ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 6
Isai | WelBeibl | 6:1 | Yn y flwyddyn y buodd y Brenin Wseia farw, gwelais y Meistr yn eistedd ar orsedd uchel, ac ymylon ei wisg yn llenwi'r deml. | |
Isai | WelBeibl | 6:2 | Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan. | |
Isai | WelBeibl | 6:3 | Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud, “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd ydy'r ARGLWYDD hollbwerus! Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!” | |
Isai | WelBeibl | 6:4 | Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg. | |
Isai | WelBeibl | 6:5 | Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.” | |
Isai | WelBeibl | 6:6 | Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi'i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. | |
Isai | WelBeibl | 6:7 | Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.” | |
Isai | WelBeibl | 6:8 | Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” | |
Isai | WelBeibl | 6:9 | Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’ | |
Isai | WelBeibl | 6:10 | Gwna nhw'n ystyfnig, tro eu clustiau'n fyddar, a chau eu llygaid – rhag iddyn nhw weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.” | |
Isai | WelBeibl | 6:11 | Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb: “Nes bydd trefi wedi'u dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw: tai heb bobl ynddyn nhw, a'r tir wedi'i ddifetha a'i adael yn ddiffaith.” | |
Isai | WelBeibl | 6:12 | Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd – a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad. | |