GENESIS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
Chapter 39
Gene | WelBeibl | 39:1 | Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw. | |
Gene | WelBeibl | 39:2 | Roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft. | |
Gene | WelBeibl | 39:3 | Sylwodd ei feistr fod yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo. | |
Gene | WelBeibl | 39:4 | Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal. | |
Gene | WelBeibl | 39:5 | Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd, roedd yr ARGLWYDD yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir. | |
Gene | WelBeibl | 39:6 | Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth iddo. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond beth i'w fwyta. Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus. | |
Gene | WelBeibl | 39:8 | Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi'n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. | |
Gene | WelBeibl | 39:9 | Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e'n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?” | |
Gene | WelBeibl | 39:10 | Roedd hi'n dal ati i ofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, ond doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi. | |
Gene | WelBeibl | 39:12 | dyma hi'n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei gôt allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan. | |
Gene | WelBeibl | 39:14 | dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian. | |
Gene | WelBeibl | 39:17 | Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i, | |
Gene | WelBeibl | 39:19 | Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut roedd Joseff wedi'i thrin hi, roedd e'n gynddeiriog. | |
Gene | WelBeibl | 39:20 | Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd. | |
Gene | WelBeibl | 39:21 | Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi. | |
Gene | WelBeibl | 39:22 | Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno. | |