Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOB
Prev Up Next
Chapter 24
Job WelBeibl 24:1  Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn? Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny?
Job WelBeibl 24:2  Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau, ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio.
Job WelBeibl 24:3  Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad, ac yn cadw ych y weddw sydd mewn dyled.
Job WelBeibl 24:4  Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd, ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
Job WelBeibl 24:5  Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch, mae'r tlodion yn mynd allan i weithio, ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith – bwyd iddyn nhw a'u plant.
Job WelBeibl 24:6  Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill, a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.
Job WelBeibl 24:7  Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad, heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni.
Job WelBeibl 24:8  Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm, ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig.
Job WelBeibl 24:9  Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron, a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled.
Job WelBeibl 24:10  Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad, ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.
Job WelBeibl 24:11  Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini, ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.
Job WelBeibl 24:12  Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas; a dynion wedi'u hanafu yn gweiddi am help; ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.
Job WelBeibl 24:13  Mae rhai pobl yn gwrthod y golau; dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrdd nac yn aros ar ei lwybrau.
Job WelBeibl 24:14  Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrio i ladd y tlawd a'r anghenus; mae e fel y lleidr yn y nos.
Job WelBeibl 24:15  Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu; mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb, gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’
Job WelBeibl 24:16  Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos, ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd – dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.
Job WelBeibl 24:17  Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch; dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.
Job WelBeibl 24:18  Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr. Boed i'w dir e gael ei felltithio; boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!
Job WelBeibl 24:19  Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu, mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu.
Job WelBeibl 24:20  Mae'r groth yn ei anghofio, a'r cynrhon yn gwledda arno; a fydd neb yn ei gofio eto; bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden.
Job WelBeibl 24:21  Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant, ac yn cam-drin y weddw.
Job WelBeibl 24:22  Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus, pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.
Job WelBeibl 24:23  Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff, ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud.
Job WelBeibl 24:24  Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu; maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt, ac yn gwywo fel pen y dywysen.
Job WelBeibl 24:25  Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r peth a dangos mod i'n siarad nonsens?”