Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
NUMBERS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 8
Numb WelBeibl 8:2  “Dwed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu'u golau o flaen y menora.’”
Numb WelBeibl 8:3  A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu'u golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 8:4  Gwaith morthwyl oedd y menora – aur wedi'i guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddangos i Moses.
Numb WelBeibl 8:6  “Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd drwy'r ddefod o'u puro nhw.
Numb WelBeibl 8:7  A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio'u corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi.
Numb WelBeibl 8:8  Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro.
Numb WelBeibl 8:9  Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen pabell presenoldeb Duw, a chasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno.
Numb WelBeibl 8:10  Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 8:11  Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 8:12  Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid.
Numb WelBeibl 8:13  Yna mae'r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a'i feibion, i'w cyflwyno nhw'n offrwm sbesial i'r ARGLWYDD.
Numb WelBeibl 8:14  A dyna sut mae'r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau'r Lefiaid.”
Numb WelBeibl 8:15  “Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a'u cyflwyno'n offrwm sbesial i mi.
Numb WelBeibl 8:16  Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i'n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel.
Numb WelBeibl 8:17  Fi piau'r meibion hynaf i gyd, a hefyd bob anifail cyntaf i gael ei eni. Rôn i wedi'u cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft.
Numb WelBeibl 8:18  Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel.
Numb WelBeibl 8:19  A dw i wedi rhoi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw'n mynd yn agos i'r cysegr.”
Numb WelBeibl 8:20  Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru'r Lefiaid. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 8:21  Dyma'r Lefiaid yn mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd drwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a Duw, er mwyn eu puro nhw.
Numb WelBeibl 8:22  Wedi hynny, dyma'r Lefiaid yn mynd i'r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a'i feibion. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Numb WelBeibl 8:24  “Dyma fydd y drefn gyda'r Lefiaid: Maen nhw'n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump oed,
Numb WelBeibl 8:25  a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw'n bum deg oed.
Numb WelBeibl 8:26  Ar ôl ymddeol, maen nhw'n cael dal i helpu'r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.”