I CHRONICLES
Chapter 23
I Ch | WelBeibl | 23:1 | Pan oedd Dafydd wedi mynd yn hen ac yn dod i ddiwedd ei oes, dyma fe'n gwneud ei fab Solomon yn frenin ar Israel. | |
I Ch | WelBeibl | 23:2 | Yna dyma fe'n galw holl arweinwyr Israel, yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd. | |
I Ch | WelBeibl | 23:3 | Cafodd y Lefiaid oedd yn dri deg oed neu'n hŷn eu cyfrif, ac roedd yna 38,000 ohonyn nhw. | |
I Ch | WelBeibl | 23:4 | A dyma Dafydd yn dweud, “Mae 24,000 i fod i arolygu gwaith Teml yr ARGLWYDD; 6,000 i fod yn swyddogion ac yn farnwyr; | |
I Ch | WelBeibl | 23:5 | 4,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio'r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i'r ARGLWYDD gyda'r offerynnau cerdd dw i wedi'u darparu ar gyfer yr addoliad.” | |
I Ch | WelBeibl | 23:6 | A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw'n grwpiau wedi'u henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari. | |
I Ch | WelBeibl | 23:9 | Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran – tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan. | |
I Ch | WelBeibl | 23:11 | Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw'n cael eu cyfrif fel un teulu. | |
I Ch | WelBeibl | 23:13 | Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i ddisgynyddion eu dewis i fod bob amser yn gyfrifol am yr offer cysegredig, i offrymu aberthau o flaen yr ARGLWYDD, ei wasanaethu a'i addoli. | |
I Ch | WelBeibl | 23:17 | Disgynyddion Elieser: Rechafia oedd yr hynaf. (Doedd gan Elieser ddim mwy o feibion, ond cafodd Rechafia lot fawr o feibion). | |
I Ch | WelBeibl | 23:19 | Meibion Hebron: Ierïa oedd yr hynaf, Amareia yn ail, Iachsiel yn drydydd, ac Icameam yn bedwerydd. | |
I Ch | WelBeibl | 23:22 | (Bu Eleasar farw heb gael meibion, dim ond merched. A dyma'u cefndryd, meibion Cish, yn eu priodi nhw) | |
I Ch | WelBeibl | 23:24 | Dyma ddisgynyddion Lefi yn ôl eu claniau – pob un wedi cael ei restru wrth ei enw o dan enw ei benteulu. Roedd pob un oedd dros ugain oed i wasanaethu yr ARGLWYDD yn y deml. | |
I Ch | WelBeibl | 23:25 | Roedd Dafydd wedi dweud fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi heddwch i'w bobl, ac wedi dod i aros yn Jerwsalem am byth. | |
I Ch | WelBeibl | 23:26 | Felly, bellach, doedd dim rhaid i'r Lefiaid gario'r tabernacl a'r holl offer ar ei gyfer. | |
I Ch | WelBeibl | 23:27 | Y peth olaf roedd Dafydd wedi'i ddweud oedd fod rhaid rhifo'r Lefiaid oedd yn dau ddeg oed neu'n hŷn. | |
I Ch | WelBeibl | 23:28 | Gwaith y Lefiaid oedd helpu'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD. Nhw oedd yn gofalu am yr iard a'r stordai, am olchi'r llestri cysegredig ac unrhyw beth arall oedd angen ei wneud yn nheml Dduw. | |
I Ch | WelBeibl | 23:29 | Nhw oedd yn gyfrifol am y bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob dydd, y blawd mân ar gyfer yr offrwm o rawn, y bisgedi tenau, y cacennau radell, a'r holl gymysgu a'r pwyso a'r mesur. | |
I Ch | WelBeibl | 23:30 | Roedden nhw i fod yn bresennol bob bore i ddiolch i'r ARGLWYDD a chanu mawl iddo. Hefyd bob gyda'r nos, | |
I Ch | WelBeibl | 23:31 | a phan oedd aberth yn cael ei losgi ar y Saboth, yn fisol ar ŵyl y lleuad newydd, ac ar y gwyliau crefyddol eraill. Roedd yn rhaid i'r nifer cywir ohonyn nhw fod yn bresennol bob tro. | |