PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 38
Psal | WelBeibl | 38:3 | Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di! Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu. | |
Psal | WelBeibl | 38:4 | Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario. | |
Psal | WelBeibl | 38:5 | Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi, a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp. | |
Psal | WelBeibl | 38:6 | Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohono i'n hun. Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd. | |
Psal | WelBeibl | 38:9 | O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau! Rwyt ti wedi nghlywed i'n griddfan. | |
Psal | WelBeibl | 38:10 | Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym; does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg. | |
Psal | WelBeibl | 38:11 | Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i; a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd. | |
Psal | WelBeibl | 38:12 | Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi, a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad yn faleisus ac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg. | |
Psal | WelBeibl | 38:13 | Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar – yn gwrthod gwrando. Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud – yn dweud dim. | |
Psal | WelBeibl | 38:15 | Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti; byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw. | |
Psal | WelBeibl | 38:16 | Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!” Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro. | |
Psal | WelBeibl | 38:19 | Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos, cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm: | |
Psal | WelBeibl | 38:20 | pobl sy'n talu drwg am dda, ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn. | |