ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 55
Isai | WelBeibl | 55:1 | “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr! Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag! Prynwch a bwytwch. Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim! | |
Isai | WelBeibl | 55:2 | Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd, a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni? Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion. | |
Isai | WelBeibl | 55:3 | Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth – fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd. | |
Isai | WelBeibl | 55:5 | Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod, a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di yn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw, Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di. | |
Isai | WelBeibl | 55:7 | Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau – troi'n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau. | |
Isai | WelBeibl | 55:8 | Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Isai | WelBeibl | 55:9 | Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi, a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi. | |
Isai | WelBeibl | 55:10 | Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta, | |
Isai | WelBeibl | 55:11 | felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith – mae'n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas. | |
Isai | WelBeibl | 55:12 | Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawen ac yn cael eich arwain mewn heddwch. Bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a'r coed i gyd yn curo dwylo. | |