Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 62
Isai WelBeibl 62:1  “Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi! Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys, nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar a'i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.”
Isai WelBeibl 62:2  Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander; a byddi di'n cael enw newydd gan yr ARGLWYDD ei hun.
Isai WelBeibl 62:3  Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD, neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.
Isai WelBeibl 62:4  Gei di byth eto yr enw ‛Gwrthodedig‛, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‛Anialwch‛. Na, byddi'n cael dy alw ‛Fy hyfrydwch‛, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‛Fy mhriod‛. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
Isai WelBeibl 62:5  Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc, bydd dy blant yn dy briodi di; ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda'i wraig, bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
Isai WelBeibl 62:6  Dw i'n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem. Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd! Chi sy'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
Isai WelBeibl 62:7  peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem, a'i gwneud yn destun mawl drwy'r byd.
Isai WelBeibl 62:8  Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder: “Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷd yn fwyd i dy elynion byth eto! A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwin wnest ti weithio mor galed amdano.
Isai WelBeibl 62:9  Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwyta ac yn moli'r ARGLWYDD. A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwin yn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”
Isai WelBeibl 62:10  Dewch i mewn! Dewch i mewn drwy'r giatiau! Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod! Adeiladwch! Adeiladwch briffordd! Symudwch bob carreg sy'n rhwystr! Codwch faner dros y bobloedd!
Isai WelBeibl 62:11  Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn drwy'r byd i gyd: “Dwedwch wrth Seion annwyl, ‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod! Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod â'i roddion o'i flaen.’”
Isai WelBeibl 62:12  Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd. Pobl Rydd yr ARGLWYDD.” A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw, “Yr un gafodd ei cheisio,” “Dinas heb ei gwrthod”.