Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 17
Isai WelBeibl 17:1  Neges am Damascus: “Edrychwch ar Damascus! Dydy hi ddim yn ddinas bellach – pentwr o gerrig ydy hi!
Isai WelBeibl 17:2  Bydd ei phentrefi yn wag am byth – lle i breiddiau orwedd heb neb i'w dychryn.
Isai WelBeibl 17:3  Bydd trefi caerog Effraim, a sofraniaeth Damascus yn diflannu. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!” —yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 17:4  “Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu, a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd.
Isai WelBeibl 17:5  Yn lle bod fel cae o ŷd yn cael ei gynaeafu, a breichiau'r medelwr yn llawn, bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa yn Nyffryn Reffaïm –
Isai WelBeibl 17:6  dim ond ychydig loffion fydd ar ôl. Bydd fel ysgwyd coeden olewydd, a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf, a phedair neu bump o'r prif ganghennau,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel.
Isai WelBeibl 17:7  Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr. Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
Isai WelBeibl 17:8  yn lle syllu ar yr allorau godon nhw, polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth – eu gwaith llaw eu hunain.
Isai WelBeibl 17:9  Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi'u dinistrio'n llwyr.
Isai WelBeibl 17:10  Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub; ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel. Felly rwyt yn trin gerddi i'r ‛Anwylyd‛, a plannu sbrigyn i dduw estron!
Isai WelBeibl 17:11  Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu; ei weld yn blaguro y bore hwnnw a disgwyl pentwr o gynhaeaf! Ond y cwbl gei di fydd pryder a phoen na ellir ei gwella!
Isai WelBeibl 17:12  Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod! Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr; mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.
Isai WelBeibl 17:13  Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr, bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi. Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt, neu blu ysgall o flaen corwynt.
Isai WelBeibl 17:14  Fin nos, daw dychryn sydyn, ond erbyn y bore does dim ar ôl. Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio, dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!