EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 30
Exod | WelBeibl | 30:2 | yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun. | |
Exod | WelBeibl | 30:3 | Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno. | |
Exod | WelBeibl | 30:4 | Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion drwyddyn nhw i gario'r allor. | |
Exod | WelBeibl | 30:6 | Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddi (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di. | |
Exod | WelBeibl | 30:7 | “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma. | |
Exod | WelBeibl | 30:8 | A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau. | |
Exod | WelBeibl | 30:9 | Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni. | |
Exod | WelBeibl | 30:10 | Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.” | |
Exod | WelBeibl | 30:12 | “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw. | |
Exod | WelBeibl | 30:13 | Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 30:15 | Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd. | |
Exod | WelBeibl | 30:16 | Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal pabell presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.” | |
Exod | WelBeibl | 30:18 | “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi â dŵr. | |
Exod | WelBeibl | 30:20 | Maen nhw i ymolchi â dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 30:21 | Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.” | |
Exod | WelBeibl | 30:23 | “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr, | |
Exod | WelBeibl | 30:24 | a phum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddia fesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedwar litr o olew olewydd. | |
Exod | WelBeibl | 30:25 | Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. | |
Exod | WelBeibl | 30:26 | Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio pabell presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, | |
Exod | WelBeibl | 30:27 | y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef y stand i'r lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth, | |
Exod | WelBeibl | 30:28 | yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand. | |
Exod | WelBeibl | 30:29 | Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig. | |
Exod | WelBeibl | 30:30 | Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. | |
Exod | WelBeibl | 30:31 | Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau. | |
Exod | WelBeibl | 30:32 | Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd. | |
Exod | WelBeibl | 30:33 | Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’” | |
Exod | WelBeibl | 30:34 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha a galbanwm, gyda'r un faint o fyrr pur, | |
Exod | WelBeibl | 30:35 | a'u cymysgu i wneud arogldarth – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi'i falu'n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig. | |
Exod | WelBeibl | 30:36 | Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a'i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i babell presenoldeb Duw, lle bydda i'n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn. | |
Exod | WelBeibl | 30:37 | Does neb i ddefnyddio'r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd. | |