DEUTERONOMY
Chapter 2
Deut | WelBeibl | 2:1 | “A dyma ni'n troi'n ôl i gyfeiriad yr anialwch a'r Môr Coch, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni. Buon ni'n crwydro o gwmpas cyrion bryniau Seir am amser hir iawn. | |
Deut | WelBeibl | 2:3 | ‘Dych chi wedi bod yn crwydro o gwmpas y mynyddoedd yma yn llawer rhy hir. Trowch am y gogledd. | |
Deut | WelBeibl | 2:4 | A dywed hyn wrth y bobl, “Dych chi ar fin croesi'r ffin i diriogaeth pobl Edom, sy'n perthyn i chi (sef disgynyddion Esau). Ond bydd ganddyn nhw'ch ofn chi, felly byddwch yn ofalus. | |
Deut | WelBeibl | 2:5 | Peidiwch bygwth nhw. Dw i ddim yn mynd i roi modfedd sgwâr o'u tir nhw i chi. Dw i wedi rhoi bryniau Seir i ddisgynyddion Esau. | |
Deut | WelBeibl | 2:7 | Mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi bendithio popeth dych chi wedi'i wneud. Mae wedi gofalu amdanoch chi tra dych chi wedi bod yn crwydro yn yr anialwch yma ers pedwar deg o flynyddoedd. Mae e wedi bod gyda chi drwy'r amser, ac wedi rhoi i chi bopeth oedd arnoch chi ei angen.”’ | |
Deut | WelBeibl | 2:8 | “Felly dyma ni'n pasio heibio'n perthnasau, disgynyddion Esau, oedd yn byw yn Seir. Troi oddi ar ffordd yr Araba ac osgoi trefi Elat ac Etsion-geber, a theithio ymlaen i gyfeiriad tiroedd anial Moab. | |
Deut | WelBeibl | 2:9 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Peidiwch tarfu ar bobl Moab na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi rhoi Moab iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’” | |
Deut | WelBeibl | 2:11 | Enw pobl Moab arnyn nhw oedd Emiaid. Roedd pobl eraill yn eu galw nhw a'r Anaciaid yn Reffaiaid. | |
Deut | WelBeibl | 2:12 | A'r Horiaid oedd yn arfer byw yn Seir, ond roedd disgynyddion Esau wedi'u concro nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd. A dyna'n union wnaeth Israel yn y tir y daethon nhw i'w gymryd, sef y tir roddodd yr ARGLWYDD iddyn nhw.) | |
Deut | WelBeibl | 2:13 | “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a chroesi Wadi Sered.’ A dyna wnaethon ni. | |
Deut | WelBeibl | 2:14 | “Felly roedd tri deg wyth mlynedd wedi mynd heibio rhwng cyrraedd Cadesh-barnea y tro cyntaf, a chroesi'r Wadi Sered. Erbyn hynny, roedd y genhedlaeth gyfan o filwyr oedd yn Cadesh wedi marw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo ar lw. | |
Deut | WelBeibl | 2:15 | Yn wir, yr ARGLWYDD ei hun oedd wedi cael gwared â nhw, a gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd wedi mynd. | |
Deut | WelBeibl | 2:19 | Pan ddewch chi at dir pobl Ammon, peidiwch tarfu arnyn nhw chwaith, na dechrau ymladd gyda nhw. Dw i ddim am roi eu tir nhw i chi o gwbl. Dw i wedi'i roi e iddyn nhw, sy'n ddisgynyddion i Lot.’” | |
Deut | WelBeibl | 2:20 | (Roedd y tir yma hefyd yn arfer perthyn i'r Reffaiaid. Nhw oedd yn byw yno'n wreiddiol. Enw pobl Ammon arnyn nhw oedd Samswmiaid – | |
Deut | WelBeibl | 2:21 | tyrfa fawr arall o gewri cryfion fel yr Anaciaid. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi'u dinistrio nhw, ac roedd pobl Ammon wedi setlo i lawr ar eu tiroedd. | |
Deut | WelBeibl | 2:22 | A dyna'n union oedd wedi digwydd gyda disgynyddion Esau, sy'n dal i fyw hyd heddiw yn ardal Seir. Roedd yr ARGLWYDD wedi dinistrio'r Horiaid oedd yn byw yno o'u blaenau nhw. | |
Deut | WelBeibl | 2:23 | A'r un fath gyda'r Afiaid oedd yn byw mewn pentrefi mor bell â Gasa yn y de. Y Philistiaid o ynys Creta wnaeth eu dinistrio nhw a setlo i lawr ar eu tiroedd.) | |
Deut | WelBeibl | 2:24 | “Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Ewch yn eich blaenau, a chroesi Dyffryn Arnon. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i chi dros Sihon yr Amoriad, brenin Cheshbon. Ewch i goncro'i dir! Ewch i ryfel yn ei erbyn! | |
Deut | WelBeibl | 2:25 | O heddiw ymlaen bydd pobl ym mhobman yn dychryn ac yn ofni pan fyddan nhw'n clywed amdanoch chi. Byddan nhw'n crynu mewn ofn wrth i chi ddod yn agos.’” | |
Deut | WelBeibl | 2:26 | “Pan oedden ni yn anialwch Cedemoth, dyma fi'n anfon negeswyr at y Brenin Sihon yn Cheshbon, yn cynnig telerau heddwch. | |
Deut | WelBeibl | 2:27 | ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Gwnawn ni aros ar y briffordd, a mynd yn syth trwodd. | |
Deut | WelBeibl | 2:28 | Gwnawn ni dalu am unrhyw fwyd neu ddŵr fyddwn ni ei angen. Dŷn ni ond am i ti adael i ni basio drwy'r wlad – | |
Deut | WelBeibl | 2:29 | fel gwnaeth disgynyddion Esau yn Seir a'r Moabiaid yn Ar. Yna byddwn ni'n croesi afon Iorddonen i'r tir mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi i ni.’ | |
Deut | WelBeibl | 2:30 | “Ond doedd y Brenin Sihon o Cheshbon ddim yn fodlon gadael i ni groesi ei dir. Roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud yn galed ac ystyfnig, er mwyn i chi ei goncro. | |
Deut | WelBeibl | 2:31 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Dw i'n rhoi Sihon a'i dir i chi. Ewch ati i gymryd y wlad drosodd.’ | |
Deut | WelBeibl | 2:33 | dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni i'w drechu. Cafodd Sihon, ei feibion, a'i fyddin i gyd eu lladd. | |
Deut | WelBeibl | 2:34 | Dyma ni'n concro a dinistrio'r trefi i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw – hyd yn oed gwragedd a phlant. | |
Deut | WelBeibl | 2:35 | Dim ond yr anifeiliaid, ac unrhyw beth arall oedd yn werthfawr, wnaethon ni ei gadw. | |
Deut | WelBeibl | 2:36 | Dyma'r ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu i goncro pob tref o Aroer, ger Dyffryn Arnon, a'r dref sydd yn y dyffryn ei hun, yr holl ffordd i Gilead yn y gogledd. | |