Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I KINGS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 11
I Ki WelBeibl 11:1  Cafodd y Brenin Solomon berthynas gyda lot fawr o ferched o wledydd eraill. Yn ogystal â merch y Pharo, roedd ganddo gariadon o Moab, Ammon, Edom, Sidon ac o blith yr Hethiaid.
I Ki WelBeibl 11:2  Dyma'r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw'n siŵr o'ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd.
I Ki WelBeibl 11:3  Roedd ganddo saith gant o wragedd a thri chant o gariadon. Ac roedden nhw'n ei arwain ar gyfeiliorn.
I Ki WelBeibl 11:4  Wrth iddo fynd yn hŷn dyma'i wragedd yn ei ddenu ar ôl duwiau dieithr. Wnaeth e ddim aros yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel Dafydd ei dad.
I Ki WelBeibl 11:5  Aeth Solomon i addoli Ashtart, duwies y Sidoniaid, a Milcom, eilun ffiaidd pobl Ammon.
I Ki WelBeibl 11:6  Roedd yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Doedd e ddim yn ei ddilyn yn ffyddlon fel gwnaeth ei dad Dafydd.
I Ki WelBeibl 11:7  Aeth Solomon mor bell â chodi allor baganaidd i addoli Chemosh (eilun ffiaidd Moab) a Molech (eilun ffiaidd yr Ammoniaid) ar ben y bryn sydd i'r dwyrain o Jerwsalem.
I Ki WelBeibl 11:8  Roedd yn gwneud yr un peth i bob un o'i wragedd, iddyn nhw allu llosgi arogldarth ac aberthu anifeiliaid i'w duwiau.
I Ki WelBeibl 11:9  Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda Solomon am ei fod wedi troi i ffwrdd oddi wrtho. Yr ARGLWYDD oedd e, Duw Israel oedd wedi dod at Solomon ddwywaith,
I Ki WelBeibl 11:10  a'i siarsio i beidio gwneud hyn a mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd Solomon ddim wedi gwrando.
I Ki WelBeibl 11:11  Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon, “Am dy fod ti'n ymddwyn fel yma, ac yn cymryd dim sylw o'r ymrwymiad wnes i a'r rheolau rois i i ti, dw i'n mynd i gymryd y deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i dy was.
I Ki WelBeibl 11:12  Ond o barch at Dafydd dy dad, wna i ddim gwneud hyn yn ystod dy oes di. Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar dy fab di.
I Ki WelBeibl 11:13  Wna i ddim ei chymryd hi i gyd. Dw i am adael un llwyth i dy fab o barch at fy ngwas Dafydd, a Jerwsalem, y ddinas dw i wedi'i dewis.”
I Ki WelBeibl 11:14  Yna dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Hadad, o deulu brenhinol Edom, godi yn erbyn Solomon.
I Ki WelBeibl 11:15  Yn ôl yn y cyfnod pan oedd Dafydd yn ymladd Edom roedd Joab, pennaeth ei fyddin, wedi lladd dynion Edom i gyd. Roedd wedi mynd yno i gladdu milwyr Israel oedd wedi syrthio yn y frwydr.
I Ki WelBeibl 11:16  Arhosodd Joab a byddin Israel yno am chwe mis, nes bod dynion Edom i gyd wedi'u lladd.
I Ki WelBeibl 11:17  Ond roedd Hadad wedi dianc, a mynd i'r Aifft gyda rhai o swyddogion ei dad. (Dim ond bachgen ifanc oedd e ar y pryd.)
I Ki WelBeibl 11:18  Aethon nhw o Midian i Paran, lle'r ymunodd dynion eraill gyda nhw, cyn mynd ymlaen i'r Aifft. Dyma nhw'n mynd at y Pharo, brenin yr Aifft, a chael lle i fyw, bwyd, a hyd yn oed peth tir ganddo.
I Ki WelBeibl 11:19  Roedd y Pharo'n hoff iawn o Hadad, a dyma fe'n rhoi ei chwaer-yng-nghyfraith (sef chwaer y Frenhines Tachpenes) yn wraig iddo.
I Ki WelBeibl 11:20  Cafodd chwaer Tachpenes fab i Hadad, a'i alw yn Genwbath, a trefnodd Tachpenes i Genwbath gael ei fagu yn y palas brenhinol gyda phlant y Pharo ei hun.
I Ki WelBeibl 11:21  Pan glywodd Hadad fod Dafydd wedi marw, a Joab hefyd (capten byddin Israel), dyma fe'n gofyn i'r Pharo, “Wnei di adael i mi fynd adre i'm gwlad fy hun?”
I Ki WelBeibl 11:22  A dyma'r Pharo'n gofyn, “Pam? Beth wyt ti'n brin ohono dy fod eisiau mynd i dy wlad dy hun?” “Dim o gwbl,” atebodd Hadad, “ond plîs gad i mi fynd.”
I Ki WelBeibl 11:23  Gelyn arall wnaeth Duw ei godi yn erbyn Solomon oedd Reson, mab Eliada. Roedd Reson wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei feistr, y Brenin Hadadeser o Soba.
I Ki WelBeibl 11:24  Roedd wedi casglu criw o ddynion o'i gwmpas ac yn arwain gang o wrthryfelwyr. Pan goncrodd Dafydd Soba, roedd Reson a'i ddynion wedi dianc ac yna wedi cipio Damascus, a chafodd ei wneud yn frenin yno.
I Ki WelBeibl 11:25  Roedd yn elyn i Israel drwy gydol cyfnod Solomon ac yn gwneud gymaint o ddrwg â Hadad. Roedd yn gas ganddo Israel. Fe oedd yn frenin ar Syria.
I Ki WelBeibl 11:26  Un arall wnaeth droi yn erbyn y Brenin Solomon oedd Jeroboam, un o'i swyddogion. Roedd Jeroboam fab Nebat yn dod o Sereda yn Effraim, ac roedd ei fam, Serŵa, yn wraig weddw.
I Ki WelBeibl 11:27  Dyma pam wnaeth e wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi bod yn adeiladu'r terasau, ac wedi trwsio'r bylchau oedd yn wal dinas ei dad Dafydd.
I Ki WelBeibl 11:28  Roedd hi'n amlwg fod Jeroboam yn ddyn abl. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yma yn weithiwr da, dyma fe'n ei wneud yn fforman ar y gweithwyr o lwyth Joseff.
I Ki WelBeibl 11:29  Un diwrnod roedd Jeroboam wedi mynd allan o Jerwsalem. A dyma'r proffwyd Achïa o Seilo yn ei gyfarfod ar y ffordd, yn gwisgo clogyn newydd sbon. Roedd y ddau ar eu pennau'u hunain yng nghefn gwlad.
I Ki WelBeibl 11:30  Dyma Achïa yn cymryd y clogyn, a'i rwygo yn un deg dau o ddarnau.
I Ki WelBeibl 11:31  A dyma fe'n dweud wrth Jeroboam, “Cymer di ddeg darn. Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i am gymryd teyrnas Israel oddi ar Solomon, a rhoi deg llwyth i ti.
I Ki WelBeibl 11:32  Bydd un llwyth yn cael ei gadael iddo fe, o barch at Dafydd fy ngwas, ac at Jerwsalem, y ddinas dw i wedi'i dewis o'r llwythau i gyd i fod yn ddinas i mi.
I Ki WelBeibl 11:33  Dw i'n gwneud hyn am eu bod nhw wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi addoli Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon). Dŷn nhw ddim wedi byw fel dw i'n dweud, gwneud beth sy'n iawn gen i, nac wedi bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau rois i iddyn nhw, fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon.
I Ki WelBeibl 11:34  Ond dw i ddim am gymryd y deyrnas gyfan oddi arno. Dw i am adael iddo fe fod yn frenin tra bydd e byw, o barch at Dafydd, y gwas wnes i ei ddewis – roedd e'n cadw fy rheolau a'm deddfau i.
I Ki WelBeibl 11:35  Bydda i'n cymryd y deyrnas oddi ar fab Solomon, ac yn rhoi deg llwyth i ti.
I Ki WelBeibl 11:36  Dw i am adael un llwyth i'w fab fel y bydd llinach Dafydd fel lamp yn dal i losgi o mlaen i yn Jerwsalem, y ddinas dw i wedi dewis byw ynddi.
I Ki WelBeibl 11:37  Ond dw i'n dy ddewis di i fod yn frenin ar Israel; byddi'n teyrnasu ar y cyfan rwyt ti'n ddymuno.
I Ki WelBeibl 11:38  Rhaid i ti fod yn ufudd i mi, byw fel dw i'n dweud, a gwneud beth sy'n iawn gen i – cadw'n ufudd i'm rheolau a'm canllawiau fel roedd fy ngwas Dafydd yn gwneud. Os gwnei di hynny, bydda i gyda ti, a bydda i'n rhoi llinach i ti yn union fel gwnes i i Dafydd. Bydda i'n rhoi Israel i ti.
I Ki WelBeibl 11:39  Dw i'n mynd i gosbi disgynyddion Dafydd o achos beth sydd wedi digwydd; ond ddim am byth.”
I Ki WelBeibl 11:40  Ceisiodd Solomon ladd Jeroboam. Ond dyma Jeroboam yn dianc i'r Aifft at y Brenin Shishac. Arhosodd yno nes i Solomon farw.
I Ki WelBeibl 11:41  Mae gweddill hanes Solomon – y cwbl wnaeth e ei gyflawni, a'i ddoethineb – i'w gweld yn y sgrôl Hanes Solomon.
I Ki WelBeibl 11:42  Bu Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd.
I Ki WelBeibl 11:43  Pan fuodd Solomon farw, cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.