Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
GENESIS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 28
Gene WelBeibl 28:1  Felly galwodd Isaac am Jacob a'i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan.
Gene WelBeibl 28:2  Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram, a phriodi un o ferched Laban, brawd dy fam.
Gene WelBeibl 28:3  Boed i'r Duw sy'n rheoli popeth dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti, nes byddan nhw'n grŵp mawr o bobloedd.
Gene WelBeibl 28:4  Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion, i ti gymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma'r tir roddodd Duw i Abraham.”
Gene WelBeibl 28:5  Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead).
Gene WelBeibl 28:6  Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan,
Gene WelBeibl 28:7  a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a'i fam a mynd i Padan-aram.
Gene WelBeibl 28:8  Sylweddolodd Esau fod ei wragedd Canaaneaidd ddim yn plesio'i dad.
Gene WelBeibl 28:9  Felly dyma Esau yn mynd at ei ewythr Ishmael (mab Abraham) a phriodi gwraig arall, sef Machalath, merch Ishmael a chwaer Nebaioth.
Gene WelBeibl 28:10  Yn y cyfamser, roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran.
Gene WelBeibl 28:11  Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a'u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr i gysgu.
Gene WelBeibl 28:12  Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau yn codi'r holl ffordd o'r ddaear i'r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau,
Gene WelBeibl 28:13  a'r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy'r ARGLWYDD – Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad,” meddai. “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma lle rwyt ti'n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion.
Gene WelBeibl 28:14  Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion.
Gene WelBeibl 28:15  Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i'n dy amddiffyn ble bynnag ei di, ac yn dod â ti'n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi'i addo i ti.”
Gene WelBeibl 28:16  Dyma Jacob yn deffro. “Mae'n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.”
Gene WelBeibl 28:17  Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i'r nefoedd!”
Gene WelBeibl 28:18  Felly dyma Jacob yn codi'n gynnar. Cymerodd y garreg oedd wedi bod wrth ei ben, a'i gosod fel colofn, a thywallt olew drosti.
Gene WelBeibl 28:19  Galwodd y lle yn Bethel (Lws oedd enw'r dre o'r blaen).
Gene WelBeibl 28:20  Wedyn dyma Jacob yn gwneud addewid: “O Dduw, os byddi di gyda mi, yn fy amddiffyn i ar fy nhaith ac yn rhoi bwyd a dillad i mi
Gene WelBeibl 28:21  nes i mi gyrraedd yn ôl adre'n saff, ti, yr ARGLWYDD, fydd fy Nuw i.
Gene WelBeibl 28:22  Bydd y garreg dw i wedi'i gosod yma yn nodi dy fod ti'n byw yma. A dw i hefyd yn addo rhoi un rhan o ddeg o bopeth yn ôl i ti.”