JOHN
Chapter 3
John | WelBeibl | 3:1 | Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o'r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o'r enw Nicodemus oedd y dyn. | |
John | WelBeibl | 3:2 | Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n athro wedi'i anfon gan Dduw i'n dysgu ni. Mae'r gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.” | |
John | WelBeibl | 3:3 | Dyma Iesu'n ymateb drwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.” | |
John | WelBeibl | 3:4 | “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae'n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw'n sicr ddim mynd i mewn i'r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!” | |
John | WelBeibl | 3:5 | Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy'r Ysbryd. | |
John | WelBeibl | 3:6 | Mae'r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy'n rhoi genedigaeth ysbrydol. | |
John | WelBeibl | 3:8 | Mae'r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Ti'n clywed ei sŵn, ond ti ddim yn gallu dweud o ble mae'n dod nac i ble mae'n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi'u geni drwy'r Ysbryd.” | |
John | WelBeibl | 3:10 | “Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a ti ddim yn deall! | |
John | WelBeibl | 3:11 | Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi'i weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni. | |
John | WelBeibl | 3:12 | Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol? | |
John | WelBeibl | 3:13 | Does neb wedi bod i'r nefoedd, a fi, Mab y Dyn ydy'r unig un sydd wedi dod o'r nefoedd. | |
John | WelBeibl | 3:14 | Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath. | |
John | WelBeibl | 3:16 | “Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. | |
John | WelBeibl | 3:18 | Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi'u condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw. | |
John | WelBeibl | 3:19 | Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond mae pobl wedi caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau. Pam? Am eu bod nhw'n gwneud pethau drwg o hyd. | |
John | WelBeibl | 3:20 | Mae pawb sy'n gwneud pethau drwg yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld. | |
John | WelBeibl | 3:21 | Ond mae'r rhai sy'n ufudd i'r gwir yn dod allan i'r golau, ac mae'n amlwg mai Duw sy'n rhoi'r nerth iddyn nhw wneud beth sy'n iawn.” | |
John | WelBeibl | 3:22 | Ar ôl hyn gadawodd Iesu a'i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu'n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl. | |
John | WelBeibl | 3:23 | Bryd hynny roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio. | |
John | WelBeibl | 3:25 | Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol. | |
John | WelBeibl | 3:26 | Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti'n gwybod y dyn rwyt ti wedi bod yn sôn amdano – yr un oedd gyda ti yr ochr draw i afon Iorddonen? Wel, mae e'n bedyddio hefyd, ac mae pawb yn mynd ato fe.” | |
John | WelBeibl | 3:27 | Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi'i roi iddo mae rhywun yn gallu wneud. | |
John | WelBeibl | 3:28 | Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’ | |
John | WelBeibl | 3:29 | Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus. | |
John | WelBeibl | 3:31 | Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth. | |
John | WelBeibl | 3:32 | Mae'n dweud am beth mae wedi'i weld a'i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu! | |
John | WelBeibl | 3:34 | Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl. | |