Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 2
Prov WelBeibl 2:1  Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud, ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn;
Prov WelBeibl 2:2  os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb, a cheisio deall yn iawn;
Prov WelBeibl 2:3  os byddi di'n gofyn am gyngor doeth, ac yn awyddus i ddeall yn iawn;
Prov WelBeibl 2:4  os byddi'n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi'i guddio,
Prov WelBeibl 2:5  yna byddi di'n deall sut i barchu'r ARGLWYDD a byddi'n dod i wybod am Dduw.
Prov WelBeibl 2:6  Achos yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb; beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall.
Prov WelBeibl 2:7  Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn – ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest.
Prov WelBeibl 2:8  Mae'n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo, ac mae'n gwarchod y rhai sy'n ffyddlon iddo.
Prov WelBeibl 2:9  Byddi'n deall beth sy'n iawn, yn gytbwys, ac yn deg – ie, popeth sy'n dda.
Prov WelBeibl 2:10  Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di,
Prov WelBeibl 2:11  bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff, a bydd deall yn dy warchod.
Prov WelBeibl 2:12  Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg, a rhag y bobl hynny sy'n twyllo o hyd –
Prov WelBeibl 2:13  y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest i ddilyn llwybrau tywyll.
Prov WelBeibl 2:14  Maen nhw wrth eu boddau'n gwneud drwg ac yn mwynhau twyllo –
Prov WelBeibl 2:15  pobl anonest ydyn nhw, ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog.
Prov WelBeibl 2:16  Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol, yr un lac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg,
Prov WelBeibl 2:17  yr un sydd wedi gadael ei gŵr, a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.
Prov WelBeibl 2:18  Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth; mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw.
Prov WelBeibl 2:19  Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl, a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto.
Prov WelBeibl 2:20  Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda, cadw at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
Prov WelBeibl 2:21  Y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn fydd yn byw yn y tir, y rhai sy'n byw'n onest fydd yn cael aros yno.
Prov WelBeibl 2:22  Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd, a'r rhai sy'n twyllo yn cael eu rhwygo o'r tir.