘Does dim byd sbesial am fwrdd y Meistr; pa wahaniaeth beth sy'n cael ei roi arno?’ | |
| Mala | WelBeibl | 1:13 | ‘Pam boddran?’ meddech chi, ac wfftio'r cwbl;” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “ac yna dod ag anifeiliaid wedi'u dwyn, rhai cloff, a rhai sâl, a chyflwyno'r rheiny'n offrwm i mi! Ydw i wir i fod i'w derbyn nhw gynnoch chi?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn. | |
Chapter 2
| Mala | WelBeibl | 2:2 | “Os wnewch chi ddim gwrando a phenderfynu dangos parch tuag ata i,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi, ac yn troi eich bendithion chi yn felltith. (Yn wir, dw i wedi gwneud hynny, am eich bod chi ddim o ddifrif.) | |
| Mala | WelBeibl | 2:3 | Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion, a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion – perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol, a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw! | |
| Mala | WelBeibl | 2:4 | Byddwch yn gwybod wedyn mai fi roddodd y gorchymyn hwn i chi, fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 2:5 | “Rôn i wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo. Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchu ac ymostwng o'm blaen i. | |
| Mala | WelBeibl | 2:6 | Roedd i ddysgu'r gwir, a doedd e ddim i dwyllo; Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi, ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg. | |
| Mala | WelBeibl | 2:7 | Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir, a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl; gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 2:8 | Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn; dych chi wedi dysgu pethau sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu. Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 2:9 | “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb, am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi, a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.” | |
| Mala | WelBeibl | 2:10 | Onid un tad sydd gynnon ni i gyd? Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni? Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilydd ac yn torri ymrwymiad ein tadau? | |
| Mala | WelBeibl | 2:11 | Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon, ac wedi gwneud pethau ffiaidd yn Israel a Jerwsalem. Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaidd mae'r ARGLWYDD yn ei garu, drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill. | |
| Mala | WelBeibl | 2:12 | Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacob bob un sy'n gwneud y fath beth, ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 2:13 | A dyma beth arall dych chi'n ei wneud: Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDD gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy, ac yn gwrthod derbyn eich rhodd. | |
| Mala | WelBeibl | 2:14 | “Ond pam?” meddech chi. Am fod yr ARGLWYDD yn dyst i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist. Ti wedi bod yn anffyddlon iddi er mai hi ydy dy gymar di, a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas. | |
| Mala | WelBeibl | 2:15 | Oni wnaeth Duw chi'n un? Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd. A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod? Onid plant duwiol? Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon i'r wraig briododd pan yn ifanc. | |
| Mala | WelBeibl | 2:16 | “Dw i'n casáu ysgariad,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel, “a'r rhai sy'n euog o drais,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon. | |
Chapter 3
| Mala | WelBeibl | 3:1 | “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd, a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i. Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio yn dod i'w deml. Ydy, mae angel yr ymrwymiad, dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 3:2 | Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw? Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg? Achos mae e fel tân sy'n toddi metel neu sebon y golchwr. | |
| Mala | WelBeibl | 3:3 | Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian; ac yn puro disgynyddion Lefi – bydd yn eu gloywi fel aur ac arian, er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD. | |
| Mala | WelBeibl | 3:4 | Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem yn plesio'r ARGLWYDD fel roedden nhw ers talwm, yn yr hen ddyddiau. | |
| Mala | WelBeibl | 3:5 | “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu; dw i'n barod i dystio yn erbyn pawb sydd ddim yn fy mharchu – y rhai sy'n dewino ac yn godinebu, sy'n dweud celwydd ar lw, sy'n gormesu gweithwyr (drwy atal eu cyflog), yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad, ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 3:6 | “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid, a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!” | |
| Mala | WelBeibl | 3:7 | “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau, a ddim yn eu cadw. Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi. | |
| Mala | WelBeibl | 3:8 | “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw? Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.” “Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi. “Drwy gadw'r degymau a'r offrymau. | |
| Mala | WelBeibl | 3:9 | Dych chi'n diodde melltith, am eich bod chi'n dwyn oddi arna i – ie, y cwbl lot ohonoch chi! | |
| Mala | WelBeibl | 3:10 | Dewch â'r degwm llawn i'r stordy, fel bod yna fwyd yn fy nheml. Ie, rhowch fi ar brawf,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoedd ac yn tywallt bendith arnoch chi; fyddwch chi'n brin o ddim byd! | |
| Mala | WelBeibl | 3:11 | Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid, rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir; fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 3:12 | “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud eich bod wedi'ch bendithio, am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 3:13 | “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Beth ydyn ni wedi'i ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi. | |
| Mala | WelBeibl | 3:14 | “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw. Beth ydyn ni wedi'i ennill o wrando arno a mynd o gwmpas yn edrych yn drist o flaen yr ARGLWYDD hollbwerus? | |
| Mala | WelBeibl | 3:15 | Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! – maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo; maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’” | |
| Mala | WelBeibl | 3:16 | Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono. | |
| Mala | WelBeibl | 3:17 | “Nhw fydd fy mhobl i,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus, “fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod. Bydda i'n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo. | |
Chapter 4
| Mala | WelBeibl | 4:1 | Ydy, mae'r diwrnod yn dod; mae fel ffwrnais yn llosgi. Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg yn cael eu llosgi fel bonion gwellt, ar y diwrnod sy'n dod,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. “Byddan nhw'n llosgi'n ulw nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl. | |
| Mala | WelBeibl | 4:2 | Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio arnoch chi sy'n fy mharchu i, a iachâd yn ei belydrau. Byddwch yn mynd allan, yn neidio fel llo wedi'i ollwng yn rhydd. | |
| Mala | WelBeibl | 4:3 | Byddwch yn sathru'r rhai drwg, a byddan nhw fel lludw dan eich traed ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,” —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
| Mala | WelBeibl | 4:4 | Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas; y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai ar gyfer Israel gyfan. | |
| Mala | WelBeibl | 4:5 | Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr ARGLWYDD ddod. | |