I KINGS
Chapter 7
I Ki | WelBeibl | 7:2 | Galwodd e'n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd. | |
I Ki | WelBeibl | 7:3 | Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes). | |
I Ki | WelBeibl | 7:6 | Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a chanopi drosto. | |
I Ki | WelBeibl | 7:7 | Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu'r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi'n goed cedrwydd i gyd o'r llawr i'r to. | |
I Ki | WelBeibl | 7:8 | Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i'r Neuadd yma, ac wedi'i adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i'w wraig, sef merch y Pharo. | |
I Ki | WelBeibl | 7:9 | Roedd yr adeiladau i gyd wedi'u codi'n gyfan gwbl gyda'r cerrig gorau, oedd wedi'u naddu i'w maint a'u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath. | |
I Ki | WelBeibl | 7:10 | Roedd y sylfeini wedi'u gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner. | |
I Ki | WelBeibl | 7:11 | Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi'i adeiladu gyda'r cerrig gorau, pob un wedi'i naddu i'r maint cywir, a gyda choed cedrwydd. | |
I Ki | WelBeibl | 7:12 | O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi'i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi'u naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a chyntedd Teml yr ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 7:14 | Roedd Hiram yn grefftwr medrus, profiadol yn gweithio gyda pres. Roedd yn fab i wraig weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad (oedd yn dod o Tyrus) wedi bod yn weithiwr pres o'i flaen. Roedd gan Hiram allu arbennig i drin pres. Daeth at y Brenin Solomon a gwneud yr holl waith pres iddo. | |
I Ki | WelBeibl | 7:15 | Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws. | |
I Ki | WelBeibl | 7:16 | Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi'i gastio, dros ddau fetr o uchder. | |
I Ki | WelBeibl | 7:17 | Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi'u plethu o gwmpas y capiau, | |
I Ki | WelBeibl | 7:19 | Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron dau fetr o uchder. | |
I Ki | WelBeibl | 7:20 | Ar dop y ddau biler, uwchben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi'u plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas. | |
I Ki | WelBeibl | 7:21 | Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachîn a'r un ar y chwith yn Boas. | |
I Ki | WelBeibl | 7:22 | Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen. | |
I Ki | WelBeibl | 7:23 | Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi'i wneud o bres wedi'i gastio, ac yn cael ei alw ‛Y Môr‛. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch. | |
I Ki | WelBeibl | 7:24 | O gwmpas ‛Y Môr‛, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner. | |
I Ki | WelBeibl | 7:25 | Roedd ‛Y Môr‛ wedi'i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn. | |
I Ki | WelBeibl | 7:26 | Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua pedwar deg pum mil litr o ddŵr. | |
I Ki | WelBeibl | 7:27 | Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder. | |
I Ki | WelBeibl | 7:29 | Roedd y paneli wedi'u haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a cherwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen, roedd patrymau wedi'u plethu. | |
I Ki | WelBeibl | 7:30 | Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi'u haddurno gyda phlethiadau. | |
I Ki | WelBeibl | 7:31 | Tu mewn i'r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli'n sgwâr ac nid crwn. | |
I Ki | WelBeibl | 7:32 | Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion. | |
I Ki | WelBeibl | 7:33 | Roedd yr olwynion wedi'u gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a'r both i gyd o fetel wedi'i gastio. | |
I Ki | WelBeibl | 7:34 | Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi'u gwneud yn rhan o'r ffrâm. | |
I Ki | WelBeibl | 7:35 | Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo. | |
I Ki | WelBeibl | 7:36 | Roedd wedi cerfio cerwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi'u cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o'u cwmpas nhw roedd patrymau wedi'u plethu. | |
I Ki | WelBeibl | 7:37 | Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio'r un mowld. Roedd pob un yr un maint a'r un siâp. | |
I Ki | WelBeibl | 7:38 | Yna dyma fe'n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o'r deg troli. | |
I Ki | WelBeibl | 7:39 | Dyma fe'n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd ‛Y Môr‛ yn y gornel oedd i'r de-ddwyrain o'r deml. | |
I Ki | WelBeibl | 7:40 | Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a phowlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi'i roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD. | |
I Ki | WelBeibl | 7:41 | Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi'u plethu i fynd dros y capiau, | |
I Ki | WelBeibl | 7:42 | pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi'u plethu ar y capiau ar ben y pileri. | |
I Ki | WelBeibl | 7:45 | a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a phowlenni taenellu. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi'u gwneud o bres gloyw. | |
I Ki | WelBeibl | 7:46 | Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen. | |
I Ki | WelBeibl | 7:47 | Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau. | |
I Ki | WelBeibl | 7:48 | Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, y bwrdd aur roedden nhw'n gosod y bara cysegredig arno o flaen yr ARGLWYDD, | |
I Ki | WelBeibl | 7:49 | y canwyllbrennau o aur pur wrth y fynedfa i'r gell fewnol gysegredig (pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith). Hefyd roedd y blodau, y lampau a'r gefeiliau wedi'u gwneud o aur. | |
I Ki | WelBeibl | 7:50 | Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a'r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi'r drysau i'r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi'u gwneud o aur hefyd. | |